Cynhyrchiad 'epic' Owain Glyndŵr i ddechrau yng Nghaerdydd

Gruff GlynFfynhonnell y llun, Jon Pountney
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Rhwng 5 a 28 Tachwedd bydd cynhyrchiad arbennig ymlaen yng Nghanolfan y Mileniwm yn olrhain hanes un o fawrion hanes Cymru.

Michael Sheen sy'n chwarae'r brif ran yn Owain & Henry, gyda'r actor o Bort Talbot yn disgrifio'r rôl fel 'anrhydedd' i'w chwarae.

Rhywun arall sydd yn y ddrama yw Gruffudd Glyn, ac fe siaradodd gyda rhaglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ar 4 Tachwedd.

"Dwi'n teimlo bod Owain Glyndŵr yn enw cyfarwydd iawn i ni gyd wrth gwrs. Ond eto yn aml iawn dydy pobl ddim yn gwybod am hanes Owain.

"'Dy'n ni'n meddwl am Owain fel rhan annatod o'n hanes ni, ond mae Gary 'di sgwennu drama arbennig, sy'n delio efo lot o themâu gwahanol o'r cyfnod yna, ond sydd hefyd yn berthnasol heddiw.

"Dwi wir yn annog pobl i ddod i weld y sioe gan fod hi'n arbennig o dda ac yn wefreiddiol, yn shocking, ac yn gadael pobl ar flaen eu seddi - a dwi'n gyffrous iawn i fod yn rhan o'r cynhyrchiad."

Owain & HenryFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Y cast yn yr ymarferion ar gyfer Owain & Henry

Mae Gruffudd yn chwarae rhan y cymeriad Bryn, sy'n amaethwr ac sydd â theulu. Daw cnoc ar y drws un diwrnod ac fe newidiodd hynny ei fywyd.

Felly, sut deimlad yw hi i Gruffudd i fod yn rhan o'r cynhyrchiad?

"Epic di'r gair," meddai Gruff.

"Mae o'n bendant yn fawr, mae'r llwyfan yn enfawr - ail lwyfan mwyaf Ewrop dwi'n meddwl! Mae gennym ni sgrin enfawr tu ôl i ni hefyd.

"Mae'n gynhyrchiad epic, ac yn stori epic, yn stori o ryfel gydag elfennau domestig, ac mae 'na elfennau dramatig."

gruff glyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gruffudd hefyd yn ymddangos yn rhaglen tair rhan, Y Streic Fawr, ar S4C, sy'n olrhain hanes yr anghydfod ffatri Friction Dynamics ger Caernarfon ar ddechrau'r 2000au

Mae'r sioe yn gynhyrchiad gan y Welsh National Theatre gyda Michael Sheen ei hun a Steffan Donnelly o Theatr Cymru yn cyfarwyddo.

Gan ei fod wedi bod yn gyfnod heriol i'r diwydiant yng Nghymru mae Gruffudd yn pwysleisio graddfa'r uchelgais gyda'r sioe yma.

"Yn bendant, mae'n uchelgeisiol, a dwi'n meddwl bod o'n bwysig bo' ni yn gwthio'r ffiniau yng Nghymru.

"Mae 'na ddramâu fel Under Milk Wood sy'n cael eu gwneud yn aml, ac felly mae'n gyffrous iawn i ychwanegu drama fydd, gobeithio, yn cael ei gwneud am flynyddoedd i ddod.

"Pam ddim gwneud rhywbeth cyffrous fel hyn? Mae gymaint o ffilmiau a chyfresi da dyddiau 'ma, mae'n bwysig cael bobl i mewn i'r theatr i weld theatr byw.

"Mae'n gynhyrchiad cyffrous, a dwi'n gobeithio y bydd pobl yn ei fwynhau."

Michael SheenFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Michael Sheen yn mynd drwy'r nodiadau yn ystod yr ymarferion

Gary Owen yw'r dramodydd sy'n gyfrifol am y sioe, ac ef sgwennodd Iphigenia in Splott a gafodd ei addasu i'r ffilm newydd, lwyddiannus, ddiweddar, Effi o Blaenau.

"Fe sgwennodd o lot o ddramâu pan o'n i'n tyfu fyny ac yn astudio a phenderfynu fod yn actor.

"O be dwi'n gwybod am waith Gary mae hwn yn rhywbeth gwahanol iawn achos mae o'n rhywbeth epic a hanesyddol, ble mae rhywbeth fel Effi lot fwy cignoeth a domestig.

"Ond mae'r elfennau yma'n dod drwodd yn y ddrama hefyd, achos dyna wir dalent Gary, mae'n gallu gwneud unrhywbeth pan ma'n dod at ddrama ac mae'n fraint mawr fod yn rhan o ddrama sydd wedi ei sgwennu gan Gary."

Mae'r sawl sy'n caru hanes Cymru a sioeau theatr am weld dros eu hunain sut mae un o'n harwyr cenedlaethol yn ymgartrefu ar lwyfan o flaen cynulleidfa byw.

Michael SheenFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig