Plaid Cymru am gychwyn cynllunio taliad plant 'ar unwaith'

Sioned Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

  • Cyhoeddwyd

Fe allai rhai o deuluoedd tlotaf Cymru dderbyn mwy o arian wedi tri mis o gynllunio, yn ôl dirprwy brif weinidog newydd Cymru.

Mae gan Blaid Cymru gynlluniau ar gyfer cynllun peilot gwerth £10m, a fydd yn darparu £10 yr wythnos i 15,000 o blant hyd at 6 oed lle mae eu rhieni eisoes yn derbyn Credyd Cynhwysol.

Byddai'r taliad 'Cynnal' yn debyg i gynllun sy'n cael ei redeg yn Yr Alban, a gafodd ei dreialu'n wreiddiol fel taliad £10 yr wythnos ond sydd bellach yn £26.70 yr wythnos.

Cyhuddodd Reform y blaid o ddefnyddio hawlwyr budd-daliadau fel "gwystlon" yn ei "brwydrau ariannu gyda San Steffan".

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams wrth raglen Walescast y BBC y byddai'r gwaith yn cael ei wneud yn ystod y 100 diwrnod nesaf er mwyn "cychwyn" y cynllun.

Yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, nid oes gan weinyddiaeth Cymru reolaeth dros fudd-daliadau, ac mae 'na bryder y gallai Llywodraeth y DU dynnu arian oddi wrth rieni Cymru os ydyn nhw'n derbyn arian drwy'r cynllun yma gan lywodraeth Plaid Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn glir y bydd cynllunio ar gyfer Cynnal yn dechrau o fewn y 100 diwrnod cyntaf, a byddem yn edrych i'w gyflwyno cyn gynted â phosib wedi hynny."

Disgwyl cychwyn o fewn 100 niwrnod

Dywedodd Williams y byddai gweinidogion Plaid yn dechrau gweithio ar y cynllun ar unwaith: "Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni wedi dweud y byddwn ni'n dechrau gweithio arno ar unwaith i ddeall sut y byddai'n edrych, lle fyddai orau i dreialu hyn er mwyn cael y gwerthusiad priodol hwnnw o'i effaith."

Pan gafodd ei holi a fyddai'r llywodraeth yn gallu dweud y bydd modd i'r polisi hwn ddechrau ymhen 100 diwrnod, atebodd: "Gallwn."

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n mynd i'w gynllunio. Rydyn ni wedi dweud ein bod ni'n mynd i wneud y gwaith hwnnw yn y 100 diwrnod cyntaf, ac yna'n gallu ei gychwyn."

Pe bai'r peilot yn llwyddiannus, dywedodd Williams "y bydden ni wedyn yn cyflwyno'r achos" i Lywodraeth y DU.

"Pe bai angen rhagor o bwerau arnom... yna byddem yn cymryd y dystiolaeth sydd gennym, tystiolaeth sydd eisoes yn amlwg o'r Alban, a byddem yn gallu dangos yr effaith y mae wedi'i chael, ac yna byddem yn dweud bod angen y pwerau hynny arnom i'w gyflwyno ledled Cymru."

Bu Williams yn siarad â Walescast yn fuan ar ôl i'r prif weinidog, Rhun ap Iorwerth, gyhoeddi aelodau ei gabinet.

Yn ddiweddarach, pan ofynnwyd iddi egluro, ar Y Byd yn ei Le ar S4C, pa mor fuan y byddai'r cynllun yn dechrau, dywedodd Williams: "Bydd e'n dechrau cyn gynted â phosib ar ôl i ni fedru cael y cynllun yna at ei gilydd (a) gwybod sut allwn ni roi'r cynllun yna at ei gilydd. Cyn gynted â phosib wedi'r 100 niwrnod."

Mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, yn amheus iawn ynghylch y cynlluniau, gan gwestiynu cymhellion gwirioneddol Plaid Cymru.

"Mae'n gwbl aneglur a fyddai hyn yn gwneud unrhyw un yn well ei fyd.

"Os bydd San Steffan yn tynnu'r swm o fudd-daliadau eraill, byddai'r prosiect hwn yn defnyddio llawer iawn o adnoddau Llywodraeth Cymru heb unrhyw fudd i bobl sy'n gweithio.

"Nid moch cwta yw hawlwyr budd-daliadau ac ni ddylid eu defnyddio fel gwystlon ym mrwydrau ariannu Plaid gyda San Steffan."

CabinetFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth gyhoeddi ei gabinet brynhawn Mercher

Fe wnaeth Plaid Cymru hefyd addo gweithio tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol yn ystod eu hymgyrch etholiadol.

Yn gynharach ddydd Mercher, wrth siarad ar BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd y prif weinidog newydd mai cyfyngiadau ariannol yw'r rheswm pam na all ei lywodraeth fwrw ymlaen â'r syniad "ar hyn o bryd".

Dywedodd Ap Iorwerth y dylai'r llywodraeth "fod yn symud tuag at ofal cymdeithasol am ddim", ond dywedodd iddyn nhw "orfod gwneud rhai penderfyniadau wrth arwain at yr etholiad".

Ychwanegodd: "Ia, cyfyngiadau ariannol yw'r rheswm pam nad ydym yn y pen draw yn gallu dweud ein bod yn bwrw ymlaen â gofal cymdeithasol am ddim ar hyn o bryd.

"Ond dydy hynny ddim yn golygu nad ydyn ni'n meddwl bod cael system iechyd a gofal cenedlaethol yn hynod allweddol a'n bod yn parhau i weithio tuag at gyflawni'r dirwedd wirioneddol integredig honno."

Dywedodd hefyd fod angen "1,000" yn fwy o weithwyr gofal plant i gyflawni ei gynlluniau i ehangu gofal plant am ddim.

Mae'r blaid eisiau ehangu gofal i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed am 20 awr bob wythnos.

Gallwch wylio Walescast ar iPlayer.

Straeon perthnasol