Canu'r piano mewn cartrefi gofal i godi arian at Eisteddfod y Garreg Las

- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnosau diwethaf, mae Meilyr Hedd Tomos sy'n byw'n Abergwaun wedi bod yn teithio o amgylch bro Eisteddfod y Garreg Las yng ngogledd Sir Benfro yn canu'r piano er mwyn codi arian at gynnal y brifwyl yno.
Ac yntau wedi codi £170 hyd yma, mae gan Meilyr wythnosau prysur o'i flaen wrth iddo fynd o bentref i bentref gyda'i biano trydan yn perfformio ac yn diddanu.
Mae Meilyr yn hen law ar godi miloedd i achosion da drwy ei ddawn fel cerddor.
Dros y blynyddoedd mae wedi codi tua £10,000 i elusennau amrywiol gan gynnwys elusennau canser, Ambiwlans Awyr Cymru a Chymorth Cristnogol, ac yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael ei gefnogaeth y tro hwn.
'Wrth fy modd' ac yn 'ymarfer ddydd a nos'
Mae Meilyr yn enedigol o Eglwyswrw, sydd rhyw 2.5 milltir o le bydd maes yr Eisteddfod ym mhentref Llantwd.
Dywed ei fod "wrth ei fodd" yn canu'r piano, a'i fod yn anrhydedd codi arian er budd y pwyllgorau apêl lleol sy'n codi arian er mwyn croesawu'r eisteddfod i ardal 'y Garreg Las'.
Mae Meilyr sy'n 37 mlwydd oed erbyn hyn, ac yn canu'r piano ers ei fod yn ei arddegau'n cofio ei awch i ddysgu yn y lle cyntaf.
Meddai: "Pan o'n i yn Ysgol y Preseli ro'n i'n gweld lot o fy ffrindiau i yn chware offeryn, felly gofynnodd Mam i fi pa offeryn o'n i isie chware, a piano oedd y dewis."

Mae Meilyr yn mwynhau byw'n annibynnol yn Abergwaun ond oherwydd ei fod yn byw â Syndrom Down, mae angen cymorth ambell waith.
Bydd yn mynd i gartref ei rieni'n Abergwaun yn aml. Yno bydd ei athrawes biano, Elin Owen, yn dod yn wythnosol i roi gwers biano iddo.
"Mae Elin yn athrawes arbennig," meddai Meilyr.
"Sdim angen iddi ddweud wrtha i ymarfer, rwy'n ymarfer ddydd a nos, sdim angen neb i bwsio fi i ymarfer.
"I fi, sdim teimlad gwell na chware'r piano."

Meilyr a'i athrawes biano, Elin Owen
O ganeuon pop Cymraeg i emynau, caneuon sioeau cerdd a chaneuon clasurol, Meilyr sy'n penderfynu pa ganeuon mae eisiau eu dysgu gan Elin.
Eglurai: "Y ffefryn yw caneuon Edward H. a Dewi Pws, Meic Stevens ac unrhyw ganeuon Cymreig.
"Oedd Dewi Pws yn reial cymeriad, a rwy'n gweld Cleif Harpwood yn aml pan i fi'n chware'r organ yn y capel lleol."
Mynd o gapel i gapel i ganu'r organ
Mae yna alw mawr am Meilyr fel organydd yng nghapeli gogledd Sir Benfro.
Mae'n un o organyddion Capel Hermon Abergwaun, mae hefyd yn canu'r organ unwaith y mis yng Nghapel Brynberian, Eglwyswrw a sawl capel arall sydd angen organydd ar y Sul.

Meilyr yn diddanu mewn cartref gofal lleol
Yr hyn sy'n gwneud Meilyr yn bianydd unigryw yw fod ganddo ddull arbennig o ddysgu darnau.
Ei fam, Heather, sy'n egluro sut mae ei athrawes, Elin, wedi addasu ei thechneg dysgu ar ei gyfer.
"Oedd Elin yn dod at Meilyr ac yn gweld pa mor rhwystredig oedd Meilyr yn mynd achos doedd e ffili darllen y gerddoriaeth.
"Nath hi ddyfeisio ffordd fel fod Meilyr yn gallu chwarae wrth ddefnyddio rhifau.
"Oedd hi'n dweud bod Meilyr yn ysu am gael chware a bod ganddo ddawn ac felly bod yn rhaid iddi ffeindio ffordd fel bod Meilyr yn gallu deall.
"Felly mae Elin yn rhoi rhif i bob nodyn sydd ar y papur, ac mae Meilyr yn dysgu wrth ddarllen y rhifau.
"Mae'n dod â chan newydd i Meilyr bob wythnos, a methu deall sut mae Meilyr yn dysgu mor glou!"
"Mae Elin yn dweud wrtha'i i ymarfer y law chwith gynta, ac yna'r law dde ond fi'n mynd sdrêt mewn a defnyddio'r ddwy law yn syth," chwarddai Meilyr.

Meilyr a'i fam, Heather
Diddanu yng nghartrefi gofal ei ardal
Ryw unwaith neu ddwywaith y mis bydd Heather yn mynd â'i mab i Gartref Gofal a Nyrsio Brondesbury yn Aberteifi.
A bu'r preswylwyr yn hael iawn eu cyfraniad pan aeth i ganu'r piano yno'n ddiweddar er budd Eisteddfod y Garreg Las.
Dywedodd Heather, sydd wastad yn gorfod dewis car ddigon hir i gario pianos amrywiol Meilyr, eu bod "yn dwlu arno fe yno, mae fe'n chware emynau a hen ffefrynnau fydden nhw yn 'nabod."
Ychwanegodd Meilyr: "Maen nhw'n dwlu ar emynau fel Calon Lân a Gwahoddiad a chaneuon Cymraeg fel Un Dydd ar y Tro.
"Wy wastad yn cael croeso cynnes ac maen nhw'n gofyn i fi pan wy'n gadael, 'pryd i chi 'ma 'to!'"
Fel un sydd wedi clywed Meilyr yn canu'r piano filoedd o weithiau, beth yw dewis Heather pan mae Meilyr yn canu'r piano i'w fam?
"Mae Meliyr yn chware Myfanwy'n fendigedig a dwi'n licio caneuon gwerin ganddo hefyd ac ambell gân Saesneg fel Edelweiss a Sailing."

Diddanu preswylwyr
'Bydd Eisteddfod y Garreg Las yn sbesial'
Y tro diwethaf i Sir Benfro fod yn gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol oedd yn 2002 pan oedd maes y brifwyl yn Nhyddewi.
Rhyw 13 mlwydd oed oedd Meilyr bryd hynny ac mae ganddo atgofion melys o fod yn rhan o'r oedfa.
Ers hynny, mae Meilyr wedi bod yn eisteddfotwr brwd a bydd yn perfformio ym mhabell Cytûn yn flynyddol ar y maes.

Meilyr yn ei wisg werdd ar ôl bod yn un o seremonïau'r orsedd
Heb os, ei uchafbwynt eisteddfodol hyd yma oedd cael ei anrhydeddu i Orsedd Cymru yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024.
Cafodd ei urddo i'r wisg werdd am ei waith da yn codi arian i elusennau , ac am roi o'i orau er lles eraill, gan gynnwys diddanu yng nghartrefi gofal ei ardal, a chodi calon ar y grŵp Côr-ona yn ystod y cyfnod clo.
"Mae'n anrhydedd bod yn yr orsedd," meddai Meilyr.
"Ddoth criw Radio Cymru a Shân Cothi draw i sgwrsio 'da fi pan ges i wybod 'mod i'n cael fy nerbyn. Fydd e'n sbeshal iawn 'leni."

Mae Meilyr wrth ei fodd yn diddanu pobl wrth ganu'r piano ar faes yr Eisteddfod
Bydd Meilyr yn rhan o'r orsedd ar gyfer y prif seremonïau yn y pafiliwn eleni, a bydd yn rhan o Gylch yr Orsedd fore Llun a Gwener er mwyn croesawu aelodau newydd i Orsedd Cymru.
"Dwi'n edyrch mlaen at weld y cerddor Meinir Jones Parry a Gwenda Mathias sydd wedi gwneud llawer o waith da yn yr ardal yn cael eu hanrhydeddu."
Bydd Meilyr hefyd yn perfformio ym mhabell Encore ar y Sadwrn cyntaf, ac yn perfformio ym mhabell Cytûn trwy gydol yr wythnos, lle bydd Heather yn gweini te a choffi.
Ag Eisteddfod y Garreg Las yn argoeli'n wythnos brysur dros ben iddo, a fydd Meilyr yn cael cyfle i ymlacio o gwbl?
"Wy'n hoff iawn o grwydro'r maes hefyd, mae gymaint ymlaen yn y 'Steddfod, a wy'n gobeithio mynd i'r gigs yng Nghlwb Rygbi Crymych.
"Bydd hi'n Eisteddfod i'w chofio."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Mai 2025

- Cyhoeddwyd3 Mehefin
