Prif Weinidog Cymru yn dweud na fyddai'n derbyn arian o'r byd crypto

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud bod angen rheoleiddio manwl o'r byd arian crypto
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud na fyddai'n barod i dderbyn rhoddion ariannol enfawr fel y £72m y mae Reform UK wedi ei dderbyn gan ddynion busnes o'r byd arian crypto.
Yn siarad ar raglen Laura Kuenssberg ddydd Sul, fe gwestiynodd Rhun ap Iorwerth pam fod y ddau unigolyn, Ben Delo a Christopher Harborne, wedi penderfynu cyfrannu gymaint.
"Ydyn nhw wedi dewis gwneud hyn er mwyn gwneud bywydau pobl gyffredin yn well? Neu ydyn nhw, o bosib, yn gobeithio gweld llai o reoleiddio ym maes crypto - rhywbeth y mae Reform wedi ei grybwyll yn y gorffennol.
Dywedodd llefarydd Reform ar yr economi, Robert Jenrick fod y blaid yn credu bod y rhoddion "yn gwbl gyfreithlon".

Mae'r ddau rodd o £36m i Reform UK yn gwbl gyfreithlon, ac nad ydyn nhw'n disgwyl gorfod dychwelyd yr arian yn y dyfodol, meddai Robert Jenrick
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn edrych ar newid y gyfraith ar roddion ariannol i bleidiau gwleidyddol gan Brydeinwyr sy'n byw dramor.
Mae'n nhw'n ystyried gosod cap o £100,000, fyddai'n cael ei ôl-ddyddio i 25 Mawrth.
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod mwyafrif yr arian sydd gan Blaid Cymru "yn dod o roddion bach iawn,iawn" fel boreuau coffi neu arian sy'n cael ei adael mewn ewyllysiau.
'Ceisio prynu gwleidyddiaeth'
Awgrymodd nad oedd yn hapus gyda'r syniad o arian yn dod o faes crypto.
"Dwi'n credu bod angen rheoleiddio rhyngwladol manwl iawn o arian crypto oherwydd mae 'na bryderon gwirioneddol am y ffordd y mae modd symud arian i gefnogi gweithgareddau anghyfreithlon ac ati.
"Dwi'n ofni mai'r hyn 'dan ni'n ei weld yw ras i'r brig - sy'n cael ei ennill gan Reform ar hyn o bryd, a hynny ar gefn rhoddion enfawr.
"Ond dwi'n eithaf siŵr y daw ras i'r gwaelod hefyd wrth ystyried ymddiriedaeth pobl mewn democratiaeth, a'r syniad o rywun cyfoethog iawn - sydd o bosib ddim yn byw yn y DU - yn ceisio prynu gwleidyddiaeth.
"'Dan ni ddim eisiau hyn yn ein gwleidyddiaeth".

Mae Plaid Cymru yn "agored i gael trafodaethau" gyda phob plaid wrth geisio sicrhau bod modd pasio'r gyllideb nesaf, yn ôl Elin Jones
Yn y cyfamser, mae'r Gweinidog Cyllid, Elin Jones yn cydnabod ei bod wedi ei "synnu gan realiti'r pwysau ar y gyllideb" sy'n wynebu Llywodraeth Cymru eleni.
Wrth siarad am y tro cyntaf ers treulio'r haf yn asesu'r sefyllfa ariannol, awgrymodd y bydd rhaid torri gwasanaethau mewn rhai meysydd.
Bydd y rhagolygon llwm yn gefndir i ymdrechion Plaid Cymru i sicrhau cytundeb ar gyllideb y flwyddyn nesaf pan fydd y Senedd yn ailddechrau yr wythnos hon.
Gan mai llywodraeth leiafrifol sydd gan Blaid Cymru, mae angen cefnogaeth plaid arall er mwyn pasio'r gyllideb.
'Toriadau'n debygol mewn rhai meysydd'
Yn ystod tymor yr haf, methodd Plaid Cymru a Llafur Cymru â chyrraedd cytundeb ar wariant ychwanegol, gyda buddsoddiad mewn anghenion dysgu ychwanegol yn creu gwrthdaro.
Dywedodd Elin Jones AS wrth siarad ar raglen Politics Wales: "Ro'n i wedi'n synnu â realiti'r pwysau ar y gyllideb y flwyddyn ariannol hon pan ddes i'n Weinidog Cyllid.
"Felly, mae gennym ni realiti'r GIG a'i ddisgwyliadau ariannol a'r anawsterau i ddelio â hwy eleni.
"Yna, mae gennym ni'r toriad mewn termau real ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa'.
"Allwn ni ddim gadael i hynny ein rhwystro fel llywodraeth neu fel Senedd, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir i flaenoriaethu yn y gyllideb honno.
"Bydd hynny'n golygu ei bod hi'n debygol y bydd rhywfaint o doriadau mewn rhai meysydd er mwyn ariannu blaenoriaethau Plaid Cymru... ond hefyd blaenoriaethau un neu ddau o bleidiau gwleidyddol eraill."
'Gosod y seiliau' medd Plaid Cymru wrth nodi 100 niwrnod mewn grym
- Cyhoeddwyd26 Awst
Llafur â 'dim dewis' ond pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol - Ken Skates
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf
Bydd aelodau'r cabinet nawr yn edrych ar ble all y toriadau hynny ddigwydd mewn trafodaethau yn yr wythnosau i ddod - wrth iddyn nhw hefyd geisio dod o hyd i gyllid er mwyn ariannu ymrwymiadau etholiadol fel gofal plant.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid fod Llywodraeth Cymru, am y tro cyntaf mewn pum mlynedd, yn wynebu toriad o 0.7% yn eu cyllideb mewn termau real ar gyfer gwariant dydd i ddydd y flwyddyn nesaf, ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth.
Mae hynny yn cymharu â chynnydd cyfartalog o 3.5% yn y blynyddoedd diweddar.
Ychwanegodd Ms Jones: "Rwy'n siŵr y bydd pob plaid yn dod â syniadau i'r Senedd, o ran ble maen nhw'n meddwl y dylid blaenoriaethu'r gyllideb.
"Mae angen i Blaid Cymru mewn llywodraeth wrando ar yr holl leisiau yno.
"Felly byddwn ni'n gwneud hynny, a byddwn ni'n agored i gael y trafodaethau hynny gyda phawb ac yn realistig bod angen o leiaf un partner arnom ni i basio cyllideb.
"Cyn belled â bod pawb, pob plaid, yn ymwybodol o ba mor dynn yw cyllideb ariannol y flwyddyn nesaf, mae angen i ni basio'r gyllideb oherwydd bod angen darparu'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.