Tudur Owen: Taith i warchod enwau lleoedd Cymraeg

O hyn ymlaen, bydd yr arwydd yma'n amlygu enw Cymraeg cwt yn ardal y Carneddau sy'n cael ei alw'n The Refuge neu Mountain Hut gan rai cerddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorau cymuned gogledd Cymru yn gobeithio cychwyn ymgyrch ehangach i warchod enwau lleoedd Cymraeg, gan ddechrau gyda thaith i osod arwydd newydd yn y Carneddau.
Ddydd Sadwrn bydd criw sy'n cynnwys y digrifwr Tudur Owen - llais amlwg yn yr ymgyrchu dros warchod enwau - yn cerdded i Gwt Dafydd Ross, dolen allanol, ar fynydd Moel Grach, i osod llechen yn nodi'r enw Cymraeg.
Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu ar y cyd rhwng Cyngor Cymuned Llanllechid a Menter Iaith Gwynedd, gyda'r trefnwyr yn gobeithio "creu momentwm i alw ar Lywodraeth Cymru ac asiantaethau megis yr Arolwg Ordnans i wneud mwy i warchod enwau Cymraeg".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "enwau lleoedd Cymraeg yn rhan greiddiol o hanes cyfoethog ein tirwedd a'n cymunedau", ac y bydd yn ystyried yn ofalus sut y gallai deddfwriaeth eu gwarchod.
Galw am enwau lleoedd Cymraeg yn unig ar fapiau Ordnans
- Cyhoeddwyd11 Mai
Bannau Brycheiniog: Enwau Cymraeg yn 'bwysig o ran diogelwch'
- Cyhoeddwyd9 Chwefror
Er yn adeilad digon syml, mae'r cwt cerrig yng nghesail Carnedd Llywelyn yn cael ei ddefnyddio fel lloches mewn tywydd garw gan bod yr ardal yn agored i'r elfennau.
Yn wreiddiol cafodd ei adeiladu fel man i fugeiliaid lochesu a chafodd ei enwi, yn ôl y sôn, ar ôl bugail o'r Alban oedd wedi dod i'r ardal i weithio yn ystod y 19eg ganrif.
Ond mae pryder bod y cwt yn cael ei alw yn 'The Refuge' neu 'Mountain Hut' gan gerddwyr, a'r enwau hynny'n cael eu rhannu ar draws gwefannau cymdeithasol erbyn hyn, gan ddisodli'r enw Cymraeg.
'Dyletswydd i arddel a diogelu ein henwau Cymraeg'
Ddydd Sadwrn bydd Tudur Owen yn gosod arwydd llechen, sy'n rhodd gan Gyngor Cymuned Llanllechid, ar Gwt Dafydd Ross.
Dywedodd: "Dwi yn ofnadwy o falch o gefnogi a hyrwyddo'r daith. Mae yn enghraifft wych o enw hanesyddol a dylai pawb ei ddefnyddio.
"Mae dyletswydd arnom fel Cymry boed yn unigolion, fudiadau lleol, awdurdodau a llywodraeth arddel a diogelu ein henwau Cymraeg."

Mae Tudur Owen wedi bod yn ffigwr amlwg sy'n galw am atal yr arfer o roi enwau Saesneg ar lefydd ag enwau Cymraeg traddodiadol ers nifer o flynyddoedd
Yn ôl y Cynghorydd Einir Wyn Williams, sy'n cynrychioli ward Gerlan ar Gyngor Gwynedd, "mae enwau lleoedd Cymru yn rhan o'n DNA diwylliannol."
Ychwanegodd: "Mae enwau yn adrodd hanes y tir, y bobl, y chwedlau, y gwaith, y bywyd. Nid oes gan neb yr hawl i'w dileu na'u disodli.
"Rwyf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn ffurfiol a sicrhau bod yr Arolwg Ordnans yn parchu ac amddiffyn enwau hanesyddol Cymru."
Dywedodd Robin Williams, ar ran Cyngor Cymuned Llanllechid: "Mae hi'n bwysig iawn ein bod yn cadw ein henwau Cymraeg. Rydym yn gosod arwydd ar adeilad bychan ar un o eangdiroedd cenedlaethol Eryri.
"Siawns y gellid darbwyllo Llywodraeth Cymru, bod cadwraeth diwylliannol enwau lleoedd Cymraeg yn gyfartal â'r dynodiadau cadwraeth hynny ac angen eu diogelu."

Y gred yw bod y cwt wedi ei enwi ar ôl bugail o'r Alban a ddaeth i'r ardal i weithio yn y 19eg ganrif
Bu Cyngor Gwynedd yn trafod gwarchod enwau lleoedd Cymraeg ar fapiau yn ddiweddar, gan gefnogi galwad am enwau Cymraeg yn unig ar fapiau Ordnans.
Bryd hynny, dywedodd llefarydd ar ran yr Arolwg Ordnans bod cynnydd wedi bod yn nifer yr enwau Cymraeg a'u bod, er enghraifft, wedi cefnogi gwaith diweddar o fabwysiadu enwau lleoedd Cymraeg ar gyfer llynnoedd yn Eryri.
Ychwanegon nhw: "Mae cynrychiolaeth gywir o enwau lleoedd, gan gynnwys enwau dwyieithog os yw'r ddau'n cael eu defnyddio, yn hanfodol ar gyfer cyflwyno cynhyrchion mapio o ansawdd uchel i'r cyhoedd a chefnogi'r llywodraeth a'r gwasanaethau brys.
"Ni all Arolwg Ordnans benderfynu ar ei ben ei hun i newid enw.
"Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a pharciau cenedlaethol i nodi beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r iaith Gymraeg yn ein mapio."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod "enwau lleoedd Cymraeg yn rhan greiddiol o hanes cyfoethog ein tirwedd a'n cymunedau.
"Mae eu parchu a'u diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn hollbwysig, felly byddwn yn ystyried yn ofalus sut y gall deddfwriaeth eu gwarchod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024

- Cyhoeddwyd30 Medi 2025
