Lluniau: Harddwch Llwybr Arfordirol Ynys Môn

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae 9 Mehefin yn nodi 20 mlynedd ers i'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, agor Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn swyddogol.

Mae'r Llwybr Arfordirol o amgylch Cymru wedi ei rannu'n wyth rhan, gyda Llwybr Sir Benfro wedi agor yn yr 1970au, ac Ynys Môn yn ail ran o'r llwybr yn 2006.

Ceredigion ddaeth wedyn yn 2008, ac erbyn 2012 roedd pob rhan wedi ei chwblhau, gan gysylltu'r daith 870 milltir o amgylch arfordir Cymru.

I ddathlu'r 20 mlwyddiant dyma ddetholiad o ddelweddau trawiadol o arfordir Môn.

arwyddFfynhonnell y llun, Alan Morris/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Mon yn 130 milltir ac yn amgylchynu'r ynys, gyda nifer o gerddwyr yn ei gwblhau o fewn wyth i 12 diwrnod

porthaethwyFfynhonnell y llun, RedSnapper/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pont Borth, gafodd ei hadeiladu yn 1826, o ochr Porthaethwy

AberffrawFfynhonnell y llun, JacobH/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pentref Aberffraw, pencadlys Teyrnas Gwynedd o'r nawfed ganrif

Ynys LlanddwynFfynhonnell y llun, Alan Novelli/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Man adnabyddus a hynod hardd - Ynys Llanddwyn

AmlwchFfynhonnell y llun, Lukassek/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Porth Amlwch ar ogledd yr ynys

RhoscolynFfynhonnell y llun, R A Kearton/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bwa Gwyn yn ymestyn i'r môr yn Rhoscolyn

Pont BritanniaFfynhonnell y llun, CHUNYIP WONG/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr ail bont dros Afon Menai - Pont Britannia, a gwblhawyd yn 1850

penmonFfynhonnell y llun, Joe Daniel Price/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Trwyn Penmon ar ddwyrain yr ynys

DafarchFfynhonnell y llun, Raj Kamal/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Porth Dafarch ar Ynys Cybi

BeaumarisFfynhonnell y llun, GordonBellPhotography/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Muriau tref Biwmaris yn ne ddwyrain yr ynys

Ynys MonFfynhonnell y llun, Samuel Foster/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Borth Wen

Eglwys LlangwyfanFfynhonnell y llun, Philip Silverman/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Llangwyfan ar Ynys Cribinau, ger Aberffraw

RhosneigrFfynhonnell y llun, Samuel Foster/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhosneigr yn rhan orllweinol yr ynys

Mynydd TŵrFfynhonnell y llun, Mark Youlden/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y llwybr arfordirol yn mynd heibio hen gwt cerrig ar Mynydd Tŵr, Caergybi

CaergybiFfynhonnell y llun, Phillip Roberts/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Porthladd Caergybi

Porth WenFfynhonnell y llun, Pete Rowbottom/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hen weithfeydd brics ym Mhorth Wen

Goleudy Ynys LawdFfynhonnell y llun, R A Kearton/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y llwybr yn edrych i lawr am oleudy Ynys Lawd

MoelfreFfynhonnell y llun, SteveAllenPhoto/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pentref Moelfre o'r awyr

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: