Afiechydon ond digonedd o win: Sut oedd bywyd o dan Owain Glyndŵr?

- Cyhoeddwyd
Er bod llawer wedi'i ysgrifennu a'i drafod am Owain Glyndŵr a'i wrthryfel yn erbyn coron Lloegr, ychydig iawn o sylw sydd wedi bod i'r bobl gyffredin a oedd yn cynnal ei aelwyd a'i ystâd.
I nodi Dydd Owain Glyndŵr ar 16 Medi, mae'r hanesydd Paul Hughes o Lansilin yn cyhoeddi llyfr newydd, Glyndŵr's People – Life for the Tenants of Sycharth in 1400.
Mae'r gyfrol yn cynnig persbectif newydd ar wrthryfel Owain Glyndŵr drwy ganolbwyntio ar fywydau'r tenantiaid a'r gweithwyr cyffredin a fu'n byw yn Sycharth ar droad y 15fed ganrif.
Mewn erthygl i Cymru Fyw, mae Paul Hughes a'r Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams, sydd wedi ysgrifennu rhagair y gyfrol newydd, yn rhannu wyth ffaith am fywyd dan Owain Glyndŵr.

Safle llys Owain Glyndŵr yng Nglyndyfrdwy lle cyhoeddwyd Owain yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400
Rhuddallt
Mae Sycharth yn enwog fel llys Glyndŵr, ond nid pawb sy'n sylweddoli fod ganddo lys arall yr un mor bwysig yng Nglyndyfrdwy yn Sir Feirionnydd ac mai Rhuddallt oedd enw hwnnw.
Yng Nglyndyfrdwy y'i cyhoeddwyd yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400.

Safle llys Glyndyfrdwy. Mae'n debyg fod union safle'r llys yn y pantle sydd ym mlaen y llun
Afon Cynllaith
Mae bron yn sicr mai drwy lwybr i'r dwyrain o afon Cynllaith yn hytrach na dilyn y ffordd fodern i'r gorllewin o'r afon, oedd cyrraedd manor ac anheddiad Sycharth.
Bedyddio
Er bod bedydd plant Sycharth yn dilyn patrwm tebyg i fersiwn fodern y ddefod hon, nid oedd y fam yn mynychu gan ei bod yn cael ei hystyried yn amhur ar ôl y geni.
Mynychwyd gan dri gwarcheidwad – un a ddewiswyd gan deulu'r tad, un gan deulu'r fam a'r trydydd person o'r gymuned oedd â statws cymdeithasol uwch a fyddai felly'n disgwyl rhoi anrheg bedyddio llawer mwy i'r plentyn nag eraill o bobl Sycharth.

Eglwys Llansilin
Eglwys Llansilin
Cafodd eglwys plwyf Llansilin, a oedd yn wreiddiol yn strwythur pren o'r 6ed ganrif, ei hailadeiladu, o leiaf yn rhannol, mewn carreg yn y degawd cyntaf o'r 13eg ganrif ond cafodd ei ddinistrio gan ddilynwyr Harri IV yn 1403.
Roedd Owain yn mynychu eglwys Llansilin yn rheolaidd, ac yn y flwyddyn 1400 doedd dim seti (dim ond ambell fainc bren wrth y waliau ar gyfer bobl hen a methedig), ond roedd gan y waliau addurniadau trawiadol iawn.
Clefyd
Er bod achosion gwahanglwyf (leprosy), y clefyd a ofnwyd mwyaf yn ystod y Canol Oesoedd cynnar, yn lleihau erbyn 1400, mae cae ar bwys ffin ddwyreiniol eglwys y plwyf sydd yn dal i gael ei alw yn 'Maes y Lepra' hyd heddiw.

Rhan o weddillion muriau amddiffynnol Berwig. Bu Owain Glyndŵr a'i frawd Tudur, a Chrach Ffinnant yn aelodau o garsiwn Berwig yn 1384
Ffermio
Roedd tenantiaid Owain yn Sycharth yn magu defaid a moch, ac yn tyfu cnydau gwair megis gwenith, ceirch, eirin a rhyg, yn ogystal â chnydau fel ffa a phys.
Gwinllan Sycharth
Yn ôl Iolo Goch yr oedd 'gwinllan' yn Sycharth. Er bod oes aur tyfu gwinwydd ym Mhrydain wedi mynd heibio, oherwydd y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Lloegr a Ffrainc, fe fewnforid llai o win o Wasgwyn (Gascony) erbyn ail hanner y 14eg ganrif.
Fe wyddom fod tyfu gwinwydd yn parhau yn Lloegr yn y cyfnod hwn, ac mae'n debyg felly y gellid derbyn sylw Iolo fod gwinllan yn Sycharth.

Sycharth gan Mary Cunnah
Pysgota
Sonia Iolo fod 'penhwyaid' (pikes) yn y pysgodlynnoedd yn Sycharth. Roedd y rhain yn cael eu hystyried yn foethusfwyd (luxury food) yn y cyfnod ac yn arwydd o statws bonheddig uchel Owain Glyndŵr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2024

- Cyhoeddwyd13 Awst
