'Dim digon o help' gydag iselder o fethu chwarae pêl-droed yn broffesiynol

Hari yn chwarae dros WrecsamFfynhonnell y llun, Daniel Purdie/CPD Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Arwyddodd Hari i Wrecsam yn 14 oed, ond ni chafodd gytundeb proffesiynol

  • Cyhoeddwyd

Mae pêl-droediwr ifanc wedi disgrifio'r effaith ar ei iechyd meddwl ar ôl methu â chael cytundeb proffesiynol wedi blynyddoedd o ymarfer.

Roedd clywed yn 18 oed na fyddai'n cael cytundeb gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn "sioc fawr i'r system" i Hari Roberts.

Ar ôl chwarae i nifer o glybiau ers yn blentyn, chwarae i Gymru ac arwyddo i Wrecsam yn 14 oed, aeth drwy gyfnod anodd gyda'i iechyd meddwl.

Dywedodd iddo brofi iselder a gorbryder wrth geisio addasu i fywyd y tu hwnt i bêl-droed.

Ond i'r dyn ifanc o Bwllheli, rhedeg oedd yr allwedd i wella, gan ddweud bod cael y "rhyddid i fynd allan a pheidio meddwl am ddim byd" wedi bod o gymorth i ddelio gyda'i deimladau.

Yn ddiweddar fe wnaeth gwblhau marathon Sydney yn Awstralia, profiad y mae'n ei ddisgrifio fel un "bythgofiadwy".

"Y peth pwysig i fi ydy defnyddio fy stori i helpu rhai sydd, o bosib, yn dioddef yn dawel - drwy godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, a dangos fod pethau wastad yn gallu gwella, dim ots pa mor dywyll mae bywyd yn gallu teimlo ar adegau," meddai.

Hari yn ifanc ac yn fwy diweddar yn dal tlysau pel-droedFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hari wedi rhoi blynyddoedd o waith ymarfer a chwarae pêl-droed

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast, mae Hari'n dweud iddo wynebu newid mawr ar ôl clywed nad oedd wedi cael cytundeb gyda Wrecsam.

"Roedd o'n gyfnod cweit anodd i mi - lot o newid.

"Lot o newid o ran goro' ffeindio swydd arall, ffeindio clwb arall i chwarae iddo, a hynna ydy'r realiti pan 'da chi'n chwarae pêl-droed, neu'n trio bod yn bêl-droediwr proffesiynol.

"Mae o'n lot o newidiadau - a 'da chi'n goro addasu.

"Mae lot o bobl yn tueddu, yn enwedig pobl ifanc, i gael problemau ar y ffordd a hynna ydy'r siwrne."

Dywedodd ei fod yn "cofio gadael Wrecsam, oedd o fatha' bod gen i ddim teimlad o gwbl mewn ffordd".

"Wnes i ddim crio o gwbl a dwi ddim yn gwybod pam, achos nabod fi y byswn i wedi crio…

"Pan da 'chi 'di bod yn ymarfer am rywbeth a 'di rhoi eich bywydau ar gyfer un peth ac yn anffodus dio'm yn digwydd – mae'r ffordd mae pobl yn delio 'efo fo yn wahanol, ac i mi - mi es i sefyllfa cweit drwg lle o'n i'n dechrau teimlo teimladau, mewn ffordd... cweit drwg."

Mae Hari wedi cynrychioli timau ieuenctid CymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hari wedi cynrychioli timau ieuenctid Cymru

Gyda dim ond canran fechan o chwaraewyr ifanc yn llwyddo i gael cytundeb proffesiynol, mae Hari yn teimlo hefyd bod angen rhagor o gymorth i ymdopi â'r siom.

"Mae clybiau yn rhoi cymorth wrth gwrs, ond dwi'm yn meddwl fod o'n ddigon i helpu nhw fynd drwy'r newidiadau.

"'Da chi'n gweld mewn canrannau a'r data i gyd, mae lot o'r chwaraewyr sydd ddim yn cael be' ma' nhw isio, yn tueddu i fynd lawr ffordd cweit drwg o ddelio 'efo fo, a ma' lot ohonyn nhw yn strugglo.

"Dwi 'di nabod nifer o bêl-droedwyr oed fi sydd 'di really strugglo peidio chwarae pêl-droed yn broffesiynol."

'Rhedeg wedi helpu cymaint'

Mae'n dweud ei fod mewn "lle gwell erbyn hyn", gyda'r rhedeg wedi ei "helpu gymaint".

Dywedodd ei fod wedi "ail-adeiladu ei hun drwy ffitrwydd, hyfforddi ei feddwl a rhedeg" a hynny gyda chefnogaeth ei deulu, ei feddyg teulu a seicolegydd.

Wrth baratoi at farathon Sydney ym mis Awst, penderfynodd godi arian at elusen Sport in Mind - elusen sy'n annog pobl i wneud mwy o chwaraeon yn eu hamser rhydd i ddelio gyda phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol.

HariFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Wrth gwrs mae cael y profiadau o wneud yr holl rasus yma, mae hynna yn helpu gymaint a dwi'n meddwl dyna pam nes i benderfynu hel arian at elusen Sport in Mind – oherwydd i mi, dwi 'di bod yn non-stop ers pan o'n i'n naw oed efo'r holl bêl-droed, ac o'n i angen rhywbeth arall i allu 'neud, a mi ddoth y rhedeg ar yr adeg pwysicaf."

Mae Hari bellach wedi rhedeg dau o'r marathonau mawr - Llundain a Sydney, ac yn anelu at wneud yr wyth mwyaf, gyda chais wedi ei wneud ganddo i redeg marathon Tokyo gyda'i frawd yn 2027.

"Mi oedd cwblhau Marathon Llundain yn un o'r eiliadau mwyaf emosiynol yn fy mywyd, gan ei fod yn symbol, mewn ffordd, o wydnwch, adferiad a chanfod fy hun unwaith eto.

"Mae gwneud yr holl rasus 'ma rŵan wedi 'neud i fi sylweddoli bod yna lot mwy ar gyfer ein bywydau ni, a dwi'n meddwl bod gallu rhedeg a gwneud yr holl rasus yma yn helpu gymaint."

Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Bydd y cyfweliad llawn gyda Hari ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, ddydd Llun 21 Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.