Bachgen wyth oed o Lanberis yn dringo 15 copa uchaf Eryri mewn 16 awr

Benji Jones a'i fam, Toni Howden yn ystod yr her
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen wyth oed o Lanberis yng Ngwynedd wedi cwblhau'r her o ddringo 15 copa uchaf yn Eryri mewn llai nag 16 awr.
Fe wnaeth Benjamin Jones gwblhau Her y 15 Copa mewn amodau gwael o fewn 15 awr a 58 munud ar 31 Awst, gan gerdded cyfanswm o tua 50km.
Mae'n cael ei ystyried fel un o heriau mynydda mwyaf heriol y DU, gyda'r 15 copa i gyd dros 3,000 troedfedd mewn uchder - a'r nod yw ei chwblhau o fewn 24 awr.
Dywedodd Benji ei fod wrth ei fodd yn rhedeg a dringo mynyddoedd, ond ei brif nod oedd codi cymaint o arian â phosib ar gyfer Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.

Benji a'r criw ar gopa Elidir Fawr
Dywedodd Benji ei fod yn teimlo'n "flinedig iawn" wrth iddo ddod at ddiwedd yr her, ond ei fod yn benderfynol o orffen.
Penderfynodd fynd o ddyffryn i ddyffryn yn hytrach na chychwyn o'r copa cyntaf, meddai.
Dywedodd mai "sleidio yn y mwd" a rhedeg i lawr Y Garn yn y Glyderau ar ddechrau'r her oedd ei hoff ran o'r profiad.
Ychwanegodd bod ei ffrindiau ysgol yn llawn edmygedd o'i gyflawniad yn ystod y gwyliau ysgol.

Benji a Toni yn gwneud eu ffordd i fyny Pen yr Ole Wen
Dywedodd ei fam, Toni Howden, 38, ei bod yn "falch iawn" o'i mab a'i bod hi'n "wyntog ac yn wlyb" pan ddechreuodd Benji'r her.
Roedd Toni yn "nerfus" am adael iddo ymgymryd â her mor anodd, ond roedd ganddo oedolion "profiadol ac anhygoel" o'i amgylch yr holl ffordd, meddai.
Dywedodd mai rhedeg yw hoff beth Benji a'i fod yn edmygu ei "arwr", y rhedwr Kílian Jornet.
"Dyna'r math o berson mae o eisiau bod," meddai.
Mae Benji yn aelod o glwb rhedeg ac yn hyfforddi unwaith neu ddwywaith yr wythnos ar hyn o bryd.
Roedd yn cerdded i fyny'r bryniau yn sydyn ond wedyn yn rhedeg i lawr y mynydd er mwyn arbed amser.
"Ro'n i'n arfer gallu cadw i fyny hefo fo ond alla i ddim erbyn hyn pan 'da ni ar y ffordd lawr!" meddai Toni.
Beth yw Her y 15 Copa?
Yr her yw ceisio dringo'r holl fynyddoedd yn Eryri sydd dros 3,000 troedfedd (914.4 metr) o fewn 24 awr.
Y rheiny ydy:
Yr Wyddfa, 3,559 troedfedd, 1,085m
Garnedd Ugain / Crib y Ddysgl, 3,494 troedfedd, 1,065m
Carnedd Llewelyn, 3,490 troedfedd, 1,064m
Carnedd Dafydd, 3,425 troedfedd, 1,044m
Glyder Fawr, 3,284 troedfedd, 1,001m
Glyder Fach, 3,261 troedfedd, 994m
Pen yr Ole Wen, 3,208 troedfedd, 978m
Foel Grach, 3,202 troedfedd, 976m
Yr Elen, 3,156 troedfedd, 962m
Y Garn, 3,106 troedfedd, 947m
Foel-fras, 3,090 troedfedd, 942m
Carnedd Gwenllian, 3,038 troedfedd, 926m
Elidir Fawr, 3,031 troedfedd, 924m
Crib Goch, 3,028 troedfedd, 923m
Tryfan, 3,011 troedfedd, 918m

Roedd ffrindiau Benji yn ei gefnogi trwy gydol y dydd
Dywedodd Toni bod Benji wedi cael cefnogaeth gan ffrindiau a oedd yn darparu bwyd ar y ffordd ac yn dal arwyddion gyda negeseuon cefnogol.
"Roedd o'n anhygoel, roedd gymaint o ymdrech gymunedol," meddai.
Dim ond tua dwy awr o seibiant gafodd Benji yn ystod yr her, oedd yn "anodd i wylio", meddai Toni, "achos oedd o wedi blino gymaint bechod".
Ond mae'n "gystadleuol", meddai ei fam, ac nid oedd yn barod i roi'r gorau iddi.
Mae Benji bellach wedi codi dros £1,800 ar gyfer Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.
Nawr, mae'n gobeithio dringo'r mynydd uchaf yn yr Alpau, Mont Blanc - sy'n 4,807m - cyn troi ei sylw at wneud Cylch Paddy Buckley - her arall yn Eryri sy'n cynnwys 47 copa.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.