'Twf yn y galw am addysg hyblyg ond llai o gyllid fesul myfyriwr' - Y Brifysgol Agored

Llun generic o fyfyrwyr mewn darlithFfynhonnell y llun, Getty Images
GanAimee Thomas
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae twf mewn dysgu hyblyg yng Nghymru "mewn perygl" heb fwy o gyllid, medd prifysgol.

Mae'r galw am addysg uwch hyblyg yng Nghymru yn cynyddu'n gyflym, ond gallai pwysau ariannol fygwth mynediad at astudio, yn ôl y Brifysgol Agored.

Dywedodd y brifysgol fod nifer cynyddol o bobl yn troi at astudio hyblyg rhan-amser wrth geisio cydbwyso addysg gyda gwaith, cyfrifoldebau gofalu a phwysau ariannol.

Mae nifer y myfyrwyr yn y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf, gan godi o lai na 7,000 yn 2014/15 i dros 16,000 heddiw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag adolygiad cyffredinol o gyllid addysg uwch i sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn ariannol.

Jospeh Garcia
Disgrifiad o’r llun,

Mae addysg hyblyg wedi galluogi Joseph Garcia i newid trywydd ac osgoi mwy o ddyled am fod modd gweithio tra'n astudio

Ymhlith y rhai sydd yn elwa o ddysgu hyblyg yw Joseph Garcia, 25, o Hendy, Sir Gaerfyrddin, sy'n astudio i fod yn athro.

Wedi graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd yn y gyfraith, fe benderfynodd nad oedd eisiau gyrfa o fewn y sector.

"Pan o'n i'n gweithio yn y swydd, o'n i'n meddwl nid dyma'r gyrfa i fi.

"Wedyn nes i ddod ar draws y cyfle i astudio rhan-amser i fod yn athro, ac mae'n hyblyg iawn ac yn meddwl does dim rhaid fi mynd nôl i brifysgol a chael mwy o ddyled."

Mae Joseph bellach yn gweithio llawn amser fel athro o fewn ysgol uwchradd, tra yn astudio rhan amser.

"Fe wnaeth yr hyblygrwydd a'r ffaith fy mod i'n gallu cael cyflog perswadio fi i adael y gyfraith a dilyn trywydd newydd.

"Fi'n credu i genhedlaeth fi, mae hyblygrwydd yn holl bwysig achos mae lot o bobol yn gweld yn bwysig bod bywyd tu fas gwaith hefyd."

Mae mwy na hanner holl fyfyrwyr addysg uwch rhan-amser Cymru bellach yn astudio gyda'r Brifysgol Agored.

Dywedodd Cerith Rhys-Jones, o'r Brifysgol Agored yng Nghymru, ei bod hi'n "dod yn gynyddol anodd i ni ddiwallu anghenion ein myfyrwyr".

"Un o'r prif heriau i ni ar hyn o bryd yw ein bod ni'n gweld twf sylweddol gyda nifer y myfyrwyr sy'n dewis astudio gyda ni, ond be' ni heb weld yw cynnydd yn yr arian y'n ni'n ei gael fesul myfyriwr," meddai.

"Roedd tua o 7,000 o fyfyrwyr gyda ni yn 2018. Heddiw mae gyda ni dros 16,000 o fyfyrwyr, ac mewn gwirionedd rydyn ni wedi gweld y cyllid fesul myfyriwr yn gostwng tua 30% mewn termau real dros y degawd diwethaf.

"Mae'n anoddach i ni ddarparu'r addysg mae pobl yn dymuno i gael, ac mae'r addysg yn bwysig iddyn nhw fel unigolion, ond hefyd i gymunedau ac i'r economi."

'Mae angen sgiliau newydd ar yr economi'

Ychwanegodd mai un o beryglon tanariannu addysg uwch hyblyg yw'r diffyg sgiliau o fewn y gweithlu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

"Rydym yn hyfforddi athrawon, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol ac mae angen y bobl hynny arnon ni yn ein gwasanaethau cyhoeddus," meddai.

"Ond hefyd mae angen sgiliau newydd ar yr economi. Mae'r gweithle'n newid a bydd angen i bobl uwchsgilio ac ailsgilio drwy gydol eu hoes ac mae angen i ni sicrhau bod y cyfleoedd yno i bobl wneud hynny."

Rhybuddiodd y gallai methiant i weithredu gan lywodraeth newydd Cymru greu "perygl gwirioneddol" i gynaliadwyedd hirdymor addysg uwch hyblyg.

Mae'n galw am well cyllid ar gyfer addysg uwch rhan-amser a pharhau â chymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr.

Erin GardenerFfynhonnell y llun, Erin Gardener
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elin Gardener y byddai wedi bod yn "sownd" o ran opsiynau os nad oedd y Brifysgol Agored yn bodoli

Mae Erin Gardener, 21, yn byw yng Nghaerdydd ac yn astudio athroniaeth a seicoleg yn y Brifysgol Agored.

Dywedodd fod yr hyblygrwydd a'r gallu i gael profiad ochr yn ochr â'i gradd yn bwysig iddi.

"Yn 18 oed, gwnes i gais am brifysgol yn Lerpwl ac nid oeddwn i wir yn barod i fynd i brifysgol.

"Wrth edrych yn ôl, dylwn fod wedi cymryd seibiant i ddarganfod beth roeddwn i eisiau wneud."

Rhoddodd y gorau i'w gradd nyrsio ar ôl blwyddyn a hanner a gweithiodd amryw o swyddi.

Ar ôl gweithio mewn ysgol fe benderfynodd ei bod eisiau mynd yn ôl i'r brifysgol a gweithio ym myd addysg, ond nid oedd ganddi ddigon o gyllid ar gyfer gradd draddodiadol.

"Rwy'n credu os nad oedd y Brifysgol Agored yn bodoli, byddwn i wedi teimlo'n sownd," meddai.

"Mae'n meddwl fy mod i dal yn gallu cael gradd a chael mynediad at bethau mae gradd yn eu hagor, a hefyd cael profiad mewn addysg gyda phlant wrth gael gradd hefyd."

Adolygiad yn parhau

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag adolygiad cyffredinol o gyllid addysg uwch".

"Y nod yw sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn ariannol a bod mwy o werth cyffredinol buddsoddi cyhoeddus o fantais i Gymru.

"Rydym yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae prifysgolion yn eu hwynebu a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r sector drwy gydol y broses hon i glywed eu safbwyntiau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.