Cyngor yn amddiffyn polisi Cymraeg newydd sydd wedi'i 'gamddeall'

Bydd polisi newydd Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ymysgn staff a chynghorwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi amddiffyn polisi newydd, sydd â'r nod o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ymysg eu staff a chynghorwyr.
Mae adroddiad gan y cyngor yn amlinellu sut y gall yr awdurdod ddyblu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y gweithle, a chefnogi'r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
O dan y cynlluniau, sydd bellach wedi cael eu cymeradwyo, bydd pob cyfathrebiad mewnol yn ddwyieithog, gyda'r Gymraeg yn gyntaf; bydd staff yn cael eu hannog i ddysgu'r iaith, a bydd adrannau sydd â pherfformiad isel o ran y Gymraeg yn cael cynnig hyfforddiant ychwanegol.
Clywodd cyfarfod o gabinet y cyngor bod y cynllun pum mlynedd wedi cael ei "gamddeall", gydag un cynghorydd yn awgrymu ei fod wedi cael sylw "negyddol" yn y wasg.
'Annog defnydd mor eang â phosib'
Mae'r adroddiad yn addo y bydd y polisi yn "creu ac yn cynnal cronfa ddata sy'n dangos y lefel angenrheidiol o ran y Gymraeg ar gyfer pob rôl a sgiliau presennol y staff, fel sail ar gyfer cynllunio, dysgu a hyfforddi".
Wrth siarad yng nghyfarfod cabinet y cyngor pan bleidleisiodd cynghorwyr dros gymeradwyo'r polisi, dywedodd y cynghorydd Julie Matthews ei fod wedi cael sylw negyddol.
"Dwi wedi gweld bod y polisi yma wedi cael ei nodi yn y wasg, ac mae'n eitha' negyddol, oherwydd yr hyn mae'n ei wneud mewn gwirionedd ydi cynnig cyfle i staff wella eu sgiliau," meddai.
"Mae'n ymwneud ag annog a gwella sgiliau staff, a dwi'n meddwl bod yr agwedd negyddol wedi dod o... bod pobl yn meddwl bod y polisi yma yn golygu ei fod yn orfodol er mwyn gallu gweithio i'r cyngor, yn orfodol i siarad Cymraeg, i weithio i'r cyngor.
"Ond nid dyna beth mae'r polisi yma yn ei wneud.
"Mae'n ceisio annog staff ac aelodau i ddefnyddio'r Gymraeg mor eang â phosib."

Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych, mae'r polisi newydd yn cefnogi'r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
Dywedodd y cynghorydd Rhys Thomas ei fod yn credu bod yr adroddiad wedi cael ei "gamddeall".
"Fe wnaeth rhywun dynnu fy sylw at adroddiad oedd wedi bod yn y wasg yn lleol, oedd yn siarad am y ffaith bod hwn yn cael ei drafod yn y cyfarfod y bore 'ma.
"Fe ges i ychydig bach o syndod i weld beth oedd yn yr erthygl yn y wasg, oherwydd nid dyna roeddwn i wedi ei ddarllen o ran beth oedd bwriad y polisi.
"Ond mae'n rhaid bod yn bryderus bod rhai o'n gohebwyr lleol wedi camddeall - fel y mae'n amlwg y maen nhw wedi ei wneud - yr adroddiad sydd o'n blaenau y bore 'ma.
"Pan ddarllenais i hwn - a dwi yn cymeradwyo'r polisi - does gen i ddim problemau gyda fo."
Ychwanegodd y dylai'r polisi gynyddu hyder staff i ddefnyddio'r Gymraeg.
'Cyfle i bob aelod o staff'
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Jason McLellan ei fod ychydig yn siomedig gyda'r agwedd negyddol, "gan nad ydi o'n ymwneud â gorfodaeth, nac ydi?"
Ychwanegodd y cynghorydd Emrys Wynne: "Mae'n rhan hanfodol o bolisi Comisiynydd y Gymraeg, a dyna pam bod Cyngor Sir Ddinbych yn cryfhau hyn.
"Mae o wedi bodoli yn Sir Ddinbych ers nifer o flynyddoedd, ond rydyn ni yn ei gryfhau rŵan i roi'r un cyfle i bob aelod o staff i feistroli'r iaith Gymraeg i lefel y maen nhw'n teimlo'n gyfforddus â fo."
Fe bleidleisiodd y cabinet dros gymeradwyo'r polisi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd23 Ebrill

