Casineb yn dod i'r wyneb - argraffiadau gohebydd o Belfast wedi'r anhrefn

Yr olygfa ar Newtownards Rd, Belfast wedi'r anhrefn
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar Newtownards Rd, Belfast wedi'r anhrefn

GanOwain Evans
Gohebydd BBC CymruYn gohebu oBelfast
  • Cyhoeddwyd

Mae'r fflagiau mas ar Newtownards Rd. Mae baner yr undeb ar bob polyn lamp.

Fflagiau Ulster rif y gwlith, a sawl fflag Israel yn cyd-gyhwfan â nhw.

Croeso i ddwyrain Belfast?

Ry'n ni yn ardal Ballymacarrett yng nghysgod craeniau mawr melyn y dociau, ond nid rheiny yn unig sy'n bwrw cysgod dros yr ardal hon.

Mae dros hanner plant yr ardal yn byw mewn tlodi, mae dros hanner y boblogaeth yn hawlio budd-dal o ryw fath, a dyw bron i hanner y bobl oed gwaith yma ddim yn gweithio.

Yr ardal hon welodd yr anhrefn waetha' nos Fawrth wrth i gangiau fynd o dŷ i dŷ yn rhoi ceir ar dân heb feddwl dim am ddiogelwch y teuluoedd yn eu tai ar Lendrick a McMaster Street.

Ro'n nhw'n ymateb i achos honedig o drywanu nos Lun.

Owain Evans yn edrych ar gar wedi'i losgi ar Newtownards Rd, Belfast
Disgrifiad o’r llun,

Mae ein gohebydd Owain Evans wedi bod yn ardal Ballymacarrett - welodd yr anhrefn waetha' - yr wythnos hon

Mae dyn 30 oed sy'n wreiddiol o Sudan wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio.

Mae'r wasg o bob cwr o'r byd ar Lendrick Street am mai yn fan hyn mae'r lluniau gorau o'r difrod.

Mae meddwl am yr arswyd a'r golled i deuluoedd ar y stryd hon yn nhermau 'lluniau gorau' yn wrthun, wrth gwrs ei fod e, ond dyma'r delweddau sy'n dangos pa mor ddrwg oedd hi nos Fawrth.

Mae angen i bawb weld.

Dyw pobl leol ddim yn awyddus i siarad - ddim ar gamera beth bynnag.

Mae un o gynghorwyr dinas Belfast yn dweud wrtha i ei bod hi'n poeni am ddylanwad pobl o'r tu allan, ond mae hi'n cydnabod na allen nhw wneud hyn heb fod yna rhywfaint o gefnogaeth yn lleol.

Disgrifiad,

Owain Evans yn gohebu yn Belfast ddydd Mercher

Mae hon yn ardal sy'n cael cefnogaeth fel rhan o gynllun Communities in Transition i daclo'r hyn sy'n weddill o grwpiau parafilwrol a'r troseddu sy'n gysylltiedig.

Mae nifer o'r hen furluniau oedd yn dathlu brwydrau mudiadau'r UVF a'u tebyg wedi mynd.

Yn eu lle mae murluniau sy'n adlewyrchu hanes a diwydiant yr ardal.

Er yr ymdrechion, mae'r casineb yn dal yno dan yr wyneb, er bod y targed wedi newid.

"Mae hyn yn tanseilio'r gwaith ry'n ni'n trio ei wneud," meddai'r cynghorydd wrtha i.

Mae gweithiwr o gampfa gyfagos yn dod i'r stryd i weld yr olygfa.

"Ti'n dod o'r ardal?" gofynnais.

"God nadw," meddai, gan swnio'n ddiolchgar.

"Oes problemau yma?"

Dyw e ddim yn ateb. Dim ond codi ei aeliau a thynnu ei wynt yn sydyn drwy ei ddannedd.

"Oes ofn arnoch chi?" dyna'r cwestiwn i ddyn o dras Affro Caribïaidd sydd ddim yn bwriadu aros i siarad.

"Oes yn bendant," meddai. "Dwi'n mynd adre."

Yr olygfa ar Newtownards Rd, Belfast wedi'r anhrefn

Wrth i ni baratoi i ddarlledu mae criw mawr o bobl ifanc yn ymgynnull eto ar hyd Newtownards Rd.

Bechgyn yn eu harddegau cynnar ydyn nhw gan fwya', a'r wisg yn unffurf - joggers a hoodies tywyll.

Mae 'na deuluoedd ar y stryd hefyd yn aros i weld be' ddaw heno.

Mae 'na ddegau o blismyn yno hefyd.

Dwi'n ceisio taro sgwrs gydag un ohonyn nhw.

"Byddwch yn ofalus," meddai. "Mae'r bobl yma yn elyniaethus iawn tuag at y wasg."

Car DeLorean tu allan i Westy Europa yn Belfast
Disgrifiad o’r llun,

Car DeLorean o'r gyfres ffilmiau Back to the Future tu allan i westy Europa

Mae cerbydau Land Rover arfog yr heddlu yn gyrru o gwmpas. Fiw i unrhyw berson ifanc fod yn gwisgo mwgwd.

Mae canol Belfast y noson honno fel y bedd. Prin yw'r bwytai sy'n agored.

Mae atal trafnidiaeth gyhoeddus wedi dod â'r ddinas i stop.

I eraill mae bywyd yn mynd yn ei flaen.

Ry'n ni'n taro ar gar anarferol ond adnabyddus y tu allan i westy enwog Europa. Car DeLorean o'r gyfres ffilmiau Back to the Future.

Mae 'na gyfarfod mawr yn y ddinas a bydd 144 o geir yno.

Mae Belfast yn wynebu her wrth geisio atal hanes rhag ailadrodd ei hun.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig