Yr artist colur o Gaernarfon sy'n gweithio ar Strictly Come Dancing

Gweithio fel cynorthwydd cyntaf i Andrew Denton (artist coluro i Cate Blanchett, Sofia Carsson, Phoebe Dynevor, Karol G a llawer mwyFfynhonnell y llun, @westiminsterfashion
Disgrifiad o’r llun,

Gweithio fel cynorthwydd cyntaf i Andrew Denton, artist coluro i Cate Blanchett, Sofia Carsson, Phoebe Dynevor, Karol G a llawer mwy

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Morgan Wyn o Gaernarfon yn byw ei freuddwyd fel artist colur yn Llundain i'r gyfres ddawnsio boblogaidd Strictly Come Dancing ar hyn o bryd.

Bydd y gyfres newydd yn dechrau ar nos Sadwrn 19 Medi, gyda'r sioeau byw'n dechrau'r wythnos ganlynol.

Wrth edrych ymlaen at gyffro'r gyfres newydd, meddai Morgan: "Mae'r selebs yn dod at y timau steilio ac ella bach yn nyrfys, ond unwaith mae'r gwallt a'r colur yn cael ei slapio arnyn nhw, mae eu hyder nhw'n trawsnewid.

"Mae o'n fraint gallu 'neud rhywun i deimlo'n amazing amdanyn nhw eu hunain."

Tîm gwallt a cholur StrictlyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tîm gwallt a cholur Strictly

Dyma'r ail flwyddyn i Morgan fod yn rhan o dîm gwallt a cholur y gystadleuaeth ddawnsio sy'n denu tua 7-8 miliwn o wylwyr bob wythnos.

Ac yntau ond yn 27 oed mae'r artist colur eisoes wedi cael blwyddyn ddisglair yn gwneud colur yr actores Bethany Antonia a'r gantores Eliza Doolittle i glawr cylchgrawn DSCENE, coluro modelau sy'n arddangos dillad cynllunwyr ffasiwn byd enwog fel Rahul Mihra yn Wythnos Ffasiwn Paris, gweithio fel artist colur a steilydd gwallt i'r brand cynnyrch croen OneSkin a gweithio ar ymgyrchoedd brandio siopau fel TK Maxx.

Wrth adlewyrchu ar ei lwyddiant, dywed Morgan: "Dwi wedi gweithio ers dwi'n 13, wna i bob tro weithio'n galed a 'swn i ddim lle ydw i 'wan heb work ethic fi."

Celf yn agor drysau

Yn ogystal â gweithio'n galed, mae torri ei gwys ei hun hefyd wedi bod yn bwysig wrth adeiladu ei yrfa.

Ei gariad at gelf fel pwnc Lefel A yn Ysgol Syr Hugh Owen ac anogaeth ei athrawes yno, Caren Puw, wnaeth ei ysbrydoli i weld y posibiliadau mewn celf yn y lle cyntaf.

Eglurodd Morgan: "Oedd celf y subject gora o'n i'n 'neud, y gora' idda fi ac i gael emosiyna' fi allan.

"Ond o'n i wedi tyfu i fyny'n meddwl dydi celf ddim yn gallu bod yn yrfa.

"Ro'n i'n licio'r ochr ffasiwn i gelf a 'naeth Caren Puw agor fy llygaid i i'r drysa' faswn i'n gallu agor i fi fy hun.

"Hebddi hi faswn i wedi mynd i 'neud nursing a wedyn mynd i neud botox a fillers."

Kyle Ho Menswear London Fashion Week 2025Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Kyle Ho Menswear London Fashion Week 2025

Mynd i brifysgol, salwch a Rownd a Rownd

Dechreuodd Morgan ei gwrs celf a ffasiwn ym Mhrifysgol Manceinion cyn cael ei daro'n wael heb orffen ei radd.

"Es i'n rili sâl, geshi gastric ulcers, colli llwyth o bwysa' a wnaeth o ddod i'r pwynt lle oedd yn rhaid i fi adael.

"Ar ôl gwella, neshi gael job yn TK Maxx i gadw fi fy hun i fynd, cyn penderfynu dechra' cwrs celf ym Mhrifysgol Bangor.

"O'n i dal isio bach o bres tra'n astudio felly neshi ddechra'r cwrs a gweld bod adran wisgoedd Rownd a Rownd yn chwilio am trainee.

"Geshi'r swydd yn syth achos oedd gen i gefndir mewn ffasiwn a llygaid am steil, a mi 'naeth fy nhiwtor i ddeutha fi, 'Dos, gwna fo, dydi lot o bobl ddim yn cael cyfleoedd fel hyn'."

Coluro cefn llwyfan yn Westminster Fashion Show 2025Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Coluro cefn llwyfan yn Westminster Fashion Show 2025

Er mai dyma'r eildro i Morgan adael y brifysgol heb orffen ei gwrs, nid yw'n difaru dim.

"Dwi'n ddiolchgar am bob dim dwi wedi mynd trwy, the good, the bad and the ugly, achos ar ddiwedd y dydd, dyna lle ti'n ffeindio pwy wyt ti a be' ti isio 'neud," meddai.

Cefn llwyfan yn Paris Fashion WeekFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cefn llwyfan yn Paris Fashion Week

O Gaernarfon i Lundain

Yn ystod ei gyfnod yn gweithio gydag adran wisgoedd y ddrama deledu Rownd a Rownd, cafodd gyfle i hogi ei grefft dan gefnogaeth Ian Russell o gwmni Rondo ac fe gafodd brofiad ar set y ddrama Americanaidd, sydd â rhai golygfeydd wedi eu saethu yng ngogledd Cymru, House of Dragons.

Treuliodd chwe blynedd yn gweithio ar Rownd a Rownd ac yn cynllunio gwisgoedd i ffilmiau byrion cyn sylwi mai ei freuddwyd fawr oedd bod yn artist colur yn Llundain.

Photoshoot gyda cyfnither Morgan, @megarmitage1 y fodel. Morgan sydd wedi ei choluroFfynhonnell y llun, @markbarnfield
Disgrifiad o’r llun,

Photoshoot gyda chyfnither Morgan, @megarmitage1 y fodel. Morgan sydd wedi ei choluro

Eglurodd: "O'n i isio mynd i 'neud colur ers o'n i reit ifanc, dwi'n cofio gwneud colur efo 'nghneithar am dri y bora a chael gymaint o hwyl, a wedyn o'n i mewn envy bob tro wrth weld y genod colur pan o'n i'n gwneud costumes. O'n i'n meddwl i fi fy hun - dwi isio gwneud hynna.

"Ond fel hogyn gay o small town Cymru, do'n i ddim isio bod yn stereoteip chwaith."

Coluro cefn llwyfan yn Westminser Fashion Show 2025Ffynhonnell y llun, @westminsterfashion
Disgrifiad o’r llun,

Coluro cefn llwyfan yn Westminser Fashion Show 2025

Mae Morgan yn dweud bod ei fagwraeth mewn tref fechan, Gymreig wedi bod yn anodd iddo fel person hoyw ar adegau. Ond yng ngwydd hynny mae wedi ffeindio ei gryfder hefyd.

Meddai: "Oedd o'n anodd tyfu fyny yn dre a bod yn gay a reit flamboyant.

"Ond ar ddiwedd y dydd, a dim bod yn cheesy, oedd o'n gryfder i fi hefyd.

"O'n i'n gwsigo fel o'n i isio gwisgo, o'n i'n siarad fel o'n i isio siarad, o'n i'n deud fy n'eud."

Fe daniodd un profiad gwael ar un cynhyrchiad yr awydd yn Morgan i fynd amdani a symud i Lundain er mwyn hyfforddi fel artist colur a steilydd gwallt yn Delamar Academy.

"Neshi feddwl stwffio hyn i gyd, dwi wedi bod isio symud i Lundain ers bo' fi'n 16 a hwn ydi'r universe yn deutha fi i fynd."

Morgan yn dysgu ei grefft coluro yn ystod ei gyfnod yn Delamar AcademyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Morgan yn dysgu ei grefft coluro yn ystod ei gyfnod yn Delamar Academy

Adeiladu gyrfa fel artist colur

Ar ôl misoedd o hyfforddiant dwys yn Delamar Academy, adeiladu ei bortffolio a gwneud gwaith am ddim i ennill enw da, dechreuodd dderbyn galwadau i gynorthwyo artistiaid colur.

"Ar ôl 'chydig, oedd y galwadau'n dod yn amlach ac o'n i'n cael mwy o waith.

"Geshi fynd i weithio ar London Fashion Week a Paris Fashion Week yn y flwyddyn gynta' ar ôl gorffen yn Delamar.

