Lluniau: Bywyd gwyllt yr hydref yn ne Cymru

carwFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Wedi'i olchi yng ngolau euraidd y wawr, mae carw coch mawreddog yn aros am eiliad i archwilio ei amgylchedd ym Mharc Margam

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'n ddiwedd tymor yr hydref a'r gaeaf ar gychwyn.

Y ffotograffydd Gildas Griffiths o'r Barri sydd wedi dogfennu bywyd gwyllt a byd natur yn ystod tymor yr hydref yn ne Cymru.

llwynogFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwynog bach, a gafodd sylw mewn oriel flaenorol pan oedd yn llawer iau, yn chwilio am ei bryd nesaf wrth i'r haul fachlud dros Radur, Caerdydd

Aelod arall o’r teulu llwynogod yr wyf wedi cael y fraint o’i ddogfennu drwy gydol yr hydrefFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Aelod arall o'r teulu llwynogod yr wyf wedi cael y fraint o'i ddogfennu drwy gydol yr hydref

Un o uchafbwyntiau fy hydref oedd dal y ddelwedd hon o Las y Dorlan uwchben Afon Taf, wedi’i fframio gan gyfuniad trawiadol o liw a golauFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Un o uchafbwyntiau fy hydref oedd dal y ddelwedd hon o las y dorlan uwchben Afon Taf, wedi'i fframio gan gyfuniad trawiadol o liw a golau

Mae oriau di-ri o amynedd ac arsylwi wedi fy ngalluogi i ddogfennu ysblander tymor y rhuthro ym Mharc Margam yr hydref hwnFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae oriau di-ri o amynedd ac arsylwi wedi fy ngalluogi i ddogfennu ysblander tymor y rhuthro ym Mharc Margam yr hydref hwn

ceirwFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Tymor blynyddol y rhuthro ym Mharc Margam, un o olygfeydd mwyaf trawiadol byd natur

Carw gwryw nerthol yn bloeddio ar draws Parc Margam wrth amddiffyn ei diriogaeth yn ystod tymor y rhuthroFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Carw gwryw nerthol yn bloeddio ar draws Parc Margam wrth amddiffyn ei diriogaeth yn ystod tymor y rhuthro

Storm Austen ym MhorthcawlFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Storm Austen ym Mhorthcawl...

stormFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

ac yn taro'r morglawdd...

Y goleudy dan y don Ffynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

nes bod y goleudy bron â bod dan y don

dailFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Tapestri bywiog o liwiau'r hydref ar hyd llwybr Salmon Leaps ym Mro Morgannwg

golau nosFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Goleuadau'r gogledd yn creu cefndir syfrdanol i Gastell Ogwr mewn arddangosfa brin ac anghofiadwy

Crëyr yn sefyll yn llonydd ymhlith lliwiau cyfoethog yr hydref yn Llyn y RhathFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Crëyr yn sefyll yn llonydd ymhlith lliwiau cyfoethog yr hydref yn Llyn y Rhath, Caerdydd

Robin Goch yn oedi am eiliad yn ystod ei chwiliad am fwyd, golygfa gyfarwydd ond bob amser yn un groesawgarFfynhonnell y llun, Gildas Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Robin goch yn oedi am eiliad yn ystod ei chwiliad am fwyd - golygfa gyfarwydd ond bob amser yn un groesawgar

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig