Y frwydr i achub 'calon' Mynytho

Huw Owen yn sefyll o flaen neuadd MynythoFfynhonnell y llun, Huw Owen
  • Cyhoeddwyd

Ym Mhenrhyn Llŷn, rhyw chwe milltir o Bwllheli ar y lôn i Aberdaron ac yn uchel ar y bryn, eistedda pentref gwledig Mynytho. Mae'n gymuned glos sy'n gartref i ryw 500 neu 600 o bobl, gyda'r iaith Gymraeg yn parhau i fod yn rhan annatod o fywyd pob dydd yma. Yng nghanol y cyfan, mae Neuadd Mynytho.

I Huw Owen, sy'n 41 ac yn saer coed ac adeiladwr lleol, mae'r neuadd yn rhan o'i DNA.

"Oedd Dad ar y pwyllgor. Mae fy mam a 'nhad wedi rhedeg lot o bethau efo'r neuadd erioed. Taid wedi bod yn rhan ohono. Oedd fy hen daid yn un o'r trustees cynta pan gaeth y lle ei adeiladu."

Ag yntau wedi byw yn Mynytho ar hyd ei oes, mae Huw yn cofio helpu ei rieni i osod cadeiriau, torri'r gwellt cyn digwyddiadau mawr, a'r "bwrlwm" wrth i'r gymuned gyfan lenwi'r neuadd ar gyfer digwyddiadau cymunedol.

Mae Neuadd Mynytho wedi bod yn ganolbwynt hollbwysig i'r gymuned ers degawdauFfynhonnell y llun, Neuadd Ddiwylliadol Mynytho
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neuadd Mynytho wedi bod yn ganolbwynt hollbwysig i'r gymuned ers degawdau

"Un o'r petha dwi'n ei gofio fwya' - oedd gen ti dramâu Llanw Llŷn yn y neuadd ers talwm - ac oedd y neuadd yn orlawn efo pobl... Gymaint o bobl - llond y neuadd o sŵn a pobl yn eistedd yna ac yn gwatsiad dramâu a dod â pawb at ei gilydd. Hwnnw 'di'r peth penna' dwi'n ei gofio.

Mae dramâu Llanw Llŷn wedi bod yn ddigwyddiad sy'n dod a thorfeydd i'r neuadd ers blynyddoeddFfynhonnell y llun, Neuadd Ddiwylliadol Mynytho
Disgrifiad o’r llun,

Mae dramâu Llanw Llŷn wedi bod yn ddigwyddiad sy'n dod â thorfeydd i'r neuadd ers blynyddoedd

"A wedyn petha fatha'r sioe, efo llond y lle o gynnyrch. Un wal yn llawn o adar, a rhyw betha felly. Atgofion melys."

Y byrddau wedi eu gosod ar gyfer yr arddangosfa gynnyrch blynyddol yn yr 80au, a'r drefn heddiw sydd heb newid rhyw lawer!Ffynhonnell y llun, Neuadd Ddiwylliadol Mynytho
Disgrifiad o’r llun,

Y byrddau wedi eu gosod ar gyfer yr arddangosfa gynnyrch blynyddol yn yr 80au, a'r drefn heddiw sydd heb newid rhyw lawer!

'Adeiladwyd gan dlodi; — nid cerrig'

Dechreuodd hanes Neuadd Mynytho dros 90 mlynedd yn ôl. Yn 1934, fe lofnododd y trigolion lleol y gweithredoedd i brynu'r tir, ac erbyn 1935, roedd y drysau ar agor. Roedd yn gamp aruthrol, wedi'i chyflawni mewn cyfnod o galedi economaidd mawr.

Fe ddaliodd ymdrech y gymuned sylw'r bardd enwog R. Williams Parry, a gyfansoddodd englyn arbennig i'r adeilad.

Mae'r llinell bwerus honno yn aros yn y cof:

Adeiladwyd gan dlodi; - nid cerrig,

...gan ddathlu'r 'cariad' a'r 'cyd-ddyheu' a gododd y strwythur yr holl flynyddoedd yn ôl.

Y plac tu allan i'r neuadd gydag englyn R Williams Parry arnoFfynhonnell y llun, Neuadd Ddiwylliadol Mynytho
Disgrifiad o’r llun,

Y plac tu allan i'r neuadd gydag englyn R. Williams Parry arno

Heddiw, mae'r adeilad hwnnw yn wynebu argyfwng modern, ac mae'r pwyllgor presennol yn galw ar yr un ysbryd cymunedol hwnnw i'w achub unwaith eto.

Er bod y strwythur ei hun yn gadarn, mae amser a'r tywydd ar yr ucheldir wedi gadael eu hôl.

Mae dŵr yn dod i mewn trwy'r talcenni cerrig, gan greu problemau tamprwydd difrifol dros ben tu mewn. Mae'r hen gegin goncrit o'r 1950au wedi dod i ddiwedd ei hoes ac mae angen tynnu'r to asbestos, mae to'r ystafell snwcer yn gollwng, ac mae angen ail-doi'r brif neuadd yn gyfan gwbl.

Lluniau o'r difrod tu fewn i'r neuadd. Mae yna ymgyrch codi arian arlein er mwyn ceisio ariannu'r gwaith trwsio.Ffynhonnell y llun, Neuadd Ddiwylliadol Mynytho
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau o'r difrod tu fewn i'r neuadd. Mae yna ymgyrch codi arian ar-lein er mwyn ceisio ariannu'r gwaith trwsio

Yn ôl Huw, mae cynnal a chadw'r lleoedd hanesyddol hyn yn frwydr ddi-bendraw i bwyllgorau bach heb arian mawr:

"Munud ma' petha fel'na'n digwydd, y munud ma 'dŵr yn dod fewn... am fod 'na'm llawer o bres yna chwaith, tydi'r gwaith trwsio, cynnal a chadw… mae 'di bod yn anodd gwneud petha felly - wedyn mae o jysd yn ddi-ddiwedd.

"Maen nhw 'di trio ddwywaith dwi'n meddwl i stopio'r dŵr ond does 'na'm byd wedi gweithio yna."

Argyfwng cenedlaethol ar ôl Covid

Nid Mynytho yw'r unig bentref sy'n wynebu'r fath her. Ar draws Cymru, mae nifer o hen neuaddau pentref yn dod i ddiwedd eu hoes.

Yn ôl Huw fe gafodd y sefyllfa ei gwaethygu'n sylweddol gan y cyfnod clo.

"Wnaeth 'na lot o lefydd fynd, lle wnaeth bob dim jysd stopio dros nos. A wedyn aeth hi'n struggle i gychwyn ddim byd yn ôl wedyn. Mae pobl wedi jysd stopio defnyddio'r adeilad.

"A dwi'n meddwl bo 'na lot o adeiladau sy' 'di cael eu hadeiladu yn yr un adeg o gwmpas yr un amser, mae nhw gyd wedi eu hadeiladu'n yr un ffordd a wedyn mae nhw gyd efo'r un problemau."

Trwy golli mannau cyfarfod fel y neuadd, mae perygl i ddyfodol yr iaith ddirywio ac i drigolion droi fwyfwy at sgriniau yn hytrach nag at ei gilydd - gan adael cymunedau gwledig yn fwy ynysig, meddai.

"Mae'r gymuned yn mynd i golli petha fel y sioe flodau, Eisteddfod Gadeiriol Mynytho, ti'n mynd i golli cysylltiad efo pobl hefyd 'swn i'n tybio. Mae pawb ar eu ffôns; mae'r sioe a'r 'steddfod yn ffordd o dynnu pobl allan ac i siarad efo'i gilydd.

"Wedyn mae 'na beryg i'r Gymraeg hefyd - os nad wyt ti'n creu awyrgylch lle gei di ddefnyddio'r iaith Gymraeg - dio'm yn helpu dim i hynny chwaith nadi."

Mae canolfannau cymunedol fel Neuadd Mynytho yn hollbwysig i ddod a'r gymuned at ei gilydd yn ôl HuwFfynhonnell y llun, Neuadd Ddiwylliadol Mynytho
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfannau cymunedol fel Neuadd Mynytho yn hollbwysig i ddod â'r gymuned at ei gilydd yn ôl Huw. Y llynedd fe wnaeth y crochenydd Keith Brymer Jones ymweld â'r neuadd i feirniadu cynnyrch y sioe

I bwyllgor Mynytho, nid edrych yn ôl i'r gorffennol yw'r unig nod, na chwaith cau'r drysau ar y byd y tu allan. Mewn ardaloedd fel Pen Llŷn, lle mae nifer o bobl yn symud i mewn o'r tu allan, mae'r pwyllgor yn gweld y neuadd fel pont i ddod â phobl leol a mewnfudwyr at ei gilydd trwy ddiwylliant Cymraeg.

Mae teulu Huw ei hun yn adlewyrchu'r cyfuniad hwn.

"Dwi'm isho 'neud iddo fo swnio fel bo' ni'n gweld bai ar fewnfudwyr. Mae ngwraig i o'r Almaen, wedi symud i fyw yma, wedi dysgu'r Gymraeg, a 'di cael plentyn yma. Mae hi'n rhan o'r grŵp bach 'ma ar y pwyllgor sy'n trio atgyfodi'r neuadd a'r diwylliant sgena ni yma yn Mynytho.

"'Da ni isho dod a phobl at ei gilydd mwy na ddim byd. Rhannu diwylliant. Ti'n sbïo dyddiau yma ar wleidyddiaeth a sut mae o i gyd am 'ni a nhw' - 'da ni'n trio dod â phawb at ei gilydd, da ni'm isho rhoi pobl mewn bocsys."

I roi hwb i'r ymdrech hon, mae'r pentref yn trefnu diwrnod teuluol yr wythnos hon gyda cherddoriaeth byw, gemau i blant, pizzas a bar.

"Dyna 'da ni'n trio 'neud efo'r 'Miri' 'ma... isho gwneud rhywbeth rhatach. Os oes gen ti dri o blant, a tisho 'neud wbath, dio'm yn mynd i gostio'r ddaear.

"Dio'm ots os da chi'n siarad Cymraeg neu beidio."

Ynni gwyrdd a fflatiau i bobl ifanc: Gweledigaeth ar gyfer y ganrif nesaf

Mae'r cynlluniau hirdymor ar gyfer y lle yn adlewyrchu uchelgais y grŵp. Yn hytrach na dim ond trwsio'r to sy'n gollwng, mae pwyllgor y neuadd wedi cael adroddiad strwythurol ac wrthi'n ceisio am grantiau i drawsnewid y neuadd yn ganolfan gymunedol werdd ac ecogyfeillgar.

Mae'r weledigaeth yn cynnwys dymchwel yr hen adeiladau allanol concrit ac adeiladu estyniad modern, ynni-effeithlon wedi'i bweru gan baneli solar a phwmp gwres.

Ond nid dyna'r cyfan. Mae'r pwyllgor am ddefnyddio'r neuadd i helpu i ddatrys dwy o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cefn gwlad Cymru: cau ysgolion lleol a diffyg cartrefi fforddiadwy i bobl ifanc.

"Mae gena ni rhyw blaniau i wneud cylch meithrin ar gyfer helpu efo'r ysgol gynradd yn Mynytho, Ysgol Foel Gron. Ma' honno'n un o'r ysgolion sydd efo'r lleia o blant yng Nghymru, felly 'da ni isho trio hybu i gadw honno'n gorad. Mae honno'n broblem arall sydd gen ti yng nghefn gwlad, ydi ysgolion yn cau.

"Os gawn ni'r cyllid i'w wneud o, 'sa ni'n licio creu fflat yng nghefn y neuadd. Y pres yn helpu i gynnal y neuadd, ac i roi cyfle i bobl ifanc lleol cael hel pres deposit i gael mortgais. Mae hynny'n rhan o'r plan tuag at y diwedd."

Rhaglenni wedi eu hargraffu ar gyfer agoriad swyddogol y neuadd yn 1935 ac yna'r dathliad hanner canmlwyddiant ym 1985Ffynhonnell y llun, Neuadd Ddiwylliadol Mynytho
Disgrifiad o’r llun,

Rhaglenni wedi eu hargraffu ar gyfer agoriad swyddogol y neuadd yn 1935 ac yna'r dathliad hanner canmlwyddiant yn 1985

Mae'n weledigaeth hynod uchelgeisiol sy'n parchu ymdrech sylfaenwyr 1935, ond sy'n edrych ymlaen at sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y 100 mlynedd nesaf. I gyrraedd y nod, mae angen pob cefnogaeth leol - boed hynny drwy wirfoddoli neu archebu'r lle ar gyfer partïon.

Efallai bod yr adeilad wedi'i godi 'gan dlodi' yn y lle cyntaf, ond mae pwyllgor Mynytho yn hyderus mai'r un cariad a'r cyd-ddyheu hwnnw fydd yn ei achub ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig