'AS wedi dwyn fy syniad o gludo peiriannau anadlu segur dramor'

Steve Eccleshall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Eccleshall yn cyhuddo yr AS Llafur, Steve Witherden, o ddwyn ei syniad

GanTeleri Glyn Jones
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae AS o Gymru wedi'i gyhuddo o ddwyn syniad a oedd yn awgrymu y dylid mynd â pheiriannau anadlu segur o ysbyty yng Nghymru dramor.

Mae'r cyn-heddwas Steve Eccleshall yn dweud iddo ysgrifennu at yr AS Llafur Steve Witherden yn gofyn am gymorth i ryddhau 40 o'r teclynnau segur o Ysbyty Maelor Wrecsam er mwyn eu gyrru i Wcráin.

Ond mewn llythyr dridiau ar ôl i Mr Eccleshall ofyn am help, mae'n ymddangos bod Mr Witherden ei hun yn gwneud cais tebyg - ond yn lle Wcráin fe wnaeth yr AS asgell chwith gais i'r peiriannau anadlu fynd i Ciwba.

Mae rhannau helaeth o'r ddau lythyr yn gwneud yr un pwyntiau ac mae Mr Eccleshall yn cyhuddo Mr Witherden o ddwyn ei syniad.

Mae Steve Witherden, AS Llafur Maldwyn a Glyndŵr, wedi cael cais i ymateb.

Steve WitherdenFfynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Witherden yn AS Llafur Maldwyn a Glyndŵr ers Gorffennaf 2024

Mae Mr Eccleshall, o Bausley ym Mhowys, yn byw yn etholaeth Steve Witherden - mae'n gwirfoddoli gyda Driving Ukraine, elusen sy'n cludo cerbydau ac offer i'r wlad.

Dywed y cyn-blismon iddo gyfarfod â Mr Witherden a Russell George (oedd yn Aelod o Senedd Cymru ar y pryd) gydag aelodau o Gyngor Cymuned Bausley a Criggion.

Yn y cyfarfod mae Mr Eccleshall, sy'n glerc y cyngor, yn dweud ei fod wedi cyflwyno llythyr personol i'r gwleidyddion yn gofyn am ryddhau 40 o beiriannau anadlu.

Mae'n dweud eu bod nhw wedi cael eu darparu yn ystod y pandemig ond oherwydd nad oedden nhw'n cydymffurfio ag offer arall chawson nhw erioed eu defnyddio.

Mewn cwyn at Gomisiynydd Safonau'r Senedd mae Mr Eccleshall yn dweud bod Steve Witherden wedi ysgwyd ei law a'i longyfarch am fynd â chymorth i Wcráin ac wedi dweud y byddai'n gweld beth fyddai'n bosib.

Ond yn ddiweddarach daeth y gwirfoddolwr i wybod bod Mr Witherden wedi gwneud cais ei hun, mewn llythyr, i'r gwasanaeth iechyd.

Cafodd Mr Eccleshall wybod am hyn pan roddodd ffynhonnell yn y gwasanaeth iechyd gopi o'r llythyr iddo.

Ysbyty Maelor WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd y peiriannau yn Ysbyty Maelor Wrecsam erioed eu defnyddio

Mae BBC Cymru wedi gweld y ddogfen sy'n dweud bod yr AS yn ysgrifennu at y GIG fel cadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Ciwba.

Y dyddiad ar y llythyr oedd 9 Chwefror - tridiau ar ôl y cyfarfod gwreiddiol.

Mae Ciwba wedi bod o dan warchae yr Unol Daleithiau ers 1960 ac mae Donald Trump wedi gosod rheolau llymach.

Mae llythyr Mr Witherden yn dweud bod polisi Trump o geisio rhwystro olew rhag cyrraedd Ciwba wedi "gwaethygu'r argyfwng dyngarol" a dywed ei fod yn ymwybodol o'r gwir angen am gyfarpar meddygol wedi iddo ymweld â'r wlad fis Hydref y llynedd.

Ysgrifennodd yr AS, sy'n rhan o ymgyrchoedd i gefnogi Ciwba: "Mae hi wedi dod i fy sylw bod gan Ysbyty Wrecsam Maelor 40 o beiriannau anadlu a nifer o sganwyr opthalmig arbenigol a gafodd eu hanfon i'r ysbyty ar ddechrau pandemig Covid-19 gan Lywodraeth Cymru".

Yn ei lythyr at Steve Witherden dywedodd Mr Eccleshall: "Rwy'n credu bod gan Ysbyty Wrecsam Maelor tua 40 o beiriannau anadlu a nifer o sganwyr arbenigol opthalmig a gafodd eu gyrru iddyn nhw ar ddechrau Covid gan Lywodraeth Cymru."

Mae llythyr Mr Witherden yn parhau gan ddweud: "Rydw i dan yr argraff, tra'u bod nhw wedi bwriadu helpu, nad oes un o'r peiriannau a nodwyd yn cydymffurfio â'r offer sydd gan Ysbyty Maelor ar hyn o bryd.

"O ganlyniad uniongyrchol i'r uchod rydw i wedi cael gwybod bod y peiriannau yma ers pum mlynedd yn cael eu cadw mewn blychau addas i'w cludo ar gwch gan na allan nhw gael eu defnyddio."

Roedd llythyr Mr Eccleshall wedi defnyddio geiriau tebyg ac yn dweud wrth yr AS: "Yn anffodus fy nealltwriaeth i yw, er gwaetha'r bwriad i helpu, nad yw'r peiriannau yma yn cydymffurfio gyda'r peiriannau sydd eisoes gan Wrecsam ac maen nhw ers pum mlynedd wedi'u cadw mewn blychau addas i'w cludo ar gwch am nad oes modd eu defnyddio."

Havana, CiwbaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steve Witherden AS ei fod am helpu Ciwba wedi iddo ymweld â'r wlad yn ddiweddar

Dywedodd Mr Eccleshall wrth BBC Cymru mai ei neges i'r AS yw: "Mae 'na elfen o ymddiriedaeth. Chi yw fy AS, rydw i wedi dod atoch chi gyda syniad.

"Mi wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n helpu fi ac o fewn tri diwrnod rydych chi wedi ei ddwyn.

"Hyd yn oed petaech chi wedi dweud ar y diwrnod cyntaf 'edrychwch, mae'n ddrwg gen i, ond mae gen i ddiddordeb sy'n cystadlu' fuaswn i ddim wedi bod yn hapus, ond fuasai yna ddim llawer y gallwn i wneud am y peth ond i ddwyn y syniad cyfan a pheidio â dweud dim mae hynna'n anonest."

Yn y gŵyn i'r Comisiynydd Safonau yn San Steffan, mae Mr Eccleshall yn dweud bod Steve Witherden wedi rhoi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn "lle anodd".

"Mae pobl Wcráin a phobl Ciwba yn mynd i fod ar eu colled oherwydd bod Witherden wedi bod yn gyfrwys ac anonest," dywedodd.

Mewn datganiad, cadarnhaodd y bwrdd iechyd eu bod wedi "derbyn ceisiadau am yr offer meddygol dan sylw i'w rhoi i Wcráin a Ciwba".

"Rydym ar hyn o bryd yn asesu y goblygiadau ariannol a llywodraethol o unrhyw rodd gan eu bod nhw ar hyn o bryd yn asedau sydd yn berchen i'r bwrdd iechyd.

"Mi wnawn ni gysylltu â Llywodraeth Cymru yn dilyn ein hadolygiad mewnol i'r ceisiadau."

Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau bod y peiriannau anadlu mewn storfa ac na allan nhw gael eu defnyddio ond dywedon nhw eu bod nhw'n ystyried defnyddio'r offer opthalmig.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod angen eu sêl bendith nhw cyn rhoi'r asedau i unrhyw un ac nad oedd cais swyddogol wedi dod gan y bwrdd iechyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.