Mae'r Gymraeg yn rhan ohonof i - Arweinydd Cymru a'r Byd

Carys Garnon JamesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Mae cael ei dewis yn Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod y Garreg Las eleni yn "fraint ac anrhydedd mawr" i Carys Garnon James, sydd wedi bod yn byw yn yr Almaen ers 40 mlynedd.

Yn frodor o Landudoch ger Aberteifi, dywedodd nad yw hi'n credu bod "fath beth â cholli Cymraeg", gan bwysleisio mai'r ffordd orau o ddiogelu'r iaith yw ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r llall.

Bydd Carys yn annerch y Pafiliwn yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst, ac mae'n dweud bod y penodiad yn arbennig gan fod yr ŵyl yn cael ei chynnal ychydig filltiroedd o gartref ei theulu.

Er iddi adael Cymru yn 1986 i ddechrau bywyd newydd yn Bafaria, mae hi'n dweud ei bod wedi cadw cysylltiad agos â'i mamwlad drwy'r Gymraeg, ei theulu a'i hymweliadau rheolaidd â Sir Benfro.

Carys a'i rhieniFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carys fod ei rhieni wedi meithrin ei chariad at yr Eisteddfod a'r Gymraeg

"Ges i dipyn o sioc – do'n i ddim yn disgwyl hyn o gwbl, ond mae'n anrhydedd mawr," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal tua thair milltir o Landudoch, lle ces i fy magu ac mae cartref y teulu, sydd wedi bod gyda ni ers sawl cenhedlaeth, dal yno."

Mae'r rôl yn un arbennig iddi hefyd oherwydd ei rhieni, y diweddar Jeff a Mair Garnon James, gan ddweud fod yr Eisteddfod wedi golygu cymaint iddyn nhw.

Roedd ei mam, Mair Garnon James, yn ddigrifwraig, athrawes ac arweinydd nosweithiau llawen adnabyddus, ac yn un o gymeriadau amlycaf cymuned Llandudoch.

Bu hefyd yn feirniad mewn nifer o eisteddfodau ac yn cyflwyno rhaglen Noson Lawen ar S4C.

Jeff a Mair Garnon JamesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jeff a Mair Garnon James yn ffigurau pwysig ym mywyd Carys ac yn frwd dros yr Eisteddfod

Dywedodd Carys fod yr Eisteddfod wedi bod yn rhan annatod o fywyd y teulu, gyda'i mam yn meithrin ei chariad at y llwyfan a diwylliant Cymru o oedran ifanc.

"Byddai Mam wrth ei bodd pe bai hi'n gwybod fy mod i'n ymgymryd â'r rôl hon eleni.

"Byddai hi wedi hoffi bod yna, a hi'n berson mor gartrefol ar y llwyfan, byddai hi'n browd iawn.

"Roedden ni wedi ein magu yn mynychu sawl eisteddfod - yr eisteddfodau bach yn y capel, yr Urdd a'r Genedlaethol.

"Roedd Mam yn beirniadu mewn lot o eisteddfodau bach, felly roedd ymwneud â'r Eisteddfod yn rhan naturiol o'n bywyd."

Carys gyda'i brawd a'i chwaer. Mae Carys yn gwisgo gwisg draddodiadol Almaenig.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys wedi cadw cysylltiad agos â'i theulu yng Nghymru er iddi ymgartrefu yn yr Almaen

Ar ôl dewis astudio Almaeneg yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, aeth Carys ymlaen i astudio'r iaith yn y brifysgol.

Wedi graddio, gweithiodd gyda'r BBC yng Nghaerdydd ac Abertawe ar raglenni Radio Cymru cyn symud i'r adran gyflwyno.

Carys a PaulFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cyfarfu Carys â'i darpar ŵr, Paul, yn 1984 cyn symud i'r Almaen ddwy flynedd yn ddiweddarach

Ar wyliau yn 1984 fe wnaeth gyfarfod ei gŵr, Paul, ac arweiniodd hynny at ei phenderfyniad i adael Cymru yn 1986 i ddechrau pennod newydd yn ei bywyd yn yr Almaen.

Bellach wedi ymddeol ar ôl gyrfa gyda chwmni rhyngwladol ar gyrion Munich, mae'n dal i ymweld â Llandudoch sawl gwaith y flwyddyn ac yn cadw cysylltiad agos â'i theulu, ei ffrindiau ac Eglwys Blaenwaun, lle mae'n parhau'n aelod.

Carys, Garnon a Paul. Mae Garnon yn gwisgo'i wisg draddodiadol saer Almaenig.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mab Carys a Paul, Garnon Ioan, ei fagu'n ddwyieithog yn Gymraeg ac Almaeneg

Er ei bod wedi byw dramor ers degawdau, roedd trosglwyddo'r Gymraeg i'w mab, Garnon Ioan, yn benderfyniad "hollol naturiol", meddai.

"Mae e'n rhan o fi ac mae'r Gymraeg yn rhan ohonof i, felly roedd trosglwyddo'r iaith yn beth eitha' naturiol.

"Doedd dim meddwl am y peth - 'a ddylen ni wneud neu a ddylen ni ddim gwneud' - dim o gwbl."

Carys a'i mab, GarnonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carys fod trosglwyddo'r Gymraeg i'w mab yn benderfyniad "hollol naturiol"

Cafodd ei mab ei fagu'n ddwyieithog, gan siarad Cymraeg gyda'i fam ac Almaeneg gyda'i dad.

"Ro'n i'n darllen straeon Cymraeg iddo bob dydd, yn gwrando ar ganeuon Cymraeg a doedd e ddim yn broblem iddo fe achos doedd e ddim yn gw'bod gwahaniaeth, ac roedd hi'n naturiol iddo siarad Cymraeg gyda Mamgu a Tadcu pan oedden ni'n dod i Gymru.

"Dwi ddim yn meddwl bod fath beth â cholli Cymraeg.

"Mae hi gyda chi trwy'ch bywyd, ac mae mor bwysig ei rhoi ymlaen o un genhedlaeth i'r llall."

Carys gyda'i brawd a'i chwaer yng NghymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys yn ymweld â Chymru sawl gwaith y flwyddyn ac yn cadw cysylltiad agos â'i theulu

Mae Carys hefyd yn awyddus i weddill Cymru a'r byd glywed tafodiaith ei milltir sgwâr yn yr Eisteddfod eleni.

Dywedodd ei bod yn gobeithio gweld tafodieithoedd lleol yn cael eu diogelu, gan ddweud ei bod hi'n dal i ddefnyddio geiriau Sir Benfro fel "wes" a "wêr".

Ychwanegodd fod pobl Bafaria yn ymfalchïo yn eu tafodiaith nhw hefyd, ac felly ei bod yn gweld gwerth mawr mewn cadw amrywiaeth ieithyddol yn fyw.

"Ry'n ni'n byw yn Bafaria lle mae gan bobl eu tafodiaith eu hunain, sy'n wahanol iawn i'r Almaeneg safonol, ac maen nhw'n ei chadw'n fyw mewn caneuon ac mewn iaith bob dydd.

"Dwi'n meddwl bod cadw tafodiaith yn bwysig iawn ac na ddylen ni ei cholli."

Carys a'i rhieniFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carys fod ei gwreiddiau yn Sir Benfro a thafodiaith yr ardal yn parhau'n rhan bwysig o'i hunaniaeth

Wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod ym mis Awst, dywedodd ei bod yn gyffrous i gwrdd â hen gyfeillion a chydweithwyr o'i dyddiau yn gweithio i Radio Cymru.

"Yn y Steddfod 'leni dwi'n edrych 'mlaen at gyfarfod â lot o bobl dwi ddim wedi gweld ers sbel, at y cyngherddau a'r canu - a phob dim i ddweud y gwir!

Carys yn yr Almaen yn gwisgo gwisg draddodiadol AlmaenigFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Er ei bod wedi ymgartrefu yn Bafaria, mae Carys yn parhau i hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant

Mae hi'n gobeithio y bydd ei haraith yn y Pafiliwn yn annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg bob cyfle a gânt.

"Mae'n haws weithiau newid i'r Saesneg neu iaith arall os nad yw pobl yn deall, ond mae mor bwysig i gadw siarad a'i rhoi ymlaen o un genhedlaeth i'r llall.

"Mae'n ddiddorol clywed a darllen am yr holl Gymry dros y byd a sut maen nhw'n cadw eu mamiaith yn fyw mewn gwledydd lot pellach i fwrdd na'r Almaen.

"Ymfudo yn y wlad maen nhw, ond cadw'r Gymraeg yn fyw a'u cariad at y famiaith a'r famwlad.

"Y neges fyddwn i'n ei rhoi i Gymry dros y byd yw i gadw ati i beidio rhoi'r gorau i siarad a hybu'r iaith."