Starmer yn 'agored' i sgwrs ar ehangu pwerau'r Senedd - Llywodraeth Cymru

KS a RapIFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Syr Keir Starmer wedi dweud wrth brif weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "agored i gael sgwrs" ynghylch rhoi mwy o bwerau i'r Senedd.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod y sylwadau wedi'u gwneud yn ystod galwad ffôn gan Brif Weinidog y DU i longyfarch Prif Weinidog Cymru ar ei benodiad.

Dywedodd Ap Iorwerth wrth Syr Keir ei fod eisiau trafodaethau nid yn unig ar fwy o bwerau i'r Senedd, ond ar arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a mwy o gyllid ar gyfer y rheilffyrdd.

Dywedodd Starmer y gallai trafodaethau ar bwerau'r Senedd ddechrau mewn cyfarfod o arweinwyr y llywodraethau datganoledig ym mis Mehefin.

Daw'r sgwrs ar adeg anodd i Keir Starmer wrth iddo frwydro i aros wrth y llyw yn dilyn galwadau arno i ymddiswyddo gan rai o weinidogion ei lywodraeth ac aelodau'r blaid Lafur.

Dywedodd Rhif 10 bod y ddau brif weinidog wedi "trafod cydweithio adeiladol er budd y genedl".

'Mwyafrif yn y Senedd o blaid mwy o bwerau'

Mae'n gyffredin i brif weinidog y DU alw prif weinidog newydd Cymru.

Yn ôl y datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, fe wnaeth Syr Keir longyfarch Ap Iorwerth ar ei benodiad gan ddweud ei fod yn "awyddus i sefydlu ffyrdd o weithio yn seiliedig ar fuddiannau cyffredin".

Dywedodd Ap Iorwerth ei fod eisiau datblygu "perthynas adeiladol" rhwng y llywodraethau.

Yn ôl y datganiad: "Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru egluro y bydd yn dymuno trafodaethau ar fformiwla Barnett, cyllid teg, pwerau benthyca, rheilffyrdd a datganoli pellach.

"Nododd y prif weinidog bod mwyafrif yn y Senedd, gan gynnwys grŵp Llafur Cymru, o blaid mwy o bwerau i Gymru."

Ychwanegodd fod Starmer wedi "cadarnhau y byddai'n agored i gael sgwrs ar bwerau sy'n ymwneud â datganoli" a chynigiodd gyfarfod wyneb yn wyneb ym mis Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod Prif Weinidog Cymru hefyd wedi cynnig cydweithio ar effaith y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ar gostau byw.

Cafodd Ap Iorwerth alwadau ffôn hefyd gydag arweinwyr y llywodraethau datganoledig Yr Alban a Gogledd Iwerddon: "Cytunodd pawb i weithio'n adeiladol ar faterion o ddiddordeb cyffredin."

Dywedodd Rhif 10 bod y ddau brif weinidog wedi "trafod cydweithio adeiladol er budd y genedl", gan gytuno ar "bwysigrwydd partneriaeth er mwyn cyflawni i bobl Cymru".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.