Cyffuriau, arian ac arfau wedi eu canfod mewn cyrchoedd beiciau trydan

Beic trydan a beic modur trydan a gafodd eu cymryd gan swyddogion yn ystod y cyrchoedd er mwyn eu harchwilio
- Cyhoeddwyd
Cafodd cyffuriau, arian ac arfau eu darganfod mewn cyrchoedd ar draws de Cymru, fel rhan o ymgyrch yn erbyn beiciau trydan anghyfreithlon.
Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn gynyddol bryderus am y cysylltiad rhwng beiciau trydan, troseddau difrifol ac ecsploetio plant - gyda phlant yn gyfrifol am lawer o'r troseddau honedig.
Dywedodd un heddwas fod pobl wedi cael "llond bol" o feiciau trydan sydd yn "bla" mewn ardaloedd ar draws y DU, tra bod arbenigwr yn dweud y gallan nhw fod yn gysylltiedig â throseddu difrifol.
Cafodd y BBC ddilyn cyrchoedd gan Heddlu De Cymru wrth iddynt geisio mynd i'r afael â throseddu sy'n gysylltiedig â beiciau trydan, o'u defnyddio'n anghyfreithlon i ymddygiad gwrthgymdeithasol a delio cyffuriau.

Swyddogion Heddlu De Cymru yn cynnal cyrch mewn cartref yn Abertawe
Mae'n 06:00 ym Merthyr Tudful ac mae'r BBC wedi cael gwahoddiad i sesiwn friffio gan yr heddlu, sy'n cynnwys swyddogion cudd.
Mae Operation Grebe yn ymateb i bryderon cynyddol am ddefnydd anghyfreithlon o feiciau trydan ar draws y DU.
Swyddog yn y Tîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, na ellir ei enwi, sy'n arwain y sesiwn.
Mae swyddog troseddau cyfundrefnol, na ellir ei adnabod, yn arwain y sesiwn friffio.
"Y nod yw tarfu ar rwydweithiau troseddol sy'n gweithredu ar draws de Cymru, adnabod a diogelu oedolion bregus a phlant sy'n cael eu hecsploetio'n droseddol, yn ogystal â chanfod asedau a tharfu ar arian troseddol."."
Mae'r ymgyrch yn ymwneud a chanfod cerbydau, ond hefyd tarfu ar ochr dywyllach y defnydd o feiciau trydan.
Mae'r tîm wedi cael gwybodaeth sy'n awgrymu fod beiciau trydan a beiciau modur trydan yn cael eu defnyddio i ddelio cyffuriau yn yr ardal.
Ar fore tywyll, gwlyb a niwlog, mae cerbydau'r heddlu'n teithio i gartrefi ar draws de Cymru.

Swyddogion yr heddlu mewn sesiwn friffio ar gyfer Operation Grebe cyn cyfres o gyrchoedd yn gynnar yn y bore
"Mae'r beiciau trydan hyn yn bla ar gymunedau, maen nhw'n gwneud i bobl deimlo yn anniogel - felly ry'n ni am weithredu," meddai'r Uwch-arolygydd Emma Fox, sy'n goruchwylio'r cyrchoedd.
Fel pennaeth gweithrediadau arbenigol o fewn y llu, mae'n gwybod pa mor ddefnyddiol gallai'r beiciau trydan fod i droseddwyr.
"Mae'n broblem ar draws y DU," meddai, gan ychwanegu fod beiciau trydan "yn aml yn gysylltiedig â defnyddio cyffuriau, cyflenwi cyffuriau a throseddu difrifol".
Roedd hi'n arbennig o bryderus am blant sy'n defnyddio beiciau trydan yn cael eu "hecsploetio" gan droseddwyr profiadol.
"Mae'n haws osgoi'r heddlu" ar y beiciau, meddai.

