Gwerthu clogyn Annie Hughes Griffiths, y ddynes tu ôl i Ddeiseb Heddwch 1923

- Cyhoeddwyd
Mae wyres ffigwr pwysig i hanes merched yng Nghymru wedi penderfynu gwerthu clogyn ei mam-gu sy'n dyddio'n ôl i'r 1920au hwyr neu'r 30au cynnar.
Mae'r awdur Meg Elis o'r Waunfawr yn wyres i'r ddiweddar Annie Hughes Griffiths o Gwrt Mawr, Llangeitho.
Annie oedd arweinydd ymgyrch Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24. Yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, fe lofnododd bron i 400,000 o ferched Cymru ddeiseb yn galw am heddwch byd, ac yn gofyn i ferched America berswadio'r Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.
Roedd Annie'n un o'r pedair a aeth i America i gyflwyno'r gist dderw a oedd yn cynnwys y ddeiseb saith milltir o hyd.

Annie Hughes Griffiths (ail o'r dde) yn cyflwyno'r ddeiseb yn Washington
Mae dilledyn o eiddo Annie, sef clogyn du melfed a les a brynwyd o siop Harrods yn Llundain, wedi bod yn hongian yng nghwpwrdd dillad Meg Elis ers degawdau.
Dywedodd Meg wrth Cymru Fyw: "Mae'n anhygoel, does fawr o oel traul arni hi.
"Mae'n debyg bod hi ddim yn rwbath fasa rhywun yn ei wisgo bob dydd felly fasa hi heb gael gymaint o wisgo â dilledyn cyffredin."
'Oedd hi'n amlwg yn licio gwisgo'n smart"
Dymuniad Meg yw gwerthu'r clogyn chwaethus o un o siopau enwocaf Llundain i rywun fyddai'n ei fwynhau a'i werthfawrogi.
Eglurodd: "Dwi erioed wedi ei gwisgo hi i unrhyw ddigwyddiad allan, dydi ddim yn gwneud dim byd ar hyn o bryd a dwi'n trio clirio pethau'n y tŷ ac o'n i'n meddwl y peth gora' ydi ei rhoi hi ar werth.
"Dwi'n cofio trio'r clogyn unwaith. Roedd Mam-gu'n dalach na fi a dwi'n bum troedfedd naw modfedd.
"Mi fysa ei thaldra'n golygu ei bod yn sefyll allan yn ei hoes hi, ac oedd hi'n amlwg yn licio gwisgo'n smart."

Meg Ellis yn dal y clogyn ac yn edrych ar bortread yr artist Meinir Mathias o'i mam-gu
'Pethau Mam-gu yn rhoi darlun o bwy oedd hi'
Bu farw Annie Hughes Griffiths yn 1942 cyn i Meg gael ei geni. Priododd Annie'r Aelod Seneddol dros Feirionnydd, Thomas Edward Ellis, cyn dod yn fam i'r diweddar Thomas Iorwerth Ellis, sef tad Meg.
Mae Meg yn gresynu na chafodd hi'r fraint o adnabod ei mam-gu ond mae'r hanesion amdani, lluniau ac ambell eitem o'i heiddo wedi creu darlun iddi o bwy oedd hi.
"Pan o'n i'n blentyn yn Aberystwyth roedd ei gwisg going-away hi gen i. Dwi'n cofio gwisgo honno unwaith, oedd hi'n wisg dau ddarn efo'r staes 'ma. Mae honno wedi mynd erbyn hyn.
"Yr unig beth arall sydd gen i ydi ei chopi hi o gyfrol O Gors y Bryniau gan Kate Roberts. Mae hi wedi 'sgwennu ynddo fo, yn amlwg wedi ei brynu fo pan ddaeth hi allan.
"Fel arall does dim llawer o'i heitemau yn y teulu bellach. Mae ei phapurau hi gyd wedi mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol a dwi wedi rhoi y siwtces aeth hi efo hi i America i Sain Ffagan."

Y clogyn melfed a les
Bywyd personol Annie Hughes Griffiths
Daeth trallod i fywyd Annie'n 1899. Collodd ei gŵr Thomas Edward Ellis fis Ebrill y flwyddyn honno a hithau'n feichiog gyda'u hunig fab, Thomas, a anwyd ym mis Rhagfyr.
Fe olygodd mam Meg, y ddiweddar Mari Ellis, lythyrau caru Thom Ellis at Annie Hughes Griffiths a'u cyhoeddi'n ei chyfrol Y Golau Gwan.
Ond dyw'r teulu erioed wedi darganfod llythyrau Annie at Thom, fel eglurodd Meg:
"Yn ôl Mam, mi ddaru hi ddinistrio'r llythyrau o'i hochr hi, o bosib eu bod nhw'n rhy boenus iddi."

Mae arddangosfa barhaol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i ddathlu Deiseb Heddwch Menywod Cymru
Fe ailbriododd Annie'n 1916 ar ôl cyfarfod Peter Hughes Griffiths oedd yn weinidiog mewn capel Cymraeg yn Charing Cross, Llundain.
Ac wrth wybod beth oedd camau Annie'n ystod gwahanol gyfnodau'n ei bywyd mae Meg yn gallu dyddio'r clogyn i'r 1920au hwyr neu'r 30au cynnar.
"Fyddai Annie'n byw'n Llundain am y rhan fwyaf o'r amser bryd hynny, ond yn dod 'nol a blaen i Aberystwyth hefyd lle roedd ganddi gysylltiadau gyda'r coleg a'r Llyfrgell Genedlaethol."
Yr hyn sy'n synnu Meg yw nad oes sôn am ddillad yn nyddiaduron ei mam-gu.
"Mi gadwodd Mam-gu ddyddiadur pan oedd hi drosodd yn America efo'r ddeiseb.
"Mae'n od iawn, mae'n amlwg bod gynni hi ddiddordeb mewn dillad a'i bod hi'n medru gwisgo yn smart, ond yn y dyddiadur - sôn am y llefydd mae'n weld a phobl mae hi wedi gyfarfod yn hytrach na'r dillad y mae hi."

Meg yn gwisgo'r clogyn
Beth yw gobeithion Meg wrth chwilio am brynwr i glogyn ei mam-gu?
"Fasa'n neis tasa pwy bynnag fasa'n ei phrynu hi'n ymwybodol o hanes y ddeiseb ac o hanes Mam-gu ac yn ei pharchu hi oherwydd hynny.
"Fasa hi'n grêt tasa rhywun yn medru ei gwisgo hi!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2024

- Cyhoeddwyd2 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2024
