Pencampwr cicfocsio yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dyn, 18

Rhoddodd teulu Ceiran Evans deyrnged iddo ddydd Llun, gan ddweud y bydd yn cael ei "garu am byth" ac na fydd yn cael ei anghofio
- Cyhoeddwyd
Mae pencampwr cicfocsio wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.
Bu farw Ceiran Evans, 18, wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic ar Ffordd Pen Cae Crwn yng Ngorseinon ar 9 Gorffennaf.
Mae Tyler Ford, sydd wedi bod yn bencampwr cicfocsio y byd naw gwaith, hefyd wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ail berson.
Siaradodd y diffynnydd o Dreforys, Abertawe, yn y llys i gadarnhau ei enw'n unig yn ystod y gwrandawiad ac ni chafodd cais i gyflwyno unrhyw ble.
Bydd y gwrandawiad ple yn digwydd ar 29 Medi a'r achos ei hun, sy'n debygol o bara pythefnos, yn cael ei gynnal ar 11 Ionawr.
Ychwanegodd y Barnwr Paul Thomas KC y bydd Mr Ford yn cael ei gadw'n y ddalfa.

Mae Tyler Ford wedi bod yn bencampwr cicfocsio y byd naw gwaith
Rhoddodd teulu Ceiran Evans deyrnged iddo ddydd Llun, gan ddweud y bydd yn cael ei "garu am byth" ac na fydd yn cael ei anghofio.
Mae dyn 19 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau, tra bod ymchwiliad Heddlu'r De yn parhau.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod pedwar dyn arall sydd wedi'u harestio fel rhan o'r ymchwiliad bellach ar fechnïaeth yr heddlu.
Mae'r rheiny'n cynnwys dyn 18 oed o Orseinon sy'n cael ei amau o lofruddio ac achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, dyn 33 oed o Orseinon sy'n cael ei amau o lofruddio, a dau ddyn 38 oed o Dregŵyr a Mount Pleasant sy'n cael eu hamau o gynorthwyo troseddwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
