Aneirin Karadog: 'Dyslecsia ddim yn fy nal i'n ôl'

Aneirin Karadog
- Cyhoeddwyd
"Mae gyda fi dyslecsia, ond dydw i ddim yn gadael iddo fy nal i'n ôl. Os rhywbeth, mae fe falle'n datgloi elfennau creadigol yn y dychymyg."
Mae'r prifardd Aneirin Karadog wedi adeiladu gyrfa gyda geiriau drwy farddoni ac ysgrifennu llyfrau.
Wrth i ail addasiad Cymraeg o gyfres Dog Man, Penci: 2 Ar Garlam, gael ei gyhoeddi, dywedodd yr awdur amlieithog wrth Cymru Fyw ei fod yn credu i'w ddyslecsia ei helpu yn ei fywyd a'i yrfa.
Dywedodd: "Mae dyslecsia wedi 'ngwthio i tuag at farddoniaeth a dw i wedi cael budd mawr o gael cyfranogi yn y traddodiad barddol – a hefyd y ffaith bod y traddodiad barddol mor fyw dal i fod.
"Dw i yn gwneud llawer o waith sgwennu copi ar gyfer cwmnïau hyrwyddo a PR ac chwarae â iaith a bod yn greadigol gyda iaith falle yw'r rhinwedd dw i'n ei fwynhau ac yn gallu gynnig i bobl.
"Falle bod y dyslecsia yn golygu 'mod i'n meddwl mewn ffordd wahanol ond ddim o reidrwydd yn well nac yn waeth nag unrhyw un arall, jyst yn wahanol."
Diagnosis
Cafodd Aneirin y diagnosis pan yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen. Roedd e wedi sylwi ers dyddiau ysgol fod ei gyd-ddisgyblion yn darllen llyfrau lawer yn gyflymach nag e felly aeth am brofion, meddai: "Darganfyddodd y seicolegydd fod ochr llythrennedd fy ymennydd yn gweithio'n dda ond bod yr ochr berfeddol ddim mor dda.
"Fe ges i label dyslecsia, a bues i'n ymaflyd â fe am sbel. O'n i'n ddiolchgar bod 'na esboniad, ond 'oedd y cyfan yn newydd ac yn annisgwyl."
Ond mae'r bardd o Bontypridd yn pwysleisio mai nid darllen yn unig mae dyslecsia yn effeithio: "Mae dyslecsia yn ymwneud â mwy na dim ond geiriau ar y dudalen achos mae'r ffordd dwi'n gallu rhesymegu wrth siarad ac wrth drafod neu ddadlau efo rhywun yn wahanol.
"Dwi'n gallu mynd yn rhwystredig achos mae'r meddwl dyslecsig yn prosesu pethau yn gyflymach na'r meddwl sy ddim â dyslecsia - ond bod y llygaid a gweddill y corff ddim yn gallu cadw lan.
"Felly dyna'r broblem. Dwi'n drysu llythrennau wrth deipio, falle, ond hefyd weithiau dw i'n methu'r pethau amlwg.
"Mae o ddiddordeb i fi falle o ran cynganeddu - ydy e'n golygu fy mod i weithiau'n taro ar drawiadau annisgwyl oherwydd dyslecsia?
"Ond weithiau dw i'n methu'r trawiad cynganeddol amlwg mae fy nghyd-gynganeddwyr i wedi meddwl amdano."

Aneirin yng Ngŵyl y Gelli
Newid
Mae Aneirin wedi gwneud nifer o newidiadau yn ei fywyd er mwyn ei helpu i ddygymod gyda dyslecsia, meddai, gan gynnwys rhoi'r gorau i yfed alcohol ers pum mlynedd.
Mae hefyd yn paratoi os oes angen trafod materion pwysig, meddai: "Dwi'n teimlo bod fi angen paratoi y pwyntiau trafod o flaen llaw achos yn y foment, mae modd i'r meddwl i rasio a dwi'n gallu edrych fel mod i ddim yn gallu cael fy mhwynt i drosodd.
"Mae angen trio bod yn bwyllog wrth drafod mewn pwyllgorau neu gyfarfodydd a pheidio tarfu ar beth mae pobl eisiau dweud achos dw i isie cyfrannu'r pethau sy'n dod i'r meddwl ar y pryd.
"Mae trio rheoli'n hunan yn gymdeithasol yn her, ac mae fe'n rhywbeth dw i'n siarad amdano 'da 'mhlant i. Ni gyd yn 'nabod rhywun sydd yn dwlu ar sŵn llais eu hunan.
"A'r peth pwysica' ni angen dysgu, y superpower mwyaf ni'n annog i bawb ei drio magu yw gallu gwrando ar bobl."
Yn ogystal â barddoni mae Aneirin yn gweithio i gyhoeddwyr llyfrau gyda'i gyfrol ddiweddaraf yn ail addasiad Cymraeg o gyfres Dog Man gan yr awdur Dav Pilkey.
Mae'r bardd yn uniaethu gyda Pilkey sy' hefyd yn dyslecsig ac sy'n byw gyda ADHD.
Fel Pilkey daeth cariad Aneirin at greu comics yn ffocws pwysig iddo yn ifanc ac mae'n ffan mawr o'r gyfres Dog Man, fel mae'n sôn: "Mae'r grefft yn cuddio'i hun yn ei lyfrau achos mae'r ieithwedd yn edrych yn ffwrdd â hi ac yn wirion, ac mae yna gamynganu neu gamsillafu geiriau yn fwriadol. Ond mae hwnna'n ran o gefndir y straeon.
"Felly, o'n i isie trio 'neud teilyngdod gyda hynny yn llyfrau Penci a thrio addasu'r ieithwedd i fod yn chwaraeus yn y Gymraeg yr un ffordd.
"Mae'r ymateb wedi bod yn wych. Dwi wedi derbyn neges gan deulu Cymraeg o'r Alban oedd yn chwilio am lyfrau i annog eu plant i barhau gyda'r Gymraeg ac maen nhw wrth eu bodd gyda Penci."
Gyda Dog Man y sioe gerdd yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru yn ystod mis Hydref, mae Aneirin hefyd yn edrych ymlaen i weld y fersiwn lwyfan o'r llyfrau gyda'i deulu.

Dog Man y sioe gerdd
Magwraeth
Gyda'i fam yn dod o Lydaw a'i dad o Gymru, mae Aneirin wedi ei fagu mewn teulu amlieithog, sy' wedi bod o fantais wrth fyw gyda dyslecsia, meddai: "Achos mae'r meddwl wedi gwneud cysylltiadau ar draws ieithoedd ac yn gallu gweld y byd mewn ffordd luosog. A deall bod 'na wahaniaethau ond bod y gwahaniaethau yna i'w dathlu a bod 'na bethau sydd yn ein clymu ni er gwaetha'r gwahaniaethau.
"Felly, mae cysylltiadau rhwng y Gymraeg a'r Llydaweg ac mae cael dy fagu mewn dwy iaith sydd yn chwaer ieithoedd yn brofiad arbennig.
"Mae'r Llydaweg bron fel tafodiaith o'r Gymraeg neu'r Gymraeg fel tafodiaith o'r Lydaweg. Mae pethau mor debyg a weithiau mae pethau'n hollol wahanol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
