Heddwas wnaeth daro dyn naw gwaith 'heb gamymddwyn' - panel disgyblu

Roedd PC Richard Williams wedi gwadu'r holl honiadau yn ei erbyn
- Cyhoeddwyd
Nid oedd heddwas wnaeth ddyrnu dyn "dro ar ôl tro" wrth ei arestio wedi defnyddio dulliau afresymol, yn ôl panel disgyblu'r heddlu.
Drwy gydol yr wythnos mae gwrandawiad camymddygiad wedi clywed tystiolaeth fanwl am y modd y cafodd Steven Clark ei arestio ym Mhorthmadog ym mis Mai 2023, gan gynnwys honiadau fod PC Richard Williams wedi defnyddio grym afresymol.
Roedd y swyddog yn un o ddau o Heddlu Gogledd Cymru a gafodd eu hanfon i stâd o dai yn dilyn adroddiad am ffrae ddomestig.
Mewn achos yn Llys y Goron Caernarfon yn 2025 roedd PC Williams wedi ei ganfod yn ddieuog o ymosod a thagu'n fwriadol.
Heddwas wnaeth daro dyn naw gwaith 'wedi gwneud dim byd o'i le'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dyn 'methu anadlu' tra'n cael ei daro a'i arestio gan blismon
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Heddwas wnaeth ddyrnu dyn wedi defnyddio 'grym afresymol' - gwrandawiad
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Fore Gwener, barn y panel ar derfyn gwrandawiad camymddygiad Heddlu'r Gogledd, oedd nad oedd unrhyw un o'r honiadau yn erbyn PC Williams wedi eu profi, ac felly, nad oedd ei ymddygiad yn afresymol.
Cafodd fideo ei ryddhau yn dangos PC Williams yn gafael ar y dyn o amgylch ei wddf (headlock).
Wrth gydnabod "nad oedd ymddygiad PC Williams wastad yn ddelfrydol", y casgliad oedd "nad oedd ganddo wastad ddewis mewn sefyllfa oedd yn datblygu'n gyflym".
Wedi gweld fideo o gamerâu corff ei gyd-swyddogion cyn, ar ôl ac yn ystod y digwyddiad, ychwanegon nhw "nad oedd hi'n amlwg bod PC Williams wedi ei daro oherwydd ei fod wedi colli ei dymer".
Ac mai "ymgais cydnabyddedig i reoli Mr Clark" oedd y bwriad, "wrth arestio person treisgar".
Cafodd fideos o gamerâu corff yr heddlu a rhai o wefannau cymdeithasol eu dangos i'r gwrandawiad
Ym mis Mai 2023 roedd yr heddlu wedi eu galw i stâd ym Mhorthmadog yn dilyn adroddiadau o "ffrae ddomestig".
Dywedodd dynes fod Mr Clark, yn 34 oed ar y pryd, "o'i go'" ar ôl cymryd cyffuriau.
Clywodd y panel fod swyddogion hefyd wedi cael gwybod bod gan Mr Clark hanes o broblemau iechyd meddwl ac o wneud bygythiadau ac ymddygiad treisgar, gan gynnwys gyda chyllell.
Ond wrth i'r swyddogion geisio ei arestio, clywodd y gwrandawiad fod pethau wedi "cymryd tro" a bod Mr Clark ar y llawr.
Fe ddangoswyd fideo corff a fideo gan gymdogion i'r panel yn dangos PC Williams ar ben Mr Clark, yn gafael arno o amgylch ei wddf cyn ei daro naw gwaith yn ei ben.
Dywedodd tyst arbenigol, PC Matthew Iles - hyfforddwr gyda Heddlu'r Met yn Llundain - fod dyrnu person tra'n ceisio ei arestio yn "dechneg gydnabyddedig i blismyn", ond bod "rhaid i swyddogion heddlu wastad fod yn gyfrifol am eu gweithredoedd".
PC Williams yn 'gwneud ei orau mewn sefyllfa anodd'
Dywedodd Mr Clark wrth y gwrandawiad nad oedd yn gallu anadlu pan gafodd ei ddal ar y llawr.
"Do'n i ddim yn gallu anadlu," meddai, "roedd o'n fy nhagu... dechreuodd o hitio fi dro ar ôl tro."
"Roedd fy nghorff i fel jeli... roedd o'n troi fy ngwddf yn ôl... un swyddog yn eistedd arna' i, do'n i ddim yn gallu anadlu."
Dywedodd Mr Clark ei fod wedi gofyn i'r swyddogion ei "arestio gyda'i ddwylo o'i flaen", gan nodi ei fod wedi dioddef anaf blaenorol i'w fraich dde yn dilyn damwain beic modur, a bod plygu'r fraich mewn ffyrdd penodol yn achosi poen sylweddol.
Ond ni ddigwyddodd hyn.
Roedd PC Einir Williams, a oedd ar y safle yn wreiddiol, yn gefnogol o ymdrechion ei chydweithiwr.
Dywedodd nad oedd yr hyn a wnaeth PC Williams yn "anarferol na'n anghywir", gan egluro mai ei rôl hi oedd "rheoli ei goesau wrth iddo gicio".
Ond wrth i PC Williams roi ei dystiolaeth ei hun, roedd yn bendant nad oedd wedi gwneud "unrhyw beth o'i le".
Dywedodd fod Mr Clark wedi "taclo'r" swyddog arall "fel chwaraewr rygbi" i'r llawr, ac mai gafael o amgylch ei wddf oedd yr unig ffordd i'w gael i lawr.
"O'n i'n meddwl mai fy opsiwn gorau fyddai ergydion i dynnu sylw."
Ychwanegodd ei fod wedi defnyddio ei law chwith ac nad oedd ganddo "lawer o ddylanwad na grym" y tu ôl i'r ergydion oherwydd ei safle.
Gwadodd PC Williams fod yr ergydion yn ormodol neu ei fod wedi taro Mr Clark fel cosb am iddo wrthsefyll cael ei arestio.
"Ro'n i'n gwneud y gorau y gallwn i mewn sefyllfa anodd," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.