Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro am 'gamdriniaeth' mewn uned addysgol

Roedd y ganolfan wedi ei lleoli yn Y Felinheli
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor wedi ymddiheuro i gyn-ddisgyblion mewn uned addysgol yng Ngwynedd, gan gydnabod bod rhai "wedi cael eu camdrin".
Cafodd Canolfan Brynffynnon ei sefydlu yn 1998 ac roedd yn gwasanaethu Gwynedd gyfan, gan gynnig llefydd ychwanegol i awdurdodau cyfagos.
Roedd y ganolfan, wedi ei lleoli yn Y Felinheli, yn uned addysgol ar gyfer plant gydag anghenion ymddygiad ac emosiynol.
Ond yn 2014 fe gaeodd yr awdurdod lleol y ganolfan.
Mewn datganiad ddydd Llun fe wnaeth Cyngor Gwynedd gynnig ymddiheuriad i gyn-ddisgyblion Canolfan Brynffynnon, gan gydnabod "bod disgyblion wedi cael eu camdrin".
Comisiynu adolygiad newydd
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod: "Dylai pob plentyn a pherson ifanc fod yn ddiogel tra'n derbyn addysg ac mae unrhyw gamdriniaeth - heddiw neu yn y gorffennol - yn fater difrifol iawn.
"Ni ddylai unrhyw blentyn oddef camdriniaeth o unrhyw fath, ac er fod yr achosion hyn yn mynd yn ôl rhai blynyddoedd bellach, rydym ni heddiw yn cydymdeimlo gyda'r dioddefwyr ac yn ymddiheuro wrthynt.
"Yn achos Canolfan Brynffynnon, a gaewyd yn 2014, daeth i'r amlwg fod disgyblion wedi cael eu camdrin.
"Cynhaliwyd ymchwiliad ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru a arweiniodd at achos troseddol ynghyd â gweithredu trefniadau amddiffyn plant.
"Ni aeth yr achos troseddol yn ei flaen a dros y blynyddoedd dilynol, bu i'r cyngor gynnal nifer o ymchwiliadau ac adolygiadau i'r hyn a ddigwyddodd.
"Mae adolygiad newydd o'r holl gamau a gymerwyd bryd hynny eisoes wedi ei gomisiynu gan y cyngor er mwyn sicrhau fod unrhyw wersi a ddysgwyd ar y pryd yn parhau i gael eu gweithredu heddiw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.