Y ferch o Landdewi Brefi sy'n gwneud ei marc ym myd amaeth

Rhian GriffithsFfynhonnell y llun, Farmers Weekly
GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-fyfyriwr amaeth o Brifysgol Aberystwyth yn un o'r tri sydd ar restr fer cylchgrawn The Farmers Weekly Awards ar gyfer gwobr Myfyriwr Amaeth Y Flwyddyn.

Cafodd Rhian Griffiths o Landdewi Brefi ei tharo gan droseddwr yfed a gyrru yn ystod ei hail flwyddyn yn y brifysgol gan ei gadael wedi torri ei dau bigwrn. Gorfododd ei hanafiadau iddi gymryd blwyddyn allan cyn dychwelyd i orffen ei chwrs.

Wrth drafod ei phrofiad, dywedodd Rhian ar raglen Dei Tomos, Radio Cymru:

"I fod yn hollol onest o'n i yn gweld y byd mewn llygaid newydd yn dilyn be' ddigwyddodd i fi, ac o'n i'n teimlo mor ddiolchgar yn cael mynd 'nôl i astudio."

Haf o wobrau ar ôl gwaith caled a chyfnod heriol

Erbyn hyn, mae Rhian newydd dderbyn y llawdriniaeth olaf ar ei phigwrn ar ôl llu o lwyddiannau.

Dros yr haf fe raddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol Aberystwyth, derbyn Gwobr Myfyriwr Amaethyddol Dr Richard Phillips a Gwobr Myfyriwr Amaethyddol y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth yn Y Sioe Fawr. Bydd canlyniad gwobrau cylchgrawn The Farmers Weekly yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni'n Llundain yn yr hydref.

Ar ben hynny mae hi newydd gychwyn swydd fel Cynghorydd Amaethyddol Graddedig.

 Rhian eisoes wedi dangos dycnwch a chryfder cymeriad wrth wneud ei gradd tra'n parhau i wella o'i hanafiadau, Rhian fu'n egluro ei hangerdd at fyd amaeth.

"Mae'r bedair blynedd dwetha wedi bod yn broses. I ddechre, doedd dim bwriad gen i i fynd i astudio amaeth yn y brifysgol. Y cynllun oedd i astudio'r gyfraith yng Nghaerdydd, ond o'n i'n teimlo 'mod i'n ferch y wlad a teimles i fod hwnna ddim yn iawn i fi, felly es i astudio amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth."

Rhian ar y fferm defaid lle gwnaeth hi ei hymchwil gan ennill Gwobr Addysgol Cymdeithas Ddefaid Texel am y traethawd hir gorau yn seiliedig ar ddefaidFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhian ar y fferm defaid lle gwnaeth hi ei hymchwil gan ennill Gwobr Addysgol Cymdeithas Ddefaid Texel am y traethawd hir gorau yn seiliedig ar ddefaid

Er ei bod wedi'i magu ar fferm odro yn Llanddewi Brefi, gyda'i thad, ei hewythr a'i chefnder yn ffermio yno, doedd Rhian heb ddilyn cyrsiau amaeth yn yr ysgol fel ei chyfoedion ac felly roedd y cwrs yn golygu bod angen iddi ymroi'n gyfan gwbl i'w hastudiaethau.

Eglurodd: "Doedd dim Lefel A na TGAU gyda fi yn amaethyddiaeth a felly o'n i'n mynd mewn i'r raddd yma gyda dim ond profiad godro lloeau yn y gwanwyn fel ry'n i'n gwneud gartref.

"Oedd dim clem 'da fi am systeme defaid, moch, ieir na beef – oedd popeth yn hollol newydd i fi."

"O'n i'n teimlo allan o fy nyfnder ac o'n i'n teimlo bo' fi yn dechre ar lefel is na phawb arall ond o'n i' mwynhau'r her achos oedd gymaint o ddiddordeb 'da fi o fewn y pwnc.

"Wedyn ym mis Tachwedd ar ddechrau'r ail flwyddyn, yn anffodus fues i mewn damwain car oherwydd gyrrwr meddw ac o'n i isie dychwelyd yn ôl i'r brifysgol i barhau â'r cwrs, ond sylwes i fod hynny bach yn amhosib gan fy mod wedi torri y ddau bigwrn yn wael.

"Oedd rhaid i fi gymryd blwyddyn allan a mynd yn ôl y flwyddyn drannoeth."

Rhian ar y fferm ar ôl ei damwain yn bwydo oen swciFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhian ar y fferm ar ôl ei damwain yn bwydo oen swci

Swydd newydd

Ar hyn o bryd mae Rhian yn setlo i'w swydd newydd fel ymgynghorydd amaeth ac mae'n dweud ei bod "wedi cael y dream job ac yn gyffrous iawn".

Ond ydy hi'n teimlo bod beth ddigwyddodd iddi wedi ei rhwystro mewn unrhyw ffordd?

"I fi'n bersonol, yn gorfforol bydde'n anodd i fi ffermio'n llawn amser a godro dros 300 o dda dwy waith y dydd.

"Alla i byth â dweud y bydda i byth yn gallu mynd yn ôl i ffarmo yn llawn amser ond ar y funud mae'n mynd i fod yn anodd i fi, felly dwi'n hapus iawn a wedi derbyn bo' fi'n derbyn swydd mewn rhywbeth arall i wneud gydag amaeth.

"Dwi'n eitha cyffrous achos yn y blynyddoedd diwetha dwi wir wedi ffeindio rhywbeth arall dwi'n caru 'neud ac ymgynghoriaeth yw hynny."

Godro ar fferm y teulu yn Llanddewi BrefiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Godro ar fferm y teulu yn Llanddewi Brefi

 hithau ar gychwyn ei gyrfa'n mynd o fferm i fferm yn cynghori ffermwyr sydd wedi bod yn trin y tir ac yn magu anifeiliaid ers degawdau, dywed bod lle ym myd amaeth i ymgynghorwyr ifanc.

Eglurordd: "Gyda phob unigolyn sy'n mynd i ffarm i ymgynghori mae'r ffarmwr wedi gofyn am gymorth felly mae hwnna'n rhywbeth positif.

"Bydda i'n mynd yna gyda meddwl agored – gwrando a peidio rhoi pethe ar bobl dydyn nhw wir ddim isie."

Amser wyna ar y fferm ddefaid yng NgheredigionFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Amser wyna ar y fferm ddefaid yng Ngheredigion

Ar ben ei gwaith newydd, Rhian yw cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi eleni ac mae'n edrych ymlaen at ddathliadau'r clwb yn 85 oed.

Dywedodd: "Mae llwyth o aelodau ifanc sy'n gyffrous iawn i ddechre, a gobeithio flwyddyn yma gawn ni flwyddyn lwyddiannus arall a phawb yn cael sbort."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig