'Mae gorfod cael yr heddlu i redeg gyda ni yn dangos maint y broblem'

Yn ôl Gwen o Mon Girls Run, canodd o leiaf wyth car eu cyrn at y grŵp yn ystod y rhediad ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a sefydlodd grŵp rhedeg i helpu merched deimlo'n fwy diogel wedi dweud bod gorfod cael swyddogion heddlu i redeg ochr yn ochr â nhw yn dangos "maint y broblem".
Yn ôl Gwen Owen, sylfaenydd Môn Girls Run, "mae canu cyrn, chwibanu a gweiddi ar redwyr benywaidd wedi dod yn brofiad rhy gyfarwydd".
Wrth i aelodau'r grŵp redeg gyda'r nos ym Mangor yn ddiweddar, canodd o leiaf wyth car eu cyrn atynt, meddai, gyda dynion yn chwibanu ac yn gweiddi, tra bod eraill yn rhedeg ochr yn ochr â nhw neu'n eu dilyn ar feiciau.
Dywedodd y fenyw 28 oed o Ynys Môn fod yr ymddygiad yn "intimidating".
"Mae'n gwneud i ni deimlo'n ofnus ac yn ein rhoi ni ar bigau'r drain. Dan ni'n edrych o'n cwmpas ac yn edrych tu ôl i ni drwy'r amser," meddai.
Mae swyddogion benywaidd Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi ymuno â rhai o sesiynau'r grŵp, ac yn bwriadu cymryd rhan mewn digwyddiadau pellach er mwyn helpu menywod i deimlo'n fwy diogel.
'Rhywbeth sy'n digwydd bob dydd'
Roedd y sesiwn ym Mangor yn rhan o ymgyrch 'Ein Nos Ni' gan Athletau Cymru, sy'n annog menywod i fynd allan i redeg gyda'i gilydd ar y 25ain o bob mis er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch menywod wrth redeg.
Ond dywedodd Gwen fod yr hyn a ddigwyddodd y noson honno'n dangos pa mor gyffredin yw'r broblem.
"Roedd y noson i fod i rymuso merched i fynd allan a gwneud pethau'n saff, ond hyd yn oed pan 'dan ni mewn grŵp mawr, mae o'n dal i ddigwydd.
"Roedd pobl yn canu eu cyrn atom ni, yn chwibanu ac yn gweiddi o ffenestri ceir. Roedd dynion yn gadael eu grwpiau o ffrindiau i redeg efo ni, ac eraill yn ein dilyn ni ar feiciau."

Mae Môn Girls Run yn rhoi cyfle i fenywod redeg gyda'i gilydd a gwneud ffrindiau newydd
Wedi'r digwyddiad, fe rannodd ei phrofiad ar Instagram, gan ddweud ei bod yn "siomedig iawn" bod menywod yn dal i wynebu aflonyddu wrth geisio mwynhau gweithgaredd y dylent allu ei wneud yn ddiogel.
"Ers i ni bostio am y peth, mae gymaint o bobl wedi gwneud sylwadau a rhannu'r neges, gan ddweud bod yr un peth yn digwydd iddyn nhw.
"Dydy o ddim yn rhywbeth ddigwyddodd i ni unwaith yn unig. Mae o'n digwydd bob dydd.
"Mae'n fwy anodd ar y foment, yn enwedig pan mae hi'n dywyll. Dan ni jyst eisiau cael ein gadael ni lonydd a mwynhau rhedeg."
Dywedodd fod menywod yn wynebu'r un ymddygiad beth bynnag maen nhw'n ei wisgo.
"Does dim ots os dan ni mewn siorts bach neu leggings hir. Beth bynnag dan ni'n wisgo, dydy o ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth."
'Brawychus mynd allan ar fy mhen fy hun'
Sefydlodd Gwen Môn Girls Run ar ôl iddi ddechrau teimlo'n bryderus am redeg ar ei phen ei hun yn ystod misoedd y gaeaf.
"O'n i'n rhedeg ar fy mhen fy hun am tua chwe mis, ond wedyn dechreuodd hi dywyllu ac o'n i'n meddwl, mae hi'n dipyn bach yn frawychus mynd allan ar fy mhen fy hun."
Ar ôl gweld grwpiau tebyg ym Manceinion a Lerpwl, penderfynodd ddechrau un ar Ynys Môn.
"Daeth tua chwech neu wyth o ferched i'r rhediad cyntaf ac o'n i'n meddwl, 'Ie, brilliant, dwi 'di creu cymuned'."

Sefydlodd Gwen Owen grŵp Môn Girls Run ar ôl teimlo'n bryderus am redeg ar ei phen ei hun yn y nos
Mae'r grŵp yn rhoi cyfle i fenywod wneud ffrindiau newydd, cael cefnogaeth a mwynhau rhedeg gyda'i gilydd.
Ond dywedodd Gwen nad yw'n iawn bod angen ymuno â grŵp er mwyn teimlo'n ddiogel.
"Dyna pam mae'r grŵp mor bwysig, ond ar yr un pryd, ddylai fod dim angen grŵp er mwyn i ni deimlo'n saff."
Dywedodd Gwen fod yr aflonyddu'n newid y ffordd y mae menywod yn teimlo wrth fynd allan i redeg.
"Dydy hyn ddim i fod i gael ei normaleiddio, achos dyna be sy'n digwydd rŵan. Mae pobl yn dweud, 'Jyst anwybydda fo, bydd popeth yn iawn', ond na, mae o wedi mynd mor bell.
"Pan dwi'n mynd ar runs hir ar fy mhen fy hun, mae o'n digwydd lot mwy nag mae pobl yn meddwl. Dwi di cael yr un car yn pasio heibio fi tua phum gwaith o'r blaen.
"Dan ni jyst eisiau cael ein gadael ni lonydd. Hyd yn oed os dach chi'n nabod ni, peidiwch â chanu'ch corn na gweiddi arnon ni. Jyst gadewch i ni redeg."
'Mor bwysig bod menywod yn teimlo'n saff'
Mewn ymateb i bryderon, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dechrau ymgyrch i fynd i'r afael ag aflonyddu ar redwyr benywaidd, ac annog menywod i roi gwybod am ddigwyddiadau maen nhw'n eu profi.
PC Catrin Hughes sefydlodd y fenter: "Fel swyddog heddlu a rhywun sy'n rhedeg yn aml, rwy'n deall pa mor bwysig yw teimlo'n ddiogel wrth redeg.
"Mae Ymgyrch Cadence am adeiladu perthnasoedd, rhedeg ochr yn ochr â'r gymuned, gwrando ar bryderon a hyrwyddo mesurau diogelwch syml."
Ychwanegodd y bydd y fenter yn cynnwys patrolau, gan gynnwys swyddogion mewn dillad plaen yn rhedeg mewn ardaloedd poblogaidd ymhlith rhedwyr.

Yn ôl Gwen Owen, mae aflonyddu ar redwyr benywaidd yn "rhywbeth sy'n digwydd bob dydd"
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Jackie Downes fod gan bob menyw yr hawl i deimlo'n ddiogel wrth ymarfer corff neu fwynhau eu cymuned.
"Mae'r fenter hon yn anfon neges glir na fydd aflonyddu a chasineb tuag at fenywod yn cael eu goddef, ac y bydd lleisiau menywod yn cael eu clywed a'u gweithredu arnynt."
Heddlu Gogledd Cymru yw'r unig lu yng Nghymru sy'n gweithredu Ymgyrch Cadence ar hyn o bryd, ond mae pob un o'r pedwar llu yng Nghymru yn cefnogi ymgyrch Ein Nos Ni.
Yn ôl Gwen, ni ddylai menywod orfod ymuno â grŵp na rhedeg ochr yn ochr â swyddogion heddlu er mwyn teimlo'n ddiogel, "ond i lawer mae hynny wedi dod yn anochel".
"Mae'n uffernol o bwysig bod menywod yn teimlo'n saff. Dylen ni allu gwneud be dan ni isio, be sy'n ein gwneud ni'n hapus a be sy'n ein cadw ni'n iach."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.