Y salon sy'n rhoi hyder i gleifion canser

Cath a Becky'n gwirfoddoli yn Ysbyty GlangwiliFfynhonnell y llun, Cath Redfern
Disgrifiad o’r llun,

Cath a Becky'n gwirfoddoli yn Ysbyty Glangwili

GanAnna George
  • Cyhoeddwyd

Mae siop trin gwallt yn Nryslwyn ger Llandeilo yn cynnig gwasnaeth am ddim i gwsmeriaid sy'n colli eu gwallt wrth fynd drwy driniaeth canser.

Dywedodd perchennog y siop, Cath Redfern ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru: "Mae'r cwsmeriaid wedi fy nghefnogi i ers blynyddoedd, felly y peth lleiaf fedra i 'neud ydi cynnig eu cefnogi nhw drwy beth sy'n amser ofnadwy o anodd yn eu bywyd nhw."

Drwy gyd-weithio gydag elusen Cancer Hair Care, mae Cath a'i chyd-weithwr Becky'n rhoi wigiau synthetig am ddim a'u steilio, trin gwallt, a rhoi cyngor ar sut i ofalu am y gwallt a'r croen wrth fynd drwy driniaeth cemotherapi.

Rhoi hyder i'r rhai sy'n colli gwallt

A hithau'n trin gwallt ers dros 25 o flynyddoedd fe sylweddolodd Cath fod mwy o'i chwsmeiriaid yn cael ei heffeithio gan ganser y dyddiau hyn.

"Mae lot o cwsmeriaid fi'n cael canser, mae'r ystadegau yn un mewn dau nawr felly fi'n clywed e lot fwy na beth o'n i flynydde yn ôl.

"O'n i jest moyn helpu a rhoi tamed bach o normalrwydd yn ôl i rywun os ydyn nhw'n mynd drwy driniaeth fel cemo.

Cath a BeckyFfynhonnell y llun, Cath Redfern
Disgrifiad o’r llun,

Cath a Becky

"Dim doctor ydw i, fi ffili 'neud nhw'n well ond mae colli gwallt yn rhywbeth anferth.

"Ni wedi cael ein gwallt ers i ni gael ein geni a gall rhywun golli hyder wrth golli gwallt. Fi mewn sefyllfa lle i fi'n gallu helpu pobl yn fy ffordd fy hunan felly dyna beth i fi'n gwnud yn y salon. Fi moyn rhoi hyder i bobl sy'n mynd drwyddo fe."

Profiad personol

Mae effaith canser hefyd wedi bod yn rhan fawr o fywyd Cath ers ei bod hi'n blentyn gyda'i brawd, ei mam-gu, a'i mam wedi cael diagnosis.

"O'n i'n ifanc iawn pan gafodd fy mrawd, Ryan, ddiagnosis o ganser Hodgkin Lymphona pan oedd e'n 6 oed.

"Fi'n cofio mynd i weld e'n yr ysbyty yn colli gwallt, a merched bach hefyd."

Ei brawd Ryan, a'i mamFfynhonnell y llun, Cath Redfern
Disgrifiad o’r llun,

Ryan a Christine - brawd a mam Cath

Fe wellodd Ryan ond mae'r atgof o'i weld yn yr ysbyty'n sâl gyda phlant bach eraill yn un sy'n parhau'n ddwfn i Cath.

Fe gollodd ei mam-gu ei ganser yn ddiweddarach, a rhai blynyddoedd yn ôl fe gafodd ei mam ddiagnosis o ganser y fron.

"Oedd Mam yn lwcus iawn, gath hi wared ar y lwmpyn yn ei bron ac oedd hi'n ocê. Os bydde hi wedi colli ei gwallt bydde hi wedi bod yn devastated gan ei bod hi'n gymaint o fashionista."

Gwirfoddoli

Er mwyn cefnogi pobl sy'n wynebu triniaeth canser fe ddechreuodd Cath wirfoddoli yn Ysbyty Glangwili ddeunaw mis yn ôl.

Bob bore Iau bydd hi neu ei chyd-weithwraig Becky'n gadael y salon i wirfoddoli gydag elusen Cancer Hair Care yn yr ysbyty.

Cath a Becky gyda'u troli yn Ysbyty GlangwiliFfynhonnell y llun, Cath Redfern
Disgrifiad o’r llun,

Cath a Becky gyda'u troli yn Ysbyty Glangwili

Eglurodd: "Mae troli bach 'da fi gydag amrywiaeth o headwear a fringes a mae hwnna'n ryddhad i'r bobl sy'n cael cemo ar y pryd, jest i gael rhywun i siarad gyda a trafod y posibiliadau os bydd colli gwallt yn digwydd iddyn nhw.

"Gall capiau â ffrinjis bach ynddyn nhw fod yn gamechanger i rywun sydd ddim moyn wig."

Cefnogaeth yn y salon

Ond roedd Cath eisiau rhoi mwy o gefnogaeth i gleifion canser na gwirfoddoli'n wythnosol yn Ysbyty Glangwili.

Erbyn hyn mae Cath wedi trawsnewid ystafell yn ei salon yn Nryslwyn er mwyn gallu rhoi ymgynghoriad preifat ac am ddim i gwsmeriaid sy'n derbyn triniaeth cemotherapi.

Yno bydd hi, Becky neu'r ddwy yn trafod gwahanol opsiynau gyda'r cwsmer.

Yn ôl Cath, mae Becky'n "sidekick fabulous".

Ychwanegodd: "Mae Becky'n wych am roi gwybodaeth am beth sydd ar gael - wigs, headwear a pha shampŵ sy'n addas, ac mae'n wych am egluro sut i edrych ar ôl y croen a'r scalp."

wigiauFfynhonnell y llun, Cath Redfern
Disgrifiad o’r llun,

Wigiau synthetig

Yn ôl Cath mae torri wigiau a'u steilio i siwtio'r cwsmer mor bwysig.

Meddai: "Fi'n licio torri'r wigs, siapio fe rownd y wyneb, a'i steilio. Mae'n rhaid bod y cwsmer yn hapus, yn teimlo'n dda ac yn gyfforddus ynddo fe.

"Mae synthetic wigs yn fabulous erbyn hyn. Sdim pawb yn gallu fforddio prynu wig gwallt go-iawn am £700. Drwy weithio gyda elusen Cancer Hair Care gallwn ni roi synthetic wigs am ddim felly mae digon o opsiynau."

Gobaith Cath yw ei bod hi'n rhoi rhywfaint o gysur i rai sy'n mynd drwy amser caled.

Diwrnod hyfforddiant gydag elusen Cancer Hair Care yn Stevenage ger LlundainFfynhonnell y llun, Cath Redfern
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod hyfforddiant gydag elusen Cancer Hair Care yn Stevenage ger Llundain

Gwrandewch ar Cath yn sgwrsio ar Bore Cothi:

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.