Dyn 102 oed wedi marw ar ôl cael ei 'wthio' mewn tafarn - cwest

Philip Ormerod yn dathlu troi'n gant oed - bu farw yn dilyn digwyddiad yn ei dafarn leol ddechrau Awst yn 102
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 102 oed oedd â dementia bron i bythefnos ar ôl iddo gael ei anafu mewn ymosodiad honedig mewn tafarn, mae cwest wedi clywed.
Cafodd Philip Ormerod o Gwmbrân ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad yn nhafarn y Crows's Nest yng Nghwmbrân ar 1 Awst.
Dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders fod Mr Ormerod wedi disgyn yn y dafarn "a bod honiad ei fod wedi cael ei wthio".
Clywodd y cwest iddo gael ei gludo i Ysbyty Athrofaol y Faenor gyda chlun wedi torri a bod ei gyflwr wedi dirywio wedi hynny.
Bu farw ddydd Mercher, 12 Awst, ac fe gafodd ei gorff ei adnabod yn ffurfiol gan ei fab, Robert Ormerod.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn nhafarn y Crow's Nest ar 1 Awst
Dywedodd y crwner fod yr heddlu yn dal i ymchwilio i farwolaeth Philip Ormerod, bod archwiliad post mortem yn cael ei gynnal, a'u bod "yn disgwyl rhagor o fanylion".
Ychwanegodd fod angen cynnal ymchwiliadau pellach er mwyn cadarnhau a oedd y farwolaeth yn "annaturiol" ai peidio.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.
Cafodd dyn 56 oed o Lanelli, Sir Gaerfyrddin, ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac mae'n parhau ar fechnïaeth dan ymchwiliad.
Fe nododd Ms Saunders hefyd na fyddai'r cwest yn ailddechrau pe bai cyhuddiad troseddol yn deillio o'r achos, ond os nad yw hynny'n digwydd, yna mae disgwyl iddo gael ei gynnal ar 26 Mai, 2027.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst
