Arweinydd Reform Cymru yn ymddiswyddo ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod

Dan Thomas yn annerch cynhadledd Reform UK ym mis Medi 2026Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dan Thomas annerch cynhadledd Reform yn gynharach fis yma

  • Cyhoeddwyd

Mae Dan Thomas wedi ymddiswyddo fel arweinydd Reform yng Nghymru ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall.

Dywedodd Heddlu Gwent fod dyn 45 oed o Aberbargoed yng Nghaerffili wedi'i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau.

Mewn datganiad, dywedodd Thomas: "Dros y penwythnos, cefais fy nghyfeirio at yr heddlu a fy rhyddhau heb gyhuddiad.

"Rwy'n pwysleisio nad ydw i wedi gwneud unrhyw beth o'i le, ond dydw i ddim am i'r penawdau sydd i ddod dynnu sylw oddi ar y gwaith gwych y mae ein tîm yn y Senedd yn ei wneud wrth ddal y llywodraeth i gyfrif.

"Fe fydda i'n parhau i wasanaethu fy etholwyr yng Nghasnewydd Islwyn ac yn cefnogi'n llwyr pwy bynnag y bydd y grŵp yn ei ddewis fel eu harweinydd nesaf."

Dywedodd Heddlu Gwent: "Dydd Sul 13 Medi, cafodd dyn 45 oed o ardal Aberbargoed ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi.

"Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach barhau."

'Tristwch mawr'

Penodwyd Thomas yn arweinydd Reform yng Nghymru gan Nigel Farage ym mis Chwefror.

Ni fu'n cymryd rhan yn sesiwn holi'r prif weinidog yn gynharach ddydd Mawrth, gyda Helen Jenner AS yn cymryd ei le wrth holi Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd Dan Thomas yn ei ddatganiad: "Mae wedi bod yn anrhydedd mawr i mi fod yn arweinydd Reform Cymru a gweld y blaid yn tyfu o ddim i 34 o aelodau etholedig - y grŵp gwrthblaid mwyaf yn hanes Cymru.

"Gyda thristwch mawr, rydw i bellach yn camu i lawr o'r swydd am resymau personol."

Roedd Thomas yn arweinydd Cyngor Barnet o 2019 hyd at 2022 ac yna bu'n arweinydd yr wrthblaid ar ôl i Lafur ennill rheolaeth, gan aros yn y rôl tan fis Mai 2024.

Ym mis Mehefin 2025, symudodd Thomas o'r Ceidwadwyr i blaid Reform ac ymddiswyddodd fel cynghorydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Dim ond yn Chwefror 2026 y daeth i wleidyddiaeth rheng flaen Cymru, wedi'i ddewis gan Nigel Farage yn arweinydd Reform UK yng Nghymru.

Wrth esbonio ei ddewis, disgrifiodd Farage ef fel "gweddus", "parchus" ac "yn gyfarwydd â brwydro", gan nodi ei brofiad o redeg cyllidebau ac arwain cyngor.

Yn gyflym iawn, daeth yn gynrychiolydd mwyaf amlwg Reform UK yng Nghymru, gan ymddangos yn rheolaidd mewn dadleuon a chyfweliadau teledu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.