Eisteddfod yr Urdd wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad awdur o Fôn

Marlyn SamuelFfynhonnell y llun, Marlyn Samuel
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Ma' Sir Fôn yn le reit fawr. Dwi'n teimlo'n hapusach yn fy nghynefin a sgwennu am fy nghynefin."

Dyna eiriau Marlyn Samuel, awdur a dramodydd o Fôn wrth i'r Ynys groesawu pobl yr wythnos hon i Eisteddfod yr Urdd.

Mae Marlyn yn awdur hynod o boblogaidd, sydd wedi cyhoeddi saith nofel ac mae hi hefyd yn aelod blaenllaw o Theatr Fach, Llangefni.

Fe wnaeth yr Urdd chwarae ran bwysig iawn yn ei thaith o rhoi inc ar bapur, dyma oedd ganddi i ddweud wrth Manon Steffan Ros ar ragen Llwyfan.

'Wastad isio sgwennu'

"O'n i wastad isio sgwennu nofel. Ond do'n i ddim yn gwybod sut i fynd ati. Drama o'n i wedi arfer sgwennu trwy'r cefndir Theatr Fach a dramâu radio.

"Ond do'n i ddim yn gwybod sut i fynd o'i chwmpas hi - yn enwedig y math o nofelau o'n i isho sgwennu, rhai ysgafn lle fysa ti'n gallu darllen rhyw bennod cyn mynd i gysgu neu wrth y pwll," meddai.

Ar ôl sgwrs gyda Mared Jones, oedd newydd ei phenodi yn Olygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn, dyma Marlyn yn anfon syniad a phennod am deulu yn mynd draw i Gyprus i wasgaru llwch pen y teulu, a thra yno mae 'na gyfrinachau mawr yn dod allan.

Fe gafodd y nofel ei chomisiynu ac ers hynny mae Marlyn wedi cyhoeddi chwe nofel arall.

Ers blynyddoedd mae Marlyn wedi bod yn aelod blaenllaw o Theatr Fach yn Llangefni, felly mae'r ddawn o sgwennu deialog yn dod yn naturiol iddi.

"Dwi'n mwynhau sgwennu deialog a dwi'n clywed y cymeriadau. Fyddai'n mynd â'r ci am dro ar ganol sgwennu pennod a weithiau ma rhywun yn mynd yn styc.

"Wrth fynd a'r ci am dro fyddai'n clwad y cymeriadau ma yn siarad efo fi yn fy mhen, mae'r ddeialog yn digwydd yn fy mhen i, rhuthro adra wedyn i gofio be dwi wedi ei drafod yn fy mhen."

Marlyn Samuel
Disgrifiad o’r llun,

Marlyn yn ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tudful 1987

Gydag Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ar Ynys Môn eleni, mae Marlyn yn un sydd wedi sefyll ar y llwyfan fel enillydd.

Nôl yn 1987, hi enillodd Y Fedal Ddrama pan yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tudful.

Ar ôl camu oddi ar y llwyfan fe ddywedodd wrth Roy Noble mewn cyfweliad am ei 'balchder' ar ôl ennill ac hyd yn oed bryd hynny roedd Marlyn yn pwysleisio ei hoffter o ysgrifennu deialog.

"Dwi wrth fy modd yn sgwennu straeon byrion, deialog a'r ddrama," meddai.

Hyd yn oed bryd hynny roedd Marlyn yn datblygu'r grefft o ysgrifennu'n fachog.

Nofel newydd?

O ran y dyfodol, mae Marlyn wedi dechrau ysgrifennu nofel newydd.

"Mae gen i un ar y gweill, dwi'n falch iawn o ddeud a megis dechra ydw i. Stori gwbl wahanol." meddai.

Yn aml mae Marlyn yn cael ei chanmol am ysgrifennu nofelau ysgafn ac mae llawer yn cael mwynhad mawr o ddarllen ei straeon sydd llawn hiwmor ac yn aml yn cyfleu cymeriad pobl Ynys Môn.

"Dwi'n gyffyrddus yn sgwennu am bobl o Fôn. Dwi'n meddwl weithia, 'be os fyswn i'n lleoli'r stori yma yng Nghaernarfon?' Fysa fo ddim yn gweithio'n ru'n fath a fysa fo ddim yn eistedd yn gyffyrddus efo fi.

"Dwi'n hapusach yn sgwennu am fy nghynefin," meddai.

Ac yng nghynefin Marlyn bydd Eisteddfod yr Urdd eleni, ble fydd person arall, os bydd teilyngdod, yn sefyll ar y llwyfan, 39 mlynedd ers i Malryn wneud yn 1987 gyda'r Fedal Ddrama rownd ei gwddf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol