'Gosod y seiliau' medd Plaid Cymru wrth nodi 100 niwrnod mewn grym

Fe wnaeth y llywodraeth ryddhau llun o'r cyfarfod cyntaf o'r cabinet ar 18 Mai
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi amddiffyn eu 100 niwrnod cyntaf mewn grym gan ddweud eu bod wedi gosod y seiliau i leihau amseroedd yn y gwasanaeth iechyd.
Mewn cyfweliad i nodi diwedd y cyfnod hwnnw, fe ddywedodd un o weinidogion y llywodraeth bod "enghreifftiau penodol o lwyddiant" hefyd yn rhai o brif bolisïau'r blaid.
Fe wnaeth Plaid Cymru gyhoeddi cynllun ar gyfer ei 100 niwrnod cyntaf, dolen allanol mewn llywodraeth cyn etholiad y Senedd fis Mai.
Dywedodd y pleidiau eraill nad oedd digon wedi digwydd i ddatrys y problemau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.

Dafydd Trystan Davies ydy'r gweinidog cabinet dros effeithiolrwydd llywodraeth a'r cyfansoddiad
Mae'r llywodraeth wedi addo dileu amseroedd aros am driniaeth o fwy na dwy flynedd o fewn "misoedd".
Er i'r niferoedd sy'n aros yn hirach na hynny leihau ychydig yn y ffigyrau diweddaraf ar gyfer mis Mehefin, fe wnaeth cyfanswm y bobl sy'n aros am driniaeth godi am y trydydd mis yn olynol.
Dywedodd Dafydd Trystan Davies - y gweinidog dros effeithiolrwydd llywodraeth - bod hybiau llawdriniaeth a chynllun ar gyfer y gweithlu yn cael eu sefydlu i greu gwasanaeth iechyd "cynaliadwy".
"A dyna beth y'n ni wedi 'neud yn ystod y 100 niwrnod yw gosod y seiliau ar gyfer llwyddiant i ddod a rhestrau aros lawr – y rhestrau aros hiraf o fewn misoedd a'r rhestrau aros pellach o fewn y tymor yma oherwydd mae'n allweddol bwysig i 'neud hynny yn gynaliadwy," meddai.
Dywedodd hefyd bydd rhieni plant dyflwydd oed yn "teimlo'r gwahaniaeth" wrth i ofal am ddim gael ei ehangu, ac y byddai ffermwyr yn elwa o system gyllido "cyson a chlir".
Asesu'r 100 niwrnod cyntaf o lywodraeth Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Llywodraeth Cymru'n methu â phasio ei chyllideb atodol ar ôl colli pleidlais
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
Fel llywodraeth leiafrifol, mae angen cefnogaeth pleidiau eraill ar Blaid Cymru i ennill pleidleisiau yn y Senedd.
Fe gollon nhw bleidlais ar y gyllideb atodol ganol Gorffennaf, ar ôl methu dod i gytundeb mewn trafodaethau gyda Llafur.
Dywedodd Mr Davies bod y llywodraeth eisiau cydweithio gyda phleidiau eraill, ond bod "cyfrifoldeb hefyd ar y gwrthbleidiau i gydweithio yn adeiladol".
"Dwi'n optimistaidd am y trafodaethau am y gyllideb," meddai.
"Ma angen i ni drafod yn gynnar, yn effeithiol, yn breifat."
Pan ofynnwyd iddo pam taw fe ac nid y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth oedd yn wynebu'r wasg, dywedodd: "Fi sydd wedi bod yn gyfrifol am y cynllun 100 niwrnod yn 'engine room' y llywodraeth, os liciwch chi, gyda swyddfa'r cabinet."
Ychwanegodd bydd y prif weinidog, sydd ar gyfnod o wyliau i ffwrdd o'r gwaith yn cyhoeddi adroddiad ar y 100 niwrnod yn ystod y dyddiau nesaf.
'Llu o gamgymeriadau'
Dywedodd Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru, fod pethau wedi "gwaethygu" ers i Blaid Cymru ennill yr etholiad, gyda rhestrau aros wedi "mynd i fyny".
"Mae gennym fyfyrwyr nyrsio, bydwragedd a chriwiau ambiwlans yn chwilio am swyddi oherwydd nad ydynt wedi cael sicrwydd o swydd ar ôl eu hyfforddiant ac rydym wedi cael llu o gamgymeriadau."
Dywedodd Ken Skates, arweinydd Llafur Cymru: "Rydym wedi gweld cynlluniau a phrosesau, trafodaeth, llawer o siarad, ychydig iawn o weithredu.
"Mewn cyferbyniad, gydag Andy Burnham ry' ni wedi gweld rhai ymyriadau mawr iawn, iawn a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl."
Dywedodd Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae 100 niwrnod cyntaf Plaid wedi gweld cyfres siomedig o gyfleoedd yn cael eu colli i droi'r ddalen ar 27 blynedd o Lafur yn rheoli Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.