Cyhuddo dyn, 18, o lofruddio wedi marwolaeth Gorseinon

Mae pum person bellach cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ar ôl i ddyn farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngorseinon, Abertawe.
Bu farw Ceiran Evans, 18 oed ac o Orseinon, wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic ar Ffordd Pen Cae Crwn am 12:58 ddydd Iau.
Mae dyn arall 19 oed yn parhau yn yr ysbyty ar ôl iddo gael ei anafu yn y gwrthdrawiad.
Mae Tyler Ford, 18 oed ac o Dreforys, wedi'i gyhuddo o lofruddio Ceiran Evans yn ogystal â cheisio llofruddio un arall.
Mae'n parhau yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun.

Roedd nifer o blismyn yn yr ardal brynhawn Iau
Dywedodd Heddlu'r De bod pedwar person arall wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad a'u rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd dyn o Orseinon, 18, wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.
Mae dyn arall o Orseinon, 33, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, a dau ddyn 38 oed, o Dregŵyr a Mount Pleasant, ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Dywedodd y llu bod teulu Ceiran Evans yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Blodau wedi'u gadael ar y safle ddydd Gwener
Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Danielle Thorne o'r Tîm Troseddau Mawr: "Mae teulu Ceiran Evans wedi cael gwybod am y datblygiadau ac maen nhw'n parhau i gael ein cefnogaeth yn ystod y cyfnod hynod ofidus hwn. Gofynnwn i'w preifatrwydd gael ei barchu.
"Er ein bod wedi cyhuddo unigolyn – cam sy'n hynod arwyddocaol – mae ein hymchwiliadau'n parhau ar gyflymder, ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
"Hoffwn ddiolch unwaith eto i bobl Gorseinon sydd wedi cefnogi swyddogion yn y fan a'r lle ac wedi dod ymlaen â gwybodaeth. Rydym yn gwerthfawrogi'r hyn yn fawr.
"Rydym yn ymwybodol o ddeunydd fideo o'r digwyddiad hwn ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rydym unwaith eto yn gofyn i bobl i beidio â'i rhannu, am resymau amlwg."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
