Lluniau: Clwb Rygbi Aberaeron yn dathlu 50 mlwyddiant

Clwb Rygbi ArerbaeronFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Arerbaeron / Rhys Hafod
Disgrifiad o’r llun,

Tîm rygbi Aberaeron yn 1977 a heddiw

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Rygbi Aberaeron yn paratoi i ddathlu carreg filltir arbennig, ei 50fed tymor.

Mae hyn yn dod ar adeg cyffrous i'r clwb, gan fod y tîm cyntaf newydd ennill dyrchafiad o Ail Adran y Gorllewin i Adran Gyntaf y Gorllewin.

Yn wir, mae'r chwaraewyr wedi sicrhau dyrchafiadau cefn wrth gefn, gan iddynt gael dyrchafiad o Drydedd Adran y Gorllewin y llynedd.

Roedd Glyndwr Evans yn gyd-sylfaenydd y clwb, ac roedd yn ysgrifennydd i'r clwb am 40 mlynedd. Mae'n parhau i fod yn hynod weithgar o fewn y clwb, ac yma mae'n adrodd yr hanes:

"Sefydlwyd Clwb Rygbi Aberaeron yn 1977, megis ddoe yw'r atgofion ond mae'r blynyddoedd wedi hedfan.

"Yn y dyddiau cynnar chwaraewyd y gemau ar gae rygbi'r ysgol yng nghanol y dref. Dyma oedd lleoliad y gystadleuaeth adnabyddus rygbi saith bob ochr a oedd yn denu chwaraewyr rhyngwladol yn flynyddol.

"Erbyn 1986 gwireddwyd y cynllun o brynu cae, sef Parc Drefach ar gyrion y dref a dyma yw ein cartref ers hynny. Mae'n safle braf iawn gyda golygfeydd dros Fae Ceredigion."

Clwb Rygbi AberaeronFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Cinio cyntaf Clwb Rygbi Aberaeron - y cadeirydd Alan Pascoe (cyntaf ar y chwith) a gwestai gwadd, Dewi Griffiths o'r BBC (ail o'r chwith)

"Mae'r clwb yn un cymunedol a phrysur sydd yn gwasanaethu pawb yn yr ardal a thu hwnt," meddai Glyndwr.

"Mae balchder mawr yn ein chwaraewyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr, noddwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'r clwb.

"Mae'r tymor hwn wedi bod yn hanesyddol a llwyddiannus gan mai dyma'r tro cyntaf erioed i'r tîm cyntaf sicrhau dyrchafiad i Adran 1af Gorllewin Undeb Rygbi Cymru. Gwnaeth y tîm cyntaf hefyd gyrraedd rownd derfynol Cwpan Sir Benfro."

Tim Cyntaf Aberaeron, 1977Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Tîm cyntaf Clwb Rygbi Aberaeron, 1977. Capten cyntaf y clwb oedd Glyn Rees (rhes flaen, pedwerydd o'r chwith)

Ond roedd llwyddiannau tu hwnt i'r tîm cyntaf eleni, fel esboniai Glyndwr:

"Enillodd Gwylanod Aberaeron, sef ail dîm Cynghrair Llanelli a'r Cylch a chyrraedd rownd derfynol Cwpan AJT Recycling Llanelli a'r Cylch ym Mharc y Scarlets.

"Daeth hefyd canlyniadau da iawn i'r Adran Iau gyda'r tîm dan 16 oed yn chwarae yn rownd derfynol Cwpan Sir Benfro.

"Mae wedi bod yn dymor i'w gofio ac mae'r clwb yn mynd o nerth i nerth. Rydym yn edrych ymlaen at y tymor newydd a'r goron ar y cyfan fydd dathliadau'r hanner canmlwyddiant."

Parc DrefachFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Parc Drefach, cartref Clwb Rygbi Aberaeron

Rhaglen agor cae Aeraeron, 1986Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Agoriad swyddogol Parc Drefach Medi 15fed 1986. Yn agor y cae yn swyddogol oedd y diweddar Arglwydd Geraint Howells

Clwb Rygbi Aberaeron - saith bob ochrFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aberaeron yn adnabyddus am gystadleuaeth rygbi saith bob ochr. Cyn dyddiau rygbi proffesiynol bu sêr y gêm yn chwarae yn flynyddol.

Gyda'r gwpan yn ei ddwylo yma mae'r diweddar JPR Williams. Ers 2004 pwyllgor Clwb Rygbi Aberaeron sydd yn trefnu'r ŵyl

Gem 1988Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Gêm i ddathlu agoriad swyddogol adeilad Clwb Rygbi Aberaeron. Aberaeron XV v Denzil Williams XV (Cymru a'r Llewod) 1988

Pwyllgor Menywod Clwb Rygbi AberaeronFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Pwyllgor Menywod Clwb Rygbi Aberaeron yn 1988 pan agorwyd yr adeilad

Glyn ReesFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Glyn Rees, sef capten cyntaf Clwb Rygbi Aberaeron yn dadorchuddio