Bachgen a drywanodd athrawes yn ei phen i dreulio cyfnod dan glo

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror eleni
- Cyhoeddwyd
Mae disgybl wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner mewn sefydliad i droseddwyr ifanc ar ôl trywanu athrawes yn ei phen â chyllell gegin.
Fe wnaeth y bachgen 16 oed ddilyn Vicki Williams i'w hystafell ddosbarth wag yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror eleni ar ôl gofyn am gymorth gyda'i waith cartref.
Fe dynnodd gyllell o'i fag ac ymosod arni, gyda Ms Williams yn dweud wrth y rheithgor ei bod yn ofni ei bod am farw.
Yn dilyn yr achos ym mis Gorffennaf fe gafodd y bachgen - nad oes modd ei enwi oherwydd ei oedran - ei ganfod yn ddieuog o geisio llofruddio, ond yn euog o anafu gyda bwriad.
Yn y gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y bu "cynllunio trylwyr" a bod "amser wedi aros yn ei unfan" i Ms Williams.

Clywodd y llys fod Vicki Williams wedi cael ei thrywanu yn ei phen a'i bod wedi cael anafiadau i'w bysedd a'i chefn hefyd
Dywedodd Ms Williams wrth y llys fod yr ymosodiad "wedi dod allan o nunlle" ar ôl i'r bachgen, oedd yn 15 oed ar y pryd, ofyn am help gyda'i waith ar ddiwedd diwrnod ysgol.
Dywedodd iddi sylwi arno'n edrych drwy ei fag wrth iddo ofyn a oedd ei waith yn gywir.
Yn ôl Ms Williams fe wnaeth y bachgen estyn cyllell gegin fawr o'i fag, a'i thrywanu yn ei phen.
Fe wnaeth yr athrawes afael yn y llafn, gwthio'r bachgen i ffwrdd gyda'i choesau, a gweiddi.
Cafodd anafiadau i'w phen, ei chefn a'i dwylo.
Disgrifiodd yr athrawes lygaid y bachgen yn ystod yr ymosodiad fel "casineb pur".

Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu, clywodd y llys nad yw Ms Williams yn gwybod a fydd hi'n medru mynd yn ôl i'w gwaith.
Dywedodd ei bod wedi bod yn "gyfnod emosiynol" a'i bod "wedi ymlâdd".
"Rwy'n canolbwyntio gormod ar yr hyn all fod wedi digwydd i fi," meddai, gan ychwanegu bod ei merch "bron wedi'i gadael heb fam".
"Nid yw fy nghyd-athrawon a minnau yn haeddu hyn am ein bod yn gweithio mor galed."
Dywedodd iddi ddychwelyd i'w hystafell ddosbarth gyda chymorth cydweithiwr yn ystod gwyliau'r haf.
Dywedodd iddi deimlo'n "anesmwyth" wrth i atgofion ddod yn ôl iddi yn yr ystafell.
"Ro'n i'n athrawes dda cyn hyn," meddai, gan ychwanegu na fyddai'n medru cwblhau ei gwaith yn iawn erbyn hyn.
"Fy mhenderfyniad i ddylai e wedi bod i adael dysgu."
Dywedodd ei bod yn dal i dderbyn cymorth a chwnsela yn gyson.

Fe wnaeth cyd-weithiwr Ms Williams ddweud ei bod yn edrych yn "ofnadwy" wedi'r digwyddiad, gyda rhannau o'i chroen "yr un lliw â chorff marw".
Fe wnaeth lluniau CCTV ddangos y bachgen yn rhedeg i ffwrdd o'r ysgol wedi'r ymosodiad.
Cafodd ei arestio yn ddiweddarach yn nhŷ ei fam-gu ar ôl dweud wrthi fod "rhywbeth wedi mynd" yn ei ben.
"Roedd yn llefain," meddai ei fam-gu wrth y rheithgor. "Roedd yn dal ei ben yn isel yn ei ddwylo."
Dywedodd y bachgen wrth y rheithgor ei fod ef a'i ffrindiau yn arfer "dod â phethau ar hap" i'r ysgol i weld beth fydden nhw'n gallu dod i'r ysgol heb i unrhyw un sylwi.
Roedd y bachgen yn mynnu bod Ms Williams wedi ei weld gyda'r gyllell a'i bod wedi "trio cael gafael" ar y gyllell ganddo.
Dywedodd ei fod wedi "ymosod arni ar ddamwain" wrth i hyn ddigwydd.
'Lwc llwyr' na gafodd ei lladd
Dywedodd Matthew Roberts, bargyfreithiwr y bachgen, fod yr hyn a wnaeth y diwrnod hwnnw "yn groes i'w gymeriad" ac mai "damwain" oedd hi.
Ychwanegodd nad oes tystiolaeth ei fod am achosi niwed difrifol yn y dyfodol.
Roedd y bachgen yn sefyll yn y doc yn gwisgo crys las, gyda nifer o'i deulu yn y galeri gyhoeddus.
Wrth ddedfrydu'r bachgen, dywedodd y Barnwr Thomas wrtho: "Dwi ddim yn gwybod pam wnes di ymosod ar Ms Williams gyda chyllell.
"Yr hyn rydw i yn gwybod yw dy fod wedi dod â chyllell y diwrnod hwnnw. Roeddet ti'n gwybod bod yr hyn roeddet ti'n ei wneud yn anghywir."
Ychwanegodd: "Fe wnes di gael Ms Williams ar ei phen ei hun yn ei ystafell ddosbarth ar ôl i'r ysgol orffen. Doedd neb yno i'w helpu.
"Rwyt ti'n fwy ac yn gryfach na hi, ac roeddet ti'n gwybod hynny."
Ychwanegodd mai "lwc llwyr" oedd nad oedd anafiadau Ms Williams yn waeth, ac y gallai fod "wedi ei ladd".
"Dwyt ti erioed wedi dangos dy fod yn sori am wneud hynny iddi."
Bachgen, 16, yn ddieuog o geisio llofruddio athrawes
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf
Aberdaugleddau: Cyllell yn yr ysgol 'er mwyn ei dangos i ffrindiau'
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
Achos llys trywanu athrawes - llafn y gyllell yn mesur wyth modfedd
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
Dywedodd Siôn Amlyn o undeb addysg NASUWT wrth BBC Cymru mai "eithriad" yw achosion o'r fath, ond "maen nhw'n ddigwyddiadau sydd ar gynnydd yn anffodus".
"Mae hi'n frawychus bod athrawon ysgol, sydd yna i greu sail i ddyfodol disgyblion, yn gorfod poeni am eu bywydau," meddai.
"Lle dysgu ydy ysgolion i fod, nid lle 'da chi'n bryderus am eich bodolaeth, ac mae'n drist o beth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.