Enwau etholaethau'r Senedd i gael eu hadolygu a'u newid o bosib

Bae CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Newidiwyd etholaethau Senedd Cymru yn gynharach eleni i 16, gyda chwe gwleidydd yn cynrychioli pob un

  • Cyhoeddwyd

Mae enwau etholaethau newydd y Senedd, a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf yn etholiad mis Mai, i gael eu hadolygu ac o bosib eu newid.

Gallai hynny olygu newid i rai o'r enwau Cymraeg yn unig nad oedd yn boblogaidd gan bawb, gyda disgwyl i unrhyw newidiadau fod mewn grym erbyn etholiad 2030.

Dywedodd prif weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams, y bydd yr adolygiad yn sicrhau bod yr etholaethau'n adlewyrchu'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu, gan gynnwys eu treftadaeth ddiwylliannol a'r defnydd o'r Gymraeg.

Mae'r 16 etholaeth newydd, a grëwyd ar gyfer ehangu'r Senedd, yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau dosbarthiad cyfartal o'r boblogaeth a bod cymunedau sydd â chysylltiadau diwylliannol yn cael eu cadw gyda'i gilydd.

Map yr etholaethau
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r 16 etholaeth yng Nghymru gael eu newid ar gyfer etholiadau 2030

Crëwyd y 16 etholaeth newydd drwy gyfuno etholaethau seneddol y DU, sy'n cael eu defnyddio i ethol ASau, gyda hen ardaloedd etholiadol y Senedd.

Mae hynny wedi cynyddu nifer Aelodau'r Senedd o 60 i 96, gyda chwe Aelod yn cynrychioli pob un o'r 16 etholaeth.

Dywedodd Shereen Williams wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales y gallai'r enwau Cymraeg yn unig gael eu newid yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, gan nad oeddent wedi bod yn boblogaidd gyda phawb.

Mae'r ddeddfwriaeth yn mynnu bod un enw yn cael ei ddefnyddio lle bo hynny'n bosibl, meddai, ond gallai enwau dwyieithog gael eu hystyried "os nad oes modd dod o hyd i enw sy'n adlewyrchu hunaniaeth yr ardal".

Dywedodd Ms Williams hefyd fod y "ffiniau a ddefnyddiwyd yn etholiad diweddar y Senedd wedi'u bwriadu fel rhai dros dro", ac na fydd yr adolygiad yn dechrau o'r newydd.

"Dydyn ni ddim yn dechrau gyda llechen lân," meddai.

"Roedd rhai pobl yn meddwl y bydden ni'n dileu'r holl ffiniau a'u hailadeiladu.

"Na, fe fyddwn ni'n dechrau gyda'r ffiniau a ddefnyddiwyd yn etholiadau diweddar y Senedd ac yn adeiladu ar hynny."

Dywedodd Ms Williams fod yr adolygiad yn anelu at sicrhau bod nifer y bobl ym mhob etholaeth yn debyg, gan ddefnyddio ffigurau o'r cyfrifiad diweddaraf.

Mae disgwyl i bob etholaeth gynnwys tua 150,000 o bobl, gyda ffin o 10% yn golygu rhwng 135,000 a 165,000 o bobl.

Mae swyddogion hefyd am sicrhau bod cymunedau sydd â nodweddion diwylliannol tebyg yn cael eu cadw gyda'i gilydd.

Disgwylir i ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion gael ei gynnal yn 2027.

Mae disgwyl i'r adolygiad gael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2030.

Mae adolygiad pellach wedi'i gynllunio ar gyfer 2038, a gallai hynny arwain at newidiadau pellach i'r etholaethau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.