'Ann, fy ffrind': Cofio 250 mlynedd ers geni'r emynydd, Ann Griffiths

Ann GriffithsFfynhonnell y llun, Wikidata
GanSian Meinir
  • Cyhoeddwyd

Dau gant a hanner o flynyddoedd yn ôl, cafodd Ann Griffiths ei geni, sef un o emynwyr enwocaf y Gymraeg.

Mae ei gwaddol yn enfawr; mae ei geiriau Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd yn cael ei chanu fwy nag unrhyw emyn arall. Ond bu farw yn ddim ond 29 oed, felly mae yna chwilfrydedd ynglŷn â'r ferch ddwyfol o Bowys.

A hithau wedi ei phortreadu yn y sioe Y Danbaid Fendigaid Ann ac wedi pori dros holl eiriau'r emynydd o Ddolwar Fach, y gantores Sian Meinir sy'n egluro beth mae Ann yn ei olygu iddi hi:

Ann, fy ffrind

Ro'n i'n 13 pan gwrddais i ag Ann Griffiths am y tro cyntaf, yn festri capel Salem, Dolgellau. Lis Hughes-Jones, o gwmni theatr Brith Gof, oedd yno'n cyflwyno detholiad o emynau a llythyrau Ann.

Fe ges wefr a fy ngwefru'r noson honno, a byth ers hynny rydw i wedi bod ar daith o ddod i adnabod Ann.

Lis Hughes-Jones yn portreadu AnnFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Lis Hughes-Jones yn portreadu Ann ddechrau'r 1980au - gweld ei pherfformiad oedd dechrau perthynas Sian gyda'r emynydd

Yn 2015, daeth cyfle imi berfformio'r sioe. Derbyniais nawdd gan Gyngor y Celfyddydau ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, a dechrau gweithio ar esblygu'r sgript wreiddiol mewn cyd-weithrediad â'r Llyfrgell Genedlaethol a Chwmni Brith Gof.

Treuliais dair wythnos yn fy 'stafell gerdd yn dysgu ei llythyrau ar fy nghof a thonau yr alawon gwerin ac emynau (rhai a fyddai Ann wedi'i hadnabod ei hun). Dim ond i gysgu a bwyta y dois allan o'r 'stafell am y cyfnod dysgu hwnnw!

Ces bythefnos wedyn yng nghwmni Lis Hughes-Jones yn fy nghyfarwyddo. Yn raddol, daeth y sioe-un-person yn fyw ac o dipyn i beth dois i adnabyddiaeth ddyfnach o ybrydolrwydd ac angerdd 'y danbaid fendigaid Ann'.

'Profiad ysgytwol'

Braint oedd perfformio'r sioe mewn theatrau a chapeli ar draws gwlad.

Anghofia'i fyth mo'r perfformiad agoriadol yn y Llyfrgell Genedlaethol, ymysg y llyfrau. Yno, fe deimlais agosrwydd Ann, efallai gan mai yno mae ei llythyr olaf a rhan o'r ferch o Ddolwar Fach felly yno!

Tua diwedd y sioe, rhewais yn stond; roedd rhywbeth yn fy atal rhag mynd yn fy mlaen i ganu'r emyn olaf. Teimlais bod Ann yn gofyn imi bwyllo, cymryd fy amser heb ruthro. Roedd yn brofiad ysgytwol.

Cofiaf hefyd ar ddiwedd y perfformiad yn Llandudno, i'r gynulleidfa oedi am funudau hir cyn cymeradwyo; yna'n sydyn, dechreuodd pawb gyd-ganu 'Wele'n sefyll' heb unrhyw gyfarwyddyd na threfniant o flaen llaw! Gwefr yn wir.

Disgrifiad,

Sian yn perfformio Y Danbaid Fendigaid Ann - fideo yn rhan o arlwy llwyfan Encore yn yr Eisteddfod AmGen yn 2020

Ces ambell i brofiad rhyfedd arall hefyd megis teimlo torri-gwynt real yn codi yn fy stumog wrth lefaru geiriau Ann am deimlo'n gyfoglyd, teimlo'i chyfriniaeth hi'n llenwi'r lle, a theimlo'r dagrau'n llifo wrth ganu'r pennill:

'Byw heb wres na haul yn taro, byw heb allu marw mwy,

pob rhyw alar wedi darfod, dim ond canu am farwol glwy'.

Gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon bod y profiadau hyn wedi bod ymysg y rhai mwyaf gwerthfawr imi eu cael.

Yr un mor berthnasol heddiw

Mae meddwl Ann yn parhau i fy synnu a'm swyno. Mynna rhai mai cyfrinydd ydyw ac fe gytunaf wrth gwrs, ond fe'i gwelaf hi fel merch arbennig o alluog yn ogystal.

Mae ei hynawsedd ynglyn â'i dawn ei hun yn fy rhyfeddu a chofiaf ddarllen amdani'n teimlo nad oedd 'gwerth i'w hemynau i neb arall ond hi ei hun' a'i bod yn 'cuddio'r rhai yr oedd hi wedi'u rhoi ar bapur wrth eu stwffio o dan glustog ei chadair'!

Diolch byth bod Ruth a'i phriod John Hughes wedi bod yn ddigon synhwyrol a synhwyrus i sylweddoli eu gwerth.

Tudalen o lyfr emynauFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Wele'n Sefyll Rhwng y Mmyrtwydd - emyn enwocaf Ann, mewn casgliad o'i hemynau a gafodd eu casglu gan Ruth a John Hughes. Doedd Ann erioed wedi cofnodi ei barddoniaeth - roedd Ruth, ei morwyn a'i chyfaill, wedi eu cofio, a John wedi eu rhoi ar bapur i sicrhau eu bod yn goroesi

Fy marn i yw bod gwaith Ann yn dal i siarad gyda ni heddiw. Fe wyddai hi'n iawn am y rhiwiau anodd mewn bywyd y mae rhaid inni gyd ymrafael â nhw ar dro.

Dywed, mewn un o'i llythyrau, ei bod 'yn colli ei hanadl ar y rhiwiau' ac yn gorfod ymdopi â 'threialon go smart a gwyntoedd cryfion'. Ond caiff ei chryfhau i wynebu'r treialon hynny gan y 'Gŵr sy'n ymguddfa' iddi.

Mae'n ymwybodol o'i bregusrwydd - 'yn wan ac eiddil ac am garu yn y llwch'. 'Dyw hi byth yn ffugio nac yn cuddio ei beiau. Dwn i ddim os oedd unrhyw iotyn o ddrwg yn perthyn iddi mewn gwirionedd. Ysgwn i beth fyddai seicotherapydd yn ei wneud ohoni heddiw?

Mae sôn amdani'n 'torri allan mewn gorfoledd ar brydiau', gymaint felly fel y gellid clywed ei bloeddiadau led amryw o gaeau i ffwrdd o Ddolwar Fach! Mae hefyd hanes amdani'n cerdded adref o'r Bala mewn rhyw fath o bêrlewyg yr holl ffordd - 'fel na wybu dim amdani ei hun nes dyfod dros Ferwyn'!

Chafodd hi ddim bywyd hawdd. Collodd ei mam pan yn 18, ei chwaer Elizabeth hefyd, ac yna ei thad pan oedd hi'n 28.

Priododd â Thomas Griffiths o Feifod a ganwyd merch iddynt y flwyddyn ganlynol (Elizabeth, ar ôl ei chwaer). Ond bu farw a hithau yn bythefnos oed. Dyna i chi wewyr.

Sian fel AnnFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y Danbaid Fendigaid Ann - Sian yn portreadu Ann yn 2015

Roedd yn berson oedd yn rhoi pwys ar y wedd weledol, bob amser yn drwsiadus ei gwisg. Dywedodd John Hughes ei bod yn 'goron o harddwch' ac yn hoff o 'weu sanau gowych i'r pregethwyr tlawd a ymwelai â'r ardal'!

'Sdim llawer o ddarluniau o Ann i gael yn anffodus, ond dywedwyd ei bod 'o gyfansoddiad tyner, o wynepryd gwyn a gwridog, talcen lled uchel, gwallt tywyll, llygaid siriol ar don y croen, ac o olwg lled fawreddog, ac er hynny yn dra hawdd nesau ati mewn cyfeillach a hoffai'.

Fe hoffwn i feddwl, pe byddem yn cael cyfarfod - Ann a fi - y byddem yn gyfeillion clos, oherwydd rwy' i'n ei chyfri hi yn ffrind.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.