'Reform wedi profi eu hunain fel llais cryf i gymunedau Cymru'

Nigel Farage a Dan ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
GanCatrin Haf Jones
  • Cyhoeddwyd

Mae Reform wedi profi eu hunain fel "llais cryf i'r cymunedau sydd wedi'u gadael ar ôl" yng Nghymru ers etholiad y Senedd ym mis Mai, yn ôl eu harweinydd yng Nghymru.

Wrth siarad ar drothwy cynhadledd Reform UK, mae Dan Thomas yn dweud bod ei blaid wedi profi eu bod yn ddewis credadwy i Gymru yn ystod y pedwar mis diwethaf.

Dywedodd Thomas y byddai'r blaid nawr yn gwthio am rôl fwy amlwg i Gymru yn ymchwiliad annibynnol y Deyrnas Unedig i gam-drin rhywiol ar blant gan gangiau.

Enillodd Reform 34 o'r 96 sedd yn y Senedd yn etholiad mis Mai, gan olygu mai nhw yw'r wrthblaid swyddogol i lywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd.

Cynhadledd ReformFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Reform UK yn cynnal ei chynhadledd flynyddol yn Birmingham, gyda'r blaid yn paratoi ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf

Wrth i gynhadledd Reform UK gael ei chynnal yn Birmingham rhwng 3 a 5 Medi, mae Thomas wedi beirniadu llywodraeth Plaid Cymru am fethu, hyd yn hyn, â chael cefnogaeth i'w chyllideb atodol yn y Senedd.

Fe bleidleisiodd Reform yn erbyn y llywodraeth yn y bleidlais ym mis Gorffennaf am fethu â chwrdd â'i "llinellau coch" ar faterion fel torri gwariant tramor.

Dywedodd Thomas fod Reform, ar y llaw arall, wedi dangos eu bod "yn gallu adeiladu consensws yn y Senedd, ac y gallwn roi llais i'r rhai heb lais".

"Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi methu â sicrhau cefnogaeth i'w mesurau ariannol ym Mae Caerdydd.

"Os bydd y duedd honno'n parhau, mae'n anodd gweld sut y bydd y llywodraeth yma ym Mae Caerdydd yn llwyddo i bara'r tymor Seneddol."

Dywedodd y byddai Reform, mewn sefyllfa o'r fath, yn "barod i gymryd yr awenau a llywodraethu er budd Cymru".

Dan ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Thomas wedi beirniadu Plaid Cymru am fethu â sicrhau cefnogaeth i'w chyllideb atodol

Mae disgwyl i Thomas ddefnyddio ei araith yn y gynhadledd ddydd Gwener i gyfeirio at record ei blaid ei hun ers mis Mai, lle maen nhw wedi ennill cefnogaeth i dri chynnig yn y Senedd - ar TB mewn gwartheg, amddiffyniad cyfreithiol i'r rhai sy'n gadael gofal, a chofrestr o lobïwyr yng Nghymru.

Bydd Thomas hefyd yn cyhoeddi bod grŵp Reform yn y Bae yn bwriadu cyflwyno cynnig yn ystod wythnos gyntaf y tymor Seneddol newydd i alw am rôl fwy blaenllaw i Gymru yn Ymchwiliad Annibynnol y Deyrnas Unedig i Gangiau Grŵmio, a chymell pleidiau eraill y Senedd i "gefnogi ein galwad am weithredu".

Yn 2025 bu'r Ceidwadwyr yn arwain galwadau yn y Senedd am ymchwiliad penodol i gangiau grŵmio yng Nghymru, gan arwain at gytundeb trawsbleidiol y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymchwiliad annibynnol yng Nghymru i gam-drin rhywiol ar blant gan gangiau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.