Lliw, steil a dathlu: Pride Cymru yn llenwi strydoedd Caerdydd

- Cyhoeddwyd
Daeth torfeydd enfawr i Gaerdydd dros y penwythnos i ddathlu gŵyl flynyddol Pride Cymru. Roedd hwn yn benwythnos i'w gofio, gyda steil a ffasiwn gwych i'w gweld ar draws y ddinas.
Mae gan y digwyddiad hanes cyfoethog sy'n olrhain nôl i 1985, pan drefnodd grŵp bach o fyfyrwyr orymdaith Gay Pride gyntaf Cymru yng Nghaerdydd.
Oherwydd yr hinsawdd wleidyddol yn yr 80au - gan gynnwys Adran 28 a'r argyfwng AIDS - protest dros hawliau yr oedd hi'n hytrach na'r parti mawr sydd gennym heddiw.
Cafodd y gŵyl ei hailddechrau yn 1999 fel 'Mardi Gras Caerdydd' ym Mharc Biwt cyn troi yn 'Pride Cymru' yn 2014, ac erbyn hyn mae'n denu dros 50,000 o bobl i'r brifddinas.
Dyma rai lluniau o'r penwythnos:

Yr orymdaith yn mynd lawr Stryd y Castell

Diwrnod i'r teulu oll

Fe ymunodd Mr Urdd yn yr hwyl - ag yntau wedi bod yng Nghasnewydd yn gynharach yn y dydd!

Catrin Feelings yn cael hwyl a sbri yn yr orymdaith, cyn canu ar y prif lwyfan yn y Castell yn hwyrach yn y dydd

Ar ben ei digon!

Cafodd baner lliwiau'r enfys Pride ei chreu yn wreiddiol yn 1978 gan yr artist ac academydd o San Francisco, Gilbert Baker. Fe'i dyluniodd ar gais Harvey Milk, un o'r swyddogion etholedig hoyw agored cyntaf yn UDA, a oedd eisiau symbol pwerus i gynyddu gwelededd i'r gymuned LGBTQ+

Grŵp rhythmig Barra Cwda yn ychwanegu at awyrgylch carnifal yr ŵyl gyda'u curiadau samba

Daeth miloedd allan i ddathlu

Ffasiynol iawn!

Caerdydd llawn lliw ar gyfer Pride Cymru

Gwên o glust i glust!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2025
