'Pobl yn dwyn er mwyn byw', gydag achosion ar gynnydd yn y gogledd

Dywedodd Kel Hughes eu bod nhw'n "dal pobl gyffredin" yn dwyn eitemau bob dydd o'i archfarchnad
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd mewn costau nwyddau pob dydd yn arwain pobl gyffredin i ddwyn o siopau, yn ôl rheolwr archfarchnad ym Mhwllheli.
"Mae pobl yn dwyn er mwyn byw, dwi'n meddwl, yn hytrach nag er mwyn gwerthu ymlaen am broffit," meddai Kel Hughes - rheolwr siop Aldi.
Dywedodd Mr Hughes bod staff yn aml yn "dal pobl gyffredin" wrth y til hunanwasanaeth sy'n talu am y mwyafrif o'u siopa, ond yn "slipio ambell i beth i fag ar wahân" er mwyn arbed symiau isel o arian.
Daw wrth i'r ffigyrau diweddaraf ar ddwyn o siopau ddangos bod nifer y troseddau ar eu huchaf ers degawd yng ngogledd Cymru - yr unig ardal heddlu yng Nghymru i weld cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fe welodd gogledd Cymru bron i 5% o gynnydd mewn troseddau dwyn o siopau, o gymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ôl ystadegau'r Swyddfa Gartref.
Roedd dros 5,000 o droseddau o'r fath yn y gogledd yn 2025-26.
Fe welodd Heddlu Gwent ostyngiad o bron i 5% yn nifer y troseddau o'r fath, tra bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gweld gostyngiad 13.2%, a 13.6% yn llai yn ardal Heddlu'r De.
Dywedodd Kel Hughes bod archfarchnad Aldi Pwllheli yn "colli pres aruthrol" o ganlyniad i ladrad, a bod y swm wedi cynyddu 10% yn y ddwy flynedd diwethaf.
Ond mae'n dweud bod y mathau o eitemau sy'n cael eu dwyn wedi newid.
Dywedodd mai'r patrwm traddodiadol o ddwyn roedd yr archfarchnad yn ei weld oedd eitemau fel poteli fodca, wisgi a chig eidion - nwyddau gwerthfawr fyddai yna'n cael eu gwerthu ymlaen.
Ond bellach, eitemau pob dydd sy'n cael eu dwyn gan amlaf - pethau fel past dannedd, jariau coffi a chaws.
"Os ydyn ni'n defnyddio caws fel enghraifft, mae pris caws wedi mynd i fyny'n aruthrol yn y ddwy flynedd diwethaf," meddai Mr Hughes.
"'Da ni'n mynd i'r pwynt rŵan lle 'da ni'n gorfod security tagio'r caws druta' er mwyn mynd i'r afael â phobl yn dwyn hynny, a'r un fath efo coffi."
Dywedodd bod y nwyddau yma yn llai o faint ar y cyfan, ac felly'n haws i bobl guddio yn eu bagiau.
'Gwybod bod nhw'n cael get away'
Ledled Cymru a Lloegr, bu 5% o ostyngiad yn nifer yr achosion o ddwyn o siopau a gafodd eu hadrodd i'r heddlu yn 2025-26 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ond o'r dros hanner miliwn o achosion, daeth dros hanner yr ymchwiliadau i ben heb i'r troseddwyr gael eu hadnabod.
Dywedodd y Swyddfa Gartef bod troseddau manwerthu wedi cael eu diystyru fel troseddau lefel isel am yn rhy hir.
Dywedodd Mr Hughes: "Dyna ydy'r broblem - pobl yn gwybod bod nhw'n cael get away efo fo."
Yn unol â pholisi'r archfarchnad, mae staff yn cael eu hannog i beidio â herio lladron - rheolwyr, fel Mr Hughes, sy'n delio gyda nhw.
"Dyna lle mae pethau'n mynd yn anodd dwi'n meddwl, achos 'da ni'n reit limited i be' 'da ni'n gallu 'neud."
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi ymrwymo i wneud popeth y gallan nhw i leihau achosion o ddwyn ac i erlyn troseddwyr.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mark Williams, sy'n arwain ar droseddau manwerthu'r llu: "'Da ni wedi rhoi pwyslais sylweddol ar ein hymateb ni i droseddau manwerthu dros y ddwy flynedd diwethaf, drwy gryfhau cysylltiadau efo mân-werthwyr a gwella rhannu gwybodaeth yn sylweddol.
"'Da ni wedi cynyddu nifer y digwyddiadau 'da ni'n ymweld â nhw, ac wedi cyflwyno technoleg newydd i gynorthwyo manwerthwyr i adrodd troseddau."
Dywedodd y llu fod bron i hanner yr achosion sy'n cael eu hadrodd yn arwain at gamau cyfreithiol.
"'Da ni'n gweld troseddwyr yn cael eu rhoi o flaen eu gwell mewn bron i 50% o'r achosion adroddwyd ledled Gogledd Cymru, ac mi wnawn ni weithio'n galed er mwyn parhau â'r cynnydd hwn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.