Mae'r Uwch-arolygydd Emma Fox yn bryderus am y cysylltiad rhwng beiciau trydan ac ecsploetio plant
Ond mae'r heddlu yn ymladd yn ôl, gan ddefnyddio dulliau mwy soffistigedig i fynd i'r afael â'r math yma o droseddu, gan gynnwys dronau a beiciau trydan eu hunain.
Lansiodd Heddlu Surrey Operation Scramble mewn ymateb i gysylltiadau rhwng beiciau trydan a gweithgarwch troseddol, ac eleni cafodd 136 o feiciau trydan eu cymryd gan y llu, o'i gymharu â 127 yn 2025.
Dywedodd Dr Timothy Holmes, uwch-ddarlithydd mewn troseddeg a phlismona ym Mhrifysgol Bangor, y gallai beiciau trydan "hwyluso" troseddu difrifol.
"O safbwynt gweithgarwch troseddol, mae'n gerbyd amlbwrpas iawn – mae'n hawdd ei symud ac mae'n gallu mynd ar gyflymder uchel," meddai.
"Maen nhw'n dod yn broblem gynyddol oherwydd eu bod mor amlwg."
Cymharodd y cyflenwad a'r argaeledd o feiciau trydan sy'n cael eu cadw a'u haddasu'n anghyfreithlon gyda'r diwydiant arfau anghyfreithlon, ble mae "diwydiant cyfreithlon mawr" a diwydiant anghyfreithlon "yn tyfu ohono".
Dywedodd fod yr heddlu'n gorfod taro "cydbwysedd" rhwng "atal hyn rhag dod yn broblem" a mynd ar ôl "meysydd mwy difrifol o droseddu difrifol, fel masnachu cyffuriau a llinellau cyffuriau."

Bydd reiffl awyr a gafodd ei darganfod mewn cyrch beiciau trydan ym Merthyr Tudful yn cael ei hasesu gan yr heddlu
Ym Merthyr Tudful, mae fan yr heddlu'n parcio ar y stryd y tu allan i dŷ pâr.
Mae swyddogion yn dod allan o'r fan gyda dyrnhwrdd ond mae'r drws ar agor yn barod.
Mae cyrchoedd hefyd yn digwydd yng Nghaerdydd, Pontypridd ac Abertawe.
Ar draws y 14 cyrch, cafodd 12 beic eu hatafaelu, a bydd rhai'n cael eu dinistrio.
Cafodd 11 o bobl eu harestio - rhai ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud a chyffuriau.
Cafodd pedwar o bobl yn y cyrch yn Abertawe eu cyhuddo o droseddau cyffuriau honedig, gan gynnwys cyflenwi crac cocên a heroin.

Beic trydan a beic modur trydan a atafaelwyd gan yr heddlu mewn un tŷ, a fydd yn cael eu harchwilio i weld a oedden nhw'n cael eu cadw'n gyfreithlon
Yn ôl yr Uwch-arolygydd Fox, roedd yna "atafaeliad sylweddol" ym Merthyr Tudful.
"Ry'n ni wedi atafaelu swm o gyffuriau ac arian parod - canabis a chocên," meddai.
"Cafodd y cyffuriau eu canfod i fyny'r grisiau yn y tŷ."
Bydd y sylweddau y mae'r heddlu'n credu sy'n gyffuriau nawr yn cael yn cael eu profi.
Yn ogystal â'r cyffuriau a £1,300 mewn arian parod, roedd beic trydan, beic modur trydan a beic cwad yn yr eiddo.
Cafodd dau o bobl eu harestio a'u cludo o'r tŷ mewn gefynnau.
"Mae'n dangos y cysylltiad rhwng defnyddio beiciau trydan anghyfreithlon a throseddu," meddai Ms Fox.
Ychwanegodd fod "arfau awyr" wedi'u canfod yn y cyfeiriad a bod swyddogion wedi'u "synnu" wrth ddod o hyd iddynt.
"Fydden ni ddim wedi gwybod amdanyn nhw, ond mae'n rhywbeth sydd wedi'i gymryd o'r cyfeiriad," meddai.
Dywedodd uwch-swyddogion eu bod yn buddsoddi mewn technoleg i fynd i'r afael â beiciau trydan, ond nad problem plismona yn unig oedd hon, ac y byddai angen ymdrech ehangach i fynd i'r afael â'r mater.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.