Y dyn a gafodd bythefnos i fyw sydd bellach yn helpu miloedd i sobri

- Cyhoeddwyd
Mae'r erthygl hon yn cynnwys manylion am ddibyniaeth ar alcohol.
"Mae gennych chi bythefnos i fyw." Dyna eiriau'r doctoriaid yn Ysbyty Gwynedd pan roedd Chris Rees ar ei waethaf. Fe adawodd yr ysbyty, meddai "i fynd adref i farw."
Roedd yn adeiladwr o Lannor ger Pwllheli wedi bod yn gaeth i alcohol a chyffuriau presgripsiwn am fwy na 15 mlynedd. Ar ei fwyaf difrifol, roedd yn yfed tua 400 uned o alcohol yr wythnos.
Yn sgil hynny dioddefodd o ganser y gwaed, clotiau gwaed di-rif, pancreatitis cronig ac fe ostyngodd ei bwysau i bum stôn a hanner.
Ond yn wyneb ei feidroldeb ei hun fe benderfynodd "gymryd fy mywyd i ddwylo fy hun" ac fe roddodd y gorau i yfed a thaflu'r cyffuriau i'r bin.
Ymhen dipyn, daeth gwellhad ac aeth i gyfarfod Alcoholics Anonymus. Ond, dywedodd nad oedd y broses honno'n ei siwtio ac yn "chwalu ei ben." Ar ôl hynny, cafodd gyfnod ychydig yn ansicr nes i gymydog a oedd yn gweithio ym maes iechyd meddwl awgrymu ei fod yn ymuno â grŵp cefnogi gwahanol.
Wrth feddwl am ei heriau iechyd ei hun, ei ddibyniaeth ar sylweddau gwahanol a'r argyfwng y cafodd ei hun ynddo, penderfynodd sefydlu grŵp Facebook i gefnogi pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae Sober Ninjas yn mynd ers wyth mlynedd ac mae ganddo tua 2,500 o aelodau ledled y byd.

Y Sober Ninjas yn cwrdd wyneb yn wyneb
Mae Chris wedi cael ei enwebu am un o wobrau Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru Wales yn y categori Gwirfoddolwr, ac ymunodd â Shân Cothi am sgwrs ynglŷn â'i waith ar BBC Radio Cymru.
Am dderbyn yr enwebiad dywedodd Chris:
"Dw i'n reit chuffed, dweud gwir. Do'n i ddim yn disgwyl dim byd fel yma. Mae'n 'neud rhywun weld y gwaith da ni'n neud efo grŵp Sober Ninjas a Caffi'r 'Ogia. Mae o'n bleser i gael fy enwebu."
Mae'n dweud i'w daith fod yn wael a'i roi mewn "uffern o le tywyll" ond ei fod wedi gorfod stopio i osgoi marwolaeth "ofnadwy o boenus."
"Nes i stopio". medd Chris, "a 'oedd y flwyddyn a hanner cyntaf yn anodd oherwydd o'n i mor sâl. Ar ôl y flwyddyn a hanner nes i ddechrau cael fy iechyd yn ôl."
A gyda'r iechyd fe gododd y ddibyniaeth ei ben eto a bu'n rhaid i Chris wneud rhywbeth am y peth.
"Wnaeth yr hen lais bach 'ma yn fy mhen i ddechrau dweud 'Ti'n iawn 'wan Chris! Gei di fynd am beint. Ty'd rŵan, ty'd rŵan.' So ro'n i'n gorfod trio ffeindio allan beth oedd y llais bach 'ma, lle mae'n dod o a lle oedd y cravings 'ma'n dod o."
Ac yntau wedi mynd o grŵp i grŵp, a ddim wedi dod o hyd i un oedd yn gweddu iddo – gormod o reolau, gorfod siarad am hyn, ddim yn cael siarad am y llall – fe benderfynodd ddechrau ei grŵp ei hun gyda llond llaw o bobl yr oedd o wedi dod i'w hadnabod wrth geisio sobri.
Sefydlu Sober Ninjas
Ganwyd Sober Ninjas, a thyfodd y grŵp i gymuned gefnogol o dros 2,500 o bobl.
Dywedodd, "'Swn i'n licio meddwl dwi wedi cael darn bach i chwarae yn helpu dipyn ohonyn nhw i fod yn byw bywyd sobor a byw bywyd da ar ôl fod yn sobor."
Ond nid oedd ei daith o i sobrwydd yn un hawdd. Ar ei salaf roedd o'n pwyso pum stôn a hanner.
"Pryd o'n i'n sâl ofnadwy, o'n i ar lwyth o feddyginiaeth gan y doctors. Ac os rhywbeth oedd rheiny'n lladd fi'n gynt na beth oedd yn wrong arna fi!
"O'n i ar fentanyl, morffin, codeine, tramadol, amitriptyline, gabapentine, warfarin. O'n i'n llyncu tua chwe deg o dabledi bob diwrnod. Wedyn, obviously mae'r opioid yn blocio chdi fyny, so o'n i methu mynd i'r toiled. Achos o'n i mor blocked up drwy'r adeg do'n i methu bwyta. O'n i'n byw ar ryw milkshakes bach 'ma gan doctor. O'n i'n giami ofnadwy.
"Roddon nhw ryw bythefnos i mi fyw ar un adeg."
A dyna pryd y penderfynodd Chris i wneud pethau ar ei delerau ei hun a stopio'r driniaeth feddygol ac edrych ar bethau mewn ffordd "holistig".
"Heddiw 'ma dwi'n ffit ac yn iach . Dw 'di cwblhau ultramarathons a bob dim ers bod yn sobor. Felly, dwi wedi cael fy mywyd yn ôl.
"Dw i'n sbio'n ôl weithiau ar y person o'n i, i bwy ydw i rŵan a mae o fath â person gwahanol."
Chris Rees - y "sober ninja" sy'n helpu eraill â dibyniaeth alcohol a chyffuriau
Wrth wrando ar ei hanes, mae'n anodd credu ei fod wedi dod drwyddi. Beth oedd rhaid iddo ei wneud i oroesi?
"Fel dwi'n dweud wrth yr aelodau, y step cyntaf ydy cyfaddau bod gennyn nhw broblem oherwydd os ydyn nhw ddim yn cyfaddau mae yna broblem, wedyn sut ydan ni'n mynd i ddatrys o? A'r ail step ydy i ofyn am help.
"Ges i'r help o'n i angen yn diwedd. Es i i Ganolfan Felin Fach yn Pwllheli, 'nes i eistedd cyrsiau i ddeall mwy am fod yn gaeth i bethau, 'nes i gwrs o'r enw Moving On In My Recovery a 'naeth o roi foundation da i fi a dealltwriaeth be' oedd yn digwydd.
"Ar ôl hynny 'nes i gwrs o'r enw Intuitive Recovery a 'naeth hwnna newid fy mywyd i."

Chris yn ei hwdi Sober Ninja
Dywedodd Chris iddo elwa llawer o Intuitive Recovery, ac ar ôl pedwar diwrnod o'r cwrs ei fod yn gallu meddwl amdano ei hun nid fel "Chris yr alcoholig sydd ddim yn yfed" ond yn hytrach fel "jyst Chris."
Dywedodd iddo gael gwared ar labeli ac enwau negyddol fel "alcoholig, junkie, waster" a chanolbwyntio ar rai mwy cadarnhaol fel "tad da, gŵr da, ffrind da".
"Mindset ydy o i gyd," meddai
"Mae lot yn dweud mai will power ydi o, ond mae will power 'mond yn mynd â chdi mor bell."
Felly pam Sober Ninjas?
"Pan mae'r llais bach yna'n popio fyny efo'r cravings yma yn trio ein perswadio ni i yfad neu cynnig cyffuriau neu beth bynnag – maen nhw'n dweud fod o fath â'r diafol a'r angel ar bob ysgwydd yn siarad efo ni.
"Ond pan mae diafol bach fi'n dod allan, dim angel bach s'gen i'n dod allan, ninja bach s'gen i'n dod allan, ac mae o'n rhoi cweir i'r diafol bach ac yn cael gwared ohono fo.
"Felly dyna pam mai ninjas ydi'n henwau ni. Beth ti eisiau'n well wrth dy ochr di pan ti'n cwffio'n erbyn rhywun?"
Bydd Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, ddydd Sadwrn 19 Medi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Mwy o wobrau Gwneud Gwahaniaeth
- Cyhoeddwyd26 Awst

- Cyhoeddwyd19 Awst

- Cyhoeddwyd25 Awst
