AS aeth o Reform i Blaid Cymru wedi 'dweud celwydd am ei chredoau' - Tice

"Mae'r holl beth yn hurt," meddai Richard Tice am gredoau gwleidyddol Sarah Cooper-Lesadd
- Cyhoeddwyd
Mae dirprwy arweinydd Reform UK wedi cyhuddo cyn-Aelod Senedd y blaid, Sarah Cooper-Lesadd, o ddweud celwydd wrthyn nhw am ei chredoau gwleidyddol cyn iddi ymuno â Phlaid Cymru.
Daw sylwadau Richard Tice ar ôl wythnos gythryblus i'w blaid, pan ddiswyddodd yr arweinydd yng Nghymru, Dan Thomas, ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac o ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall.
Ar yr un diwrnod fe adawodd Cooper-Lesadd grŵp y blaid yn y Senedd i ymuno â Phlaid Cymru.
Mae Helen Jenner, AS Bangor Conwy Môn a dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru, yn cael ei hystyried fel y ffefryn i olynu Thomas.
Mynnodd Tice nad oedd digwyddiadau'r wythnos ddiwethaf wedi tynnu sylw'r blaid oddi wrth y materion sy'n bwysig i etholwyr, gan ddweud bod dyddiau da a dyddiau gwael ym myd gwleidyddiaeth.

Mae Sarah Cooper-Lesadd wedi dweud ei bod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru
Fe wnaeth Sarah Cooper-Lesadd, AS Pen-y-bont Bro Morgannwg, y symudiad gwleidyddol dramatig i Blaid Cymru gan honni fod Reform UK "â llawer mwy o ddiddordeb mewn creu rhaniadau, gwrthwynebiad a denu penawdau na dod o hyd i ddatrysiadau".
Dywedodd hefyd ei bod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, gan ddatgelu ei bod wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ddegawd yn ôl.
'Yr holl beth yn hurt'
Yn ymateb i gwestiwn ar brosesau fetio'r blaid, dywedodd Mr Tice: "Os yw rhywun yn eich camarwain yn fwriadol... ac yn dweud celwyddau wrthych chi, yna does dim ots faint o fetio rydych yn ei wneud.
"Felly, beth am i chi ofyn y cwestiwn hwnnw iddi hi? Sut allwch chi newid o fod yn unoliaethwr i fod yn ymwahanwr?
"Sut allwch chi newid o fod yn rhywun sy'n credu mewn amddiffyn ein ffiniau i rywun sydd eisiau agor y ffiniau a gwneud y wlad yn genedl noddfa?
"Mae'r holl beth yn hurt.
"Nid fi sy'n gyfrifol am y broses fetio. Drychwch, dy'n ni'n gwneud llawer o benderfyniadau a dyfarniadau gwych, cyflym.
"Dyna pam dy' ni wedi tyfu mor gyflym i fod yr ail blaid fwyaf yng Nghymru o ddim.
"Dy'n ni byth yn honni ein bod ni'n berffaith. Pobl go iawn ydyn ni."
Jenner yn debygol o fod yn arweinydd newydd Reform yng Nghymru - ffynonellau
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
AS adawodd Reform 'wedi cefnogi aros yn yr UE' ac 'o blaid Cymru annibynnol'
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
AS Reform Sarah Cooper-Lesadd yn symud i Blaid Cymru
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Gwrthododd Tice gadarnhau os mai Helen Jenner fydd yn cymryd yr awenau fel arweinydd y blaid yng Nghymru.
Ond dywedodd y bydd pwy bynnag sy'n cael y swydd yn cael cymeradwyaeth ganddo ef ac arweinydd y blaid yn y DU, Nigel Farage.
Ymddiswyddodd Dan Thomas ar ôl cael ei arestio, gan fynnu ei fod wedi gwneud dim o'i le, ond nad oedd am dynnu sylw i ffwrdd o'r blaid.
Nid yw wedi cael ei atal o'r blaid - cam a fyddai wedi ei adael i bob pwrpas yn Aelod Annibynnol o'r Senedd - tra bo Heddlu Gwent yn parhau â'u hymchwiliad.
'Dyddiau da a dyddiau gwael'
Ychwanegodd Tice nad oedd y digwyddiadau wedi tynnu sylw aelodau Reform UK yn y Senedd oddi wrth ganolbwyntio ar y materion sy'n bwysig i etholwyr, fel y cychod bach sy'n croesi'r Sianel a'r terfyn cyflymder 20mya.
"Mae bywyd yn work-in-progress," meddai.
"Y gwir amdani yw bod gennym ni grŵp o 33 o gynrychiolwyr etholedig, ac mai ni yw'r ail blaid fwyaf o gryn dipyn, ac ry'n ni'n codi materion sy'n hollol hanfodol i drigolion Cymru.
"Mae bywyd yn symud ar gyflymderau gwahanol, a weithiau dy'ch chi'n cael dyddiau da, a weithiau dy'ch chi'n cael dyddiau gwael... bydd gennym ni arweinydd newydd yn fuan iawn.
"Ond mae ein cynrychiolwyr yn bwrw ymlaen â'r gwaith o gynrychioli eu hetholwyr a chodi'r materion y maen nhw am eu gweld yn cael sylw."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod "Sarah wedi bod yn onest am ei thaith wleidyddol ac wedi cydnabod bod ei barn wedi newid ers iddi fynd i mewn i wleidyddiaeth gyntaf".
Gallwch weld mwy o gyfweliad Richard Tice ar Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul ac ar iPlayer.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.