Y gefnogaeth sy'n dilyn triniaeth ganser fel y 'bwgan mawr does neb yn meddwl amdano'

Lindsey a'i phlentyn ieuengaf Doti yn canu'r gloch ar ddiwedd ei thriniaeth am ganser
- Cyhoeddwyd
Mae un sydd wedi byw â chanser wedi disgrifio'r gefnogaeth sydd ei angen yn dilyn triniaeth fel y "bwgan mawr does neb yn meddwl amdano fo".
Fe gafodd Lindsey Ellis o'r Bala ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2021 ac mae'n croesawu cynllun newydd elusen Macmillan.
Bwriad yr elusen yw hyfforddi bron i 50,000 o weithwyr iechyd a gweithwyr rheng flaen ar draws y DU er mwyn cynnig mwy o gefnogaeth i bobl sy'n byw gyda chanser.
Fe ddaw hyn wrth i elusen Macmillan rybuddio am "argyfwng canser cudd" sy'n gadael tua 1.7 miliwn o bobl â chanser ledled y DU yn wynebu problemau difrifol yn eu bywydau bob dydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd eu Cynllun Canser Cymru yn "amlinellu'r dull o gefnogi cleifion mewn lleoliadau clinigol ac yn nes at adref", tra bydd strategaeth gweithlu hirdymor ar gyfer GIG Cymru yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.
Yn ôl Macmillan, mae 59% o bobl â chanser yng Nghymru yn cael trafferth gydag effaith ddyddiol eu diagnosis, gyda llawer yn methu cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae'r elusen yn galw am fwy o weithredu er mwyn dod â mwy o gefnogaeth i ganolfannau iechyd a'r stryd fawr.
'Mae'n dipyn o sioc'
Dywedodd Lindsey Ellis, sy'n 43 oed o'r Bala, a gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2021, yn fuan wedi genedigaeth ei phumed plentyn, fod diffyg cefnogaeth ar ôl triniaeth yn enwedig yn broblem fawr.
"Mae'r gefnogaeth yn enwedig ar ôl cael triniaeth canser ddim yn safonol o gwbl i ddweud y gwir," meddai.
"Dwi'n cofio cael yr apwyntiad ola' efo'r doctor ac roedden nhw jyst yn d'eud, 'reit ffwrdd â ti 'wan," meddai.
"Ar ôl bod yn mynd i'r ysbyty bron bob dydd am tua dwy flynedd, mae hynny'n dipyn o sioc."
Dywedodd ei bod hi'n credu y dylai mwy o gymorth gael ei gynnig yn awtomatig i gleifion ar ddiwedd eu triniaeth.
Mae'n credu y dylai fod yn "routine" eich bod chi'n cael cynnig gwasanaeth cwnsela ar ôl triniaeth canser.

Mae Macmillan am hyfforddi bron i 50,000 o weithwyr iechyd a gweithwyr rheng flaen ar draws y DU
Dywedodd Lindsey fod sgil-effeithiau'r driniaeth yn parhau i effeithio ar ei bywyd bob dydd.
"Mae'r blinder yn rhywbeth mawr mae rhywun yn gorfod byw hefo fo, mae gen i broblemau o ran incontinence ac mae o'n cael effaith ar fy mywyd i bob dydd.
"Mae gen i bump o blant, a dwi ddim yn gallu mynd i lefydd lle dwi ddim yn gwybod os oes cyfleusterau yna.
"Mae o'n golygu bo' fi'n gorfod cynllunio pob dim yn well, neu weithiau dweud na oherwydd bo' fi ddim yn siŵr be' fydd y cyfleusterau ar ôl cyrraedd."
Ychwanegodd fod yr effaith seicolegol yn gallu bod yr un mor heriol â'r sgil-effeithiau corfforol.
"Pryder mwya' pawb sydd wedi cael canser ydy bod o unai'n mynd i ddod yn ôl neu bod o'n dod yn ôl a bo' ti ddim yn dallt bod o 'di dod yn ôl," meddai.
"Dwi'n meddwl bo' fi'n gallu dweud yn reit onest bo' fi ddim wir 'di cael cefnogaeth gan neb heblaw teulu a ffrindiau."
Croesawu'r cynllun
Mae Lindsey yn croesawu cynllun newydd Macmillan ac yn credu bod angen mwy o gymorth i bobl ar ôl iddynt orffen triniaeth.
"Dwi wir yn meddwl mai'r gefnogaeth yma ydy'r bwgan mawr does 'na'm neb yn meddwl amdano fo," meddai.
"Ma' triniaethau 'di dod mor effeithiol rŵan - mae pobl yn byw efo canser neu'n gwella o ganser bellach, ac mae angen mwy o gymorth i bobl sy'n delio gyda'r sgil-effeithiau am flynyddoedd wedyn, neu'r ôl-effeithiau o fod trwy brofiad mor erchyll."
Y salon sy'n rhoi hyder i gleifion canser
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Canser: 'Dynion angen siarad am golli gwallt'
- Cyhoeddwyd8 Awst 2019
'Dianc' i 'sgwennu caneuon wrth wynebu triniaeth canser y fron
- Cyhoeddwyd19 Mai
Mae Macmillan yn dweud bod 59% o bobl â chanser yng Nghymru yn cael trafferth gydag effaith ddyddiol eu diagnosis, gan wynebu problemau fel diffyg cwsg, pryder, colli incwm, trafferthion ariannol a phroblemau wrth ddychwelyd i'r gwaith.
Dywed yr elusen y bydd dod â chefnogaeth yn nes at gymunedau lleol nid yn unig yn gwella bywydau pobl o ddydd i ddydd, ond hefyd yn helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau'r GIG.
Mae Macmillan bwriadu yn darparu hyfforddiant i tua 5,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol mewn lleoliadau clinigol, ochr yn ochr â mwy na 40,000 o weithwyr rheng flaen ar draws y DU.
Mae'r rhain yn cynnwys fferyllwyr, parafeddygon, ffisiotherapyddion, dietegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith a staff meddygfeydd teulu.
Mae'r elusen hefyd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a busnesau lleol er mwyn annog mwy o sgyrsiau am ganser a helpu pobl i gael mynediad at gymorth yn gynharach ac mewn ffyrdd mwy hygyrch.

Mae Lowri Powell, 23, wedi cael diagnosis o Hodgkin lymphoma ddwywaith
Dywedodd Lowri Powell, 23 oed, sy'n byw ger Bancyfelin ac sydd wedi cael diagnosis o Hodgkin lymphoma ddwywaith, fod elusennau'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser.
"Yn amlwg mae'r GIG yn darparu'r gefnogaeth feddygol ond mae lot fawr o'r gefnogaeth emosiynol ac ariannol yn dod gan elusennau gwahanol."
Cafodd Lowri ddiagnosis cyntaf yn 2021 pan oedd ym Mlwyddyn 13, cyn i'r canser ddychwelyd ddiwedd 2024.
Dywedodd ei bod yn ddiolchgar am y cymorth a gafodd gan elusennau yn ystod ei thriniaeth.
"O'dd e'n gyfnod anodd ond trwy gefnogaeth teulu, ffrindiau ac elusennau fel Teenage Cancer Trust, Little Princess Trust a Young Lives vs Cancer fe ddes i drwyddi," meddai.
Mae hi hefyd yn croesawu cynllun newydd Macmillan.
"Gyda'r nifer o bobl sy'n cael diagnosis o ganser ar gynnydd mae'n hanfodol bwysig bod mwy o weithwyr ar gael i ateb y galw cynyddol hwnnw am gymorth.
"Mae cymorth elusennau fel Macmillan yn allweddol i gleifion yn dilyn diagnosis o ganser."
'Ddim yn deg'
Dywedodd Rhian Stangroom-Teel, Rheolwr Materion Allanol Macmillan ar gyfer Cymru: "Rydym yn gweld yn uniongyrchol sut y gall canser effeithio ar fywydau pobl mewn ffyrdd sy'n aml yn mynd heb i neb sylwi arnynt.
"Mae gormod o unigolion yn ei chael hi'n anodd cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a gall y profiad hwnnw fod yn waeth yn dibynnu ar ble maen nhw'n byw, pwy ydyn nhw, neu eu hamgylchiadau personol.
"Dyw hynny ddim yn deg, ac mae'n rhaid iddo newid."
Mae'r elusen yn rhybuddio bod y sefyllfa'n debygol o waethygu dros yr 20 mlynedd nesaf, gyda nifer y bobl sy'n byw gyda chanser yn y DU yn debygol o godi 58% i 5.4 miliwn erbyn 2045.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Bydd Cynllun Canser Cymru y llywodraeth newydd hwn yn amlinellu'r dull o gefnogi cleifion mewn lleoliadau clinigol ac yn nes at adref.
"Rydym hefyd yn cynllunio Cynhadledd Canser Cymru y flwyddyn nesaf i ddod ag arbenigwyr ynghyd a rhannu arferion gorau mewn gofal canser.
"Bydd strategaeth gweithlu gyffredinol hirdymor ar gyfer GIG Cymru yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.