Huw Stephens a'i gariad at y Super Furries

- Cyhoeddwyd
Mae un o fandiau mwyaf Cymru, y Super Furry Animals, yn ôl ar daith y mis yma.
Maent eisoes wedi perfformio yn Nulyn a Chaeredin, ac ar 14 a 15 Mai bydd y band yn perfformio yn Llandudno, cyn chwarae yng Nghaerdydd ar 16 Mai, a nifer o gigs eraill dros yr haf.
Yn y band mae Gruff Rhys yn brif leisydd ac ar y gitâr, Huw 'Bunf' Bunford ar y gitâr flaen, Guto Pryce ar y bâs, Cian Ciaran ar yr allweddellau a syntheseisyddion, a Dafydd Ieuan ar y drymiau. Ffurfiwyd y band yn 1993, gyda'r actor Rhys Ifans hefyd yn aelod cynnar.
Mae 20 Mai hefyd yn 30 mlynedd ers rhyddhau yr albwm cyntaf, Fuzzy Logic.
Un sydd 'di bod yn ffan o'r band ers y dechrau ydy'r DJ a chyflwynydd, Huw Stephens, sydd hefyd yn gefnder i Gruff Rhys.
Cyffro'r blynyddoedd cynnar
Felly, sut y daeth Huw i glywed am y Super Furries i ddechrau?
"Ro'n i'n gwybod fod fy nghefnder Gruff Rhys mewn band o'r enw Ffa Coffi Pawb yn y 90au - roedd fy chwiorydd yn ffans o'r band," meddai Huw.
"Roedd cylchgrawn pop a roc Sothach! yn llawn lluniau o'r Super Furry Animals, ac roedd eu dau EP cyntaf sydd newydd gael eu hail-ryddhau fel Procreation Percolation, yn gyffrous iawn."
Rhaglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru
Cerddoriaeth newydd a hen, wedi’i ddewis yn wythnosol gan Huw Stephens o’i gasgliad personol.

Huw gyda Dafydd Ieuan a Gruff Rhys
Mae'r Super Furries wedi pontio rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ers y dechrau, fel dywed Huw.
"Ro'n i'n clywed nhw ar Radio Cymru yn y nos, ac wedyn daeth y senglau ar label Creation.
"Yn sydyn roedd Super Furries ar Top of the Pops yn ogystal ag i-dot [rhaglen gerddoriaeth ar S4C yn y 90au], ar glawr yr NME yn ogystal â Sothach!, Radio 1 yn ogystal â Radio Cymru."

Fuzzy Logic, albwm cyntaf y Super Furries, cafodd ei ryddhau ar 20 Mai, 1996
Mae Huw yn cofio'r cyfnod yn ei arddegau pan roedd yn mynd i gyngherddau cynnar y Super Furries.
"Roedd yn gyffrous iawn. Mae dau gig cynnar yn aros yn y cof, sef un yn y Muni ym Mhontypridd, a dwi'n cofio Howard Marks yn dod mewn gyda posse enfawr o bobl yn ystod y gig. Roedd fel rhywbeth mas o ffilm.
"A'r gig arall oedd ym Mhrifysgol Caerdydd, wrth i newyddion am eu halbwm gyntaf Fuzzy Logic ddechrau cyrraedd. Roedd yr awyrgylch yn anhygoel.
"Dim ond 16 oed o'n i, felly roedd yn lot o hwyl bod mewn gig mor gyffrous.
"Dwi'n cyfri fy hun yn lwcus mod i wedi tyfu lan wrth i fandiau gwych fel Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci a Catatonia wirioneddol ffrwydro ar y sin."

Gruff Rhys yn perfformio gyda'r band yn 1996
Beth oedd dylanwad y Super Furries ar yr Huw Stephens ifanc?
"Mae Gruff ryw ddegawd yn hŷn na fi, felly er ei fod yn gefnder i mi a ni'n ffrindiau, roeddwn yn ffan enfawr o Super Furry Animals o'r cychwyn.
"Gwir, roedd yn dda gweld cynrychiolaeth Gymreig yn y wasg gerddoriaeth, ond doedd neb cweit fel yr SFA unrhyw le arall yn y sîn gerddorol.
"Pan roedd y wasg gerddorol ar ei gryfaf, gyda'r NME a Melody Maker yn feiblau pop i ni bob wythnos, roedd darllen dyfyniadau Bunf, Daf, Cian, Gruff a Guto yn wythnosol mor bwysig.
"Roedden nhw'n arbrofol ac yn anturus yn eu dylanwadau ac roedd eu hegni'n heintus. Roedd y dyfyniadau Cymraeg ar gloriau eu senglau, fel 'Gorau Chwarae, Cyd Chwarae' ar glawr God! Show Me Magic yn 1996, yn arbennig o cŵl.
"'Nathon nhw droi lawr hysbyseb gwerth ryw filiwn o bunnoedd i Coca-Cola. Doedden nhw ddim yn ofn rhoi eu barn ar bethe gwleidyddol. Roedden nhw'n gall ac yn gwbl wallgof; roedd eu dylanwad yn fawr ac yn gymhleth!"

Y band yng nghyfnod recordio Radiator yn 1997
Y gwaith celf a'r ddelwedd
Mae gan y Super Furries ddilyniant ledled y byd, gyda'r ffans yn gwirioni efo'r gerddoriaeth a'r ddelwedd mae'r band yn ei gynrychioli, gyda chymysgedd o hwyl a hiwmor.
"Roedd gwaith celf y band, gan artistiaid fel Pete Fowler a Mark James, y ddau o Gaerdydd, yn cyd-fynd â cherddoriaeth y band yn wych," meddai Huw.

Yr artist o Gaerdydd sydd wedi cydweithio yn agos efo'r Super Furries dros y blynyddoedd - Pete Fowler
Dros y blynyddoedd fe ddaeth cerddoriaeth y Super Furries law yn llaw â'r gwaith celf nodedig, ac fe ddaeth yn rhan annatod o waith y band.
"Roedd y pandas mawr o glawr Radiator, y cloriau 'pop-up' yn record Guerrilla, y CD Out Spaced mewn clawr plastig meddal a chlawr tryloyw Mwng mor drawiadol.
"Dydy'r dylanwad sydd ganddyn nhw ddim yn annisgwyl; dyma fand amryliw oedd mor unigryw, os oeddech chi'n ffan roeddech chi'n angerddol amdanyn nhw.
"Mae hynny wedi para hyd heddiw, ond nawr mae ffans ifancach eisiau gweld nhw yn fyw eto, fel ar eu taith bresennol a'r gigs mawr yn yr Eisteddfod a Llangollen. Dyma fydd cyfle llawer i weld nhw am y tro cyntaf."

Radiator a Mwng, dau albwm adnabyddus â gwaith Pete Fowler ar y cloriau
Gyda ffans yn dathlu 30 mlynedd ers rhyddhau Fuzzy Logic, sut mae recordiau cynnar y Super Furries wedi dyddio?
"Mae Fuzzy Logic, yr albwm hir gyntaf o 1996, wedi dyddio yn arbennig o dda. Mae 'na ganeuon tyner a thorcalonnus, fel Gathering Moss a Long Gone, a chaneuon doniol fel Fuzzy Birds am hamster Bunf.
"Y peth gwych am y band ydy bo' chi ddim yn gwybod beth ma' nhw am 'neud nesaf - dydyn nhw ddim yn cymryd eu hunain o ddifri, ond eto mae'r gerddoriaeth yn arbennig o ddyfeisgar, melodig ac o safon uchel.
"Mae traethawd gwych gan Gruff sy'n dod gyda'r albwm diweddaraf, lle mae'n disgrifio sut roedd eu cariad at gerddoriaeth electroneg yn hanfodol wrth i SFA ddechrau fel band; roedd eu cariad at y clybiau a'r sîn ddawns yn angenrheidiol i'w safbwynt o beidio eisiau bod yn fand gitâr arferol.
"Daeth Radiator a Guerrilla yn fuan wedyn, cyn i Mwng ddangos ochr gerddorol arall i'r band."

Y band yng Nghaerdydd yn 2001
Mae'r Super Furries wedi rhyddhau naw albwm stiwdio, ond maent hefyd newydd ryddhau dwy EP yn ddiweddar.
"Mae'r casgliad newydd, sy'n dod â'r ddwy EP gyntaf ar label Ankst at ei gilydd, yn swnio'n wych.
"Chi'n clywed bach o ddilyniant Ffa Coffi dwi'n meddwl. Maen nhw'n swnio yn rhydd ac yn barod am y dyfodol, fel dechrau newydd, a dwi'n meddwl fod 'na ryddid yn y cynhyrchu gan Gorwel Owen hefyd.
"Y syniad yna o ddechrau rhywbeth newydd - mae 'na draciau prin gyda Rhys Ifans yn canu gyda'r casgliad, fersiwn cynnar o The Man Don't Give a F*ck, a thraciau eitha' glam-rock. Mae'n ddiddorol iawn clywed y band yn gweithio allan pwy ydyn nhw."

Yn perfformio yn Theatr 3Olympia yn Nulyn, ar 6 Mai 2026
Wedi dros 30 mlynedd o ennyn dilyniant dros y byd, bydd llawer wedi eu cyffroi o gael y cyfle i weld y band unigryw yma unwaith eto, a llawer yn gobeithio y bydd mwy o gerddoriaeth ganddynt ar y ffordd.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd29 Medi 2025

- Cyhoeddwyd29 Medi 2025