"Wedyn, mi oedd rhywun o Delamar wedi awgrymu fi i Strictly a geshi alwad ganddyn nhw i fod yn rhan o'r tîm hair and makeup."

Cylchgrawn DSCENE gyda Bethany Antonia Ffynhonnell y llun, @ellarosepeck @designscene
Disgrifiad o’r llun,

Cylchgrawn DSCENE gyda Bethany Antonia

Llynedd bu Morgan yn gweithio gyda thîm gwallt y gyfres dan arweiniad Lisa Davey, ond eleni bydd yn rhan o dîm colur y gyfres, ac mae wrth ei fodd.

"Fyddai'n gweithio i Lisa Armstrong, prif gynllunydd colur Strictly a mi fyddai yno i 'neud colur rhai o'r dynion, i weithio fel tîm ac i fod yn assistant i Lisa.

"Mae Bethany Antonia a Chris Appleton ar Strictly eleni - a dwi wedi gweithio efo'r ddau ohonyn nhw felly fydd hynna'n ddiddorol."

Strictly Come Dancing

Gyda'r gyfres newydd o Strictly Come Dancing ar fin cychwyn a'r selebs a'r dawnswyr proffesiynol angen eu coluro, beth mae Morgan yn edrych ymlaen ato?

"Mae'r colur dwi'n 'neud fel arfer i'r byd ffasiwn yn naturiol ac yn ethereal ond mae makeupStictly yn yn fwy o TV makeup sy'n drwm ar y llygaid a bold lips, felly dwi isio dysgu mwy am yr ochr yna.

"Dwi byth yna i newid pwy ydy rhywun, dwi yna i 'neud i rywun deimlo yn fwy hyderus yn pwy ydyn nhw, ac mae gwneud hynna efo'r tîm sbesial sy'n rhan o Strictly Come Dancing yn unreal. Mae yna gymaint o dalent yn y tîm.

"Mae adrenalin pawb yn mynd yn y sioeau byw, yr egni yn unmatched, a'r miwsig yn blastio. Mae o'n 'waw' o brofiad."

Y tîm colurFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm colur ar y gyfres newydd o Strictly Come Dancing

Fe fydd yr wythnosau nesaf yn rhai go brysur i Morgan, ac er ei fod yn byw ei freuddwyd fel artist colur ar hyn o bryd, mae'n llawn uchelgais am y camau nesaf i'w yrfa.

"Ar ôl Strictly dwi'n planio cario 'mlaen i weithio, cario 'mlaen i hyslo - 'swn i'n licio concro Milan Fashion Week nesa', gweithio mwy efo celebrity makeup artists a chael mwy o brofiad.

"Dwi dal yn ifanc yn y gyrfa yma, a dwi'm yn deud bo' fi'n barod rŵan ond fyswn i wrth fy modd yn gwneud colur Bella Hadid, Kate Moss ac Alex Consani rhyw ddydd."

Coluro i'r model @blessing_ifeoluwa0Ffynhonnell y llun, @harrigillan
Disgrifiad o’r llun,

Coluro i'r model @blessing_ifeoluwa0

Yn nes at adref, mae Morgan wedi gorfod dwyn perswâd ar ei fam, wrth wneud ei cholur.

Chwarddodd: "O'n i jest â marw isho rhoi makeup ar Mam, ac ar ôl g'neud rhyw ddydd nath hi ddeud, 'Ti ddim yn 'neud makeup fi eto'.

"Neshi orfod gafael yn ei phen hi a deud 'Gwrandwch dwi'n gwybod be dwi'n neud'.

"Neshi 'neud o, 'naeth hi sbio yn y mirror a deud 'Ma' hwnna yn neis dwi'n licio hwnna.'

"'Rŵan mae hi'n tecstio yn gofyn pryd ydw i'n dod adra i ddysgu hi sut i neud smokey eyes."

Gweithio gyda @chantel_rileyFfynhonnell y llun, @nyamekyecann
Disgrifiad o’r llun,

Gweithio gyda @chantel_riley

Beth yw cyngor Morgan i bobl ifanc eraill sydd am ddilyn eu breuddwyd?

"Bydda'n chdi dy hun, bydda'n hyderus, paid â gadael i bobl gymryd mantais ohona chdi, a chofia am y bobl sydd wedi helpu chdi ar dy ffordd hefyd.

"Mae petha' am ddisgyn yn ei le, ac mae 'na lot mwy o gyfleon a chances mewn bywyd na' be' maen nhw'n deud wrtha chdi yn ysgol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig