Aled Hall: Canu, codi'n gynnar a newid ei enw

- Cyhoeddwyd
Mae gyrfa'r canwr Aled Hall wedi ymestyn dros 30 mlynedd bellach, a'r galw am lais y tenor o Bencader, Sir Gâr mor fawr ag erioed.
Ond dim canwr opera oedd y freuddwyd i'r Aled ifanc. Pan oedd yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ddiwedd yr 80au, roedd â'i fryd ar gyfansoddi ar gyfer ffilmiau.
Yn ffodus i'r byd opera, doedd gan Aled ddim llawer o ysfa academaidd, ac yn ei flwyddyn olaf, penderfynodd fod gwell ganddo wneud datganiad canu 50 munud yn hytrach nag ysgrifennu dau draethawd...
Ar ôl derbyn mwy o hyfforddiant, derbyniodd ysgoloriaeth i'r Academi Frenhinol yn Llundain, i astudio cwrs ôl-radd mewn opera. Ond roedd problem. Ei enw genedigol oedd Aled Jones, eglurodd ar Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
"Anghofia i fyth, y diwrnod cynta. 'Name?' 'Aled Jones!' 'Are you trying to be funny?' 'No, that's my name!' 'You can't have that name, we're already got an Aled Jones!'.
"O'r diwrnod 'ny, gorffes i ddropio'r Jones, a ddes i'n Aled Hall dros nos! Short and sweet... fel fi!"
"Fi'n joio fe a byddai'n mynd nes bod fi ffili."
Aled Hall ar Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru
Mae Aled yn denor cymeriad comprimario, sef canwr sy'n chwarae rhannau llai – yn aml rhai doniol – mewn operâu.
Bydd Aled felly yn canu llai na'r prif denor mewn opera, ond mae dal rhaid i'w lais fod ar ei orau; a hynny mewn rolau lle mae angen actio llawer, a heb sôn am stynts fel cartwheels mewn ambell i sioe!
Mae'n mwynhau'r gwaith, ond yn cyfaddef ei fod yn waith caled ar adegau.
Er nad gwaith academaidd neu ddarllen yn apelio iddo yn yr ysgol, mae'n ddisgybledig iawn wrth fynd ati i ddysgu darn o gerddoriaeth, meddai.
"Yn enwedig pan mae'r amser yn dod i ddysgu pethau, mae'n rhaid bod discipline rhyfedda', ac mae hwnna ynddo fi o'r dechrau, diolch byth. Fi'n dysgu pethau'n rhwydd, felly gallech chi adael pethau at y funud ola, ond 'sa i byth fel yna.
"Fi'n licio dysgu pethau inside out. Dysges i'n gynnar iawn i ddysgu beth chi'n canu ambyti, ond nid yn unig eich geiriau chi ond beth mae pawb arall yn canu, achos hanner yr amser, gwrando chi'n ei wneud."
Ac wrth gwrs, mae Aled yn aml yn cael galwadau ffôn byr-rybudd yn cynnig rhannau mewn operâu; ac os ydy o wedi chwarae'r rhan o'r blaen, mae'r broses o ailatgoffa'i un o'r rôl yn haws.
"Os chi'n dysgu rhywbeth, dysgwch e'n iawn a wedyn mae e wastad 'na."

Cafodd ddau gyn-ddisgybl Ysgol Ramadeg Llandysul, Aled Hall a Beti George, sgwrsio am yrfa'r canwr ar gyfer y rhaglen Beti a'i Pobol
Bu farw Dafydd Jones, tad Aled, yn sydyn y llynedd. Mae'n 'dragwyddol ddiolchgar' i'w rieni am eu cefnogaeth gyda'i yrfa, yn enwedig ag yntau yn treulio gymaint o amser i ffwrdd yn gweithio.
"'Naethon nhw byth 'neud i fi deimlo 'ddyle ti ddim gwneud hyn', achos gartre ar y fferm, dyna oedd y norm. Taflon nhw ddim hwnna mewn i ngwyneb i o gwbl ac yn gefn mawr i mi drwy'r holl beth. Fi wedi bod yn lwcus iawn y ffordd 'na."
Distawrwydd wedi'r prysurdeb
Cynigiodd y Cyfnod Clo 'reboot' i'r canwr, eglura, ag yntau wedi bod yn brysur iawn yn y gwaith cyn hynny, gan gynnwys cyfnod o deithio yn ôl ac ymlaen rhwng perfformio yn opera Der Rosenkavalier yn Sweden ac ymarferion ar gyfer La Traviata yn Llundain.
Yna collodd Aled ei holl waith dros nos. Ond ag yntau a'r teulu erbyn hynny yn byw yn ôl ar y fferm, adref yn Sir Gâr, roedd yn gyfnod o adferiad iddo.
Byddai'n codi am bump bob bore – arfer yn dod o'i fagwraeth ar fferm ordro, a rhywbeth mae dal yn ei wneud heddiw – a dechreuodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth, gyda nifer o'i luniau yn cael eu tynnu wrth i'r wawr dorri.
"Mae'n rhaid i fi ddweud, â llaw ar fy nghalon, dyna amser gorau'r dydd. Neb arall o gwmpas, dim ond yr adar."

Tynnwyd y llun yma o Heol Rufeinig, Ffynnon Rhos ar dop Dolgran yn edrych allan tuag at Sir Benfro i'r gorllewin
Yn ystod y Cyfnod Clo, lluniau o fyd natur a golygfeydd o'r fferm oedd yn ymddangos ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Bellach, fe welwch ambell i olygfa o'r haul yn gwawrio dros leoliadau eraill, wrth iddo deithio ledled Prydain a'r byd yn canu.
O'i flaen eleni mae perfformiadau o Tosca yn Birmingham gyda Bryn Terfel a Gwyn Hughes Jones, tri mis o'r Turandot yn Yr Alban, a dechrau ar gyfnod o 18 mis yn Covent Garden yn Llundain.
Mae dal wrth ei fodd yn canu a pherfformio a ddim yn rhagweld y bydd yn arafu yn y dyfodol agos, pwysleisia:
"Sa i'n mynd i stopio o gwbl. Fi'n joio fe a byddai'n mynd nes bod fi ffili. A 'na beth sy'n neis am y rôl yma.
"Un o'n arwyr i yn y busnes oedd Graham Clark. Fe oedd un o'r tenoriaid comprimarios gorau yn y byd. Ac o'dd e'n canu yn 81!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020

- Cyhoeddwyd2 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd20 Ebrill
