Ateb y Galw: Trystan Owen

- Cyhoeddwyd
Gŵr ifanc o Fangor, Gwynedd, yw Trystan Owen. Ar ei dudalen Instagram poblogaidd trysttalks, dolen allanol mae'n dogfennu bywyd cymdeithasol pobl yr ardal mewn cyfres o fideos hwyliog.
Fo sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.
Beth yw dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf i ydi Nain yn dod i nôl fi o'r ysgol mewn Peugeot gwyrdd. Dwi'n cofio hi'n galw fy ffrind Euron yn "Euros" ac wedyn mynd i'w thŷ hi ym Mhorthaethwy, Sir Fôn a chael bar siocled 'Penguin' fel trît, oherwydd doeddwn i ddim yn cael llawer o siocled adref, a chwerthin ar y jôc sâl ar gefn y bar siocled.

Trystan ar draeth efo'i Nain pan yn fach
Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae gen i lawer o lefydd yng Nghymru sy'n dod i'r meddwl ond os fyswn i'n gorfod dewis un, mi fyswn i'n dewis Llanberis oherwydd roeddwn i'n treulio lot o amser yna fel plentyn, yn gweld teulu oedd yn byw yno, chwarae yn y parc, mynd i nofio, mynd am dro ac wedyn ar ddiwedd y dydd cael dwy bunt i fynd i gael hufen iâ gan Yncl Alwyn.
Dwi wrth fy modd yn mynd i Lanberis hyd yn oed rŵan ond mae'r atgofion bob tro yn dod yn ôl ata i.

Trystan yn padl-fyrddio ar Lyn Padarn, Llanberis
Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?
I fod yn onest, y noson orau ges i oedd nos Sul.
I dorri stori hir yn fyr, roeddwn i yn Amsterdam yn nghanol mis Mai ac roeddwn i fod i fynd i ŵyl cerddoriaeth electroneg (house) ac mi gafodd hi ei chanslo awr cyn iddi ddechrau.
Ar yr ail ddiwrnod, mi wnes i ffeindio clwb i fynd iddo ac roedd hi'n noson anhygoel ‒ cerddoriaeth a phobl wych.
Mi ges i ffilmio cyfweliad gyda'r ddau DJ mwyaf poblogaidd ar y sioe a chael llwyth o fideos i'r flog i fynd ar fy sianel YouTube.
Noson anhygoel ‒ ces i gymaint o hwyl, ac roeddwn i'n sobor!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Doniol, hyderus a gweithgar.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Y foment nes i ddeud wrth fy hun 'dim ots be mae pobl yn meddwl ohonaf i, stwffia nhw'.
Mae'n rhaid i mi fynd am beth dwi eisiau neud a chael gymaint o hwyl tra dwi'n gwneud o, oherwydd mae pobl wastad am gael rhywbeth i'w ddweud.
Gwell bod yn hapus a llwyddiannus.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?
Wel wir, mae'r cywilydd i gyd yn dod o'r bore wedyn oherwydd doeddwn i ddim yn cofio llawer... ond mae yna fideo ohonof i yn disgyn lawr grisiau clwb Cube Bangor. Roeddwn i'n tua 18 oed ar y pryd ac mae pawb wedi gweld y fideo.

Clwb nos Cube ym Mangor
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi ddim yn crio yn aml, ond y tro diwetha oedd pan wnes i weld clip o uchafbwyntiau Cymru yn Ewros 2016 oherwydd 'swni'n dweud mai'r haf yna oedd un o'r hafau gorau, ac yn sicr yr haf gorau o fy mywyd.
Jest y ffaith mod i'n fyw i weld Cymru yn y semis yn erbyn Portiwgal a Cristiano Ronaldo ‒ atgof hapus ac emosiynol iawn.

Chris Coleman a thîm Cymru'n gorfoleddu yn 2016
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Wel dwi ddim yn yfed dim mwy, ond dwi'n ffeindio hi'n anodd dweud na i McDonalds, yn enwedig Quarter Pounder!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Mae'n gorfod bod y ffilm Spiderman cyntaf gyda Tobey Maguire.
Roeddwn i wrth fy modd gyda Spiderman ac mi rydw i o hyd.
Dwi'n cofio Nain yn prynu gwisg Spiderman i fi ‒ yr un gyda chyhyrau ‒ a mi oeddwn i'n rhedeg o gwmpas y tŷ yn neidio i fyny ac i lawr y grisiau.
Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio'r ffilm Spiderman ar VHS ar ôl ysgol ac yn gobeithio y byswn i'n gallu bod fel Peter Parker un diwrnod.

Mae obsesiwn Trystan gyda Spiderman yn parhau hyd heddiw
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?
Michael Jackson, cant y cant. Dwi wedi cael fy nwyn i fyny yn gwrando arno fo.
Mae Dad wrth ei fodd efo Michael Jackson hefyd.
'Swn i'n dweud mai fo ydy'r canwr gorau erioed, a mi fyswn i wrth fy modd yn dawnsio fel fo a dysgu'r moonwalk enwog.
Peidiwch â synnu os dach chi'n gweld fi wedi gwisgo fel "Thriller Mike" ar noson Calan Gaeaf rhyw flwyddyn!
Dyweda rhywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi wrth fy modd gyda phêl-fasged a dwi wedi bod ers tua 10 mlynedd rwan.
Dwi wedi caru pêl-droed ers erioed ac yn cefnogi Manchester United, ond ym mlwyddyn 7 ches i ddim fy newis i dîm yr ysgol ac roeddwn i'n drist.
Ond rhywsut neu'i gilydd cafodd Mr Williams, fy athro addysg gorfforol fi i drio pêl-fasged ar ôl ysgol ac mi wnes i syrthio mewn cariad gyda'r gêm yn syth.
Wnes i chwarae i dîm Celts Caernarfon (Dreigiau Caernarfon ydyn nhw bellach) am tua 4-5 mlynedd.
Dwi wedi stopio chwarae i dîm ers cyfnod Covid, ond pan rydw i'n cael amser dwi'n chwarae ym Methesda gyda chriw gwych o ddynion ac un neu ddwy o ferched.
Cymysgedd da o hwyl a chystadleuaeth.

Trystan yn ystod ei ddyddiau'n chwarae pêl fasged i Celtiaid Caernarfon
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?
Rhedeg yn yr haf yn gwrando ar gerddoriaeth electroneg.

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?
Hwn oherwydd faint dwi'n methu chwarae pêl-droed gyda Taid yn yr ardd ac hefyd mae'n gwneud i mi gofio am amseroedd mwy syml.

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Gareth Bale, cant y cant. 'Swn i'n caru teimlo'r fraint o arwain Cymru mor bell ac o chwarae yn erbyn Cristiano Ronaldo a Real Madrid. A hefyd, sut fysa'n teimlo sgorio gôl wych i Gymru?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Mehefin

- Cyhoeddwyd23 Mawrth

- Cyhoeddwyd2 Mawrth
