Y clwb syrffio sydd â'r nod o 'wella lles meddyliol a chorfforol'

Un o aelodau ifanc clwb yn syrffio yn y môr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sesiynau'n denu pobl o bob oedran, gan gynnwys y criw ifanc yma - ac wedi helpu rhai unigolion hŷn ymdopi â chyflyrau fel PTSD

  • Cyhoeddwyd

Cadw'r meddwl yn iach trwy syrffio - dyna nod clwb unigryw yn y gorllewin sy'n cynnig cefnogaeth i blant ac oedolion oroesi heriau iechyd meddwl.

Mae Tonic Surf yn cynnig sesiynau therapi syrffio mewn tri lleoliad - Traeth Poppit a Niwgwl yn Sir Benfro a'r Borth yng Ngheredigion.

"Mae wnelo'r holl raglen yn syml â gwella lles meddyliol a chorfforol," dywedodd un o sefydlwyr y clwb, Kwame Salam.

"Mae gwahanol grwpiau yn cael gwahanol bethau ohono fe, ond y prif effaith yw gwella sefydlogrwydd meddyliol."

Y llynedd, cafodd ymchwil ei gynnal gan yr elusen therapi syrffio, The Wave Project gan edrych ar effaith syrffio ar bobl ifanc.

O'r ychydig dros 350 a gafodd eu holi, dywedodd 77.6% ohonyn nhw eu bod wedi gweld gwelliant yn eu lles.

Mae'r elusen Mind Cymru yn pwysleisio bod sawl mantais i dreulio amser yn yr awyr agored a bod "cysylltu gyda byd natur o'n cwmpas ni wir yn bwysig".

Kwame Salam, Isaiah a Flo
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Un o sylfaenwyr y clwb, Kwame Salam, a dau o'r aelodau ifanc, Isaiah a Flo

Yn y clwb mae unigolion yn cael y cyfle i fagu hyder yn y dŵr a gwneud ffrindiau newydd.

Dywedodd un o'r aelodau ifanc, Isaiah, fod "clybiau fel hyn yn bwysig achos mae'n dda i iechyd meddwl a bod yn hyderus yn y dŵr".

Yn ôl aelod arall, Flo: "Fi'n teimlo'n hapus a mwy hyderus yn y môr a 'da ffrindie' fi".

Bethan Jones Arthur
Disgrifiad o’r llun,

Mae "cysylltu gyda byd natur o'n cwmpas ni wir yn bwysig i'n iechyd meddwl", medd Bethan Jones Arthur ar ran Mind Cymru

Dywedodd Bethan Jones Arthur ar ran Mind Cymru fod "cysylltu gyda byd natur o'n cwmpas ni wir yn bwysig i'n iechyd meddwl".

"Ma' fe'n gallu helpu gyda nifer o bethe' fel unigrwydd, iselder, gorbryder a hefyd just y cysylltiad 'na gyda'n hunain, gyda'r byd o'n cwmpas a gyda'n cymunedau hefyd."

Mae'r cynllun wedi ennill gwobrau ers ei sefydlu, ac wedi helpu rhai unigolion ymdopi â chyflyrau fel PTSD, ynghyd â gofalwyr a phobl sydd wedi camddefnyddio sylweddau.

Fel y mae enw'r clwb yn awgrymu, mae bod yn y môr yn gallu bod yn iachusol - nad cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith mai 'ton' yw tri llythyren cyntaf y gair 'tonig'.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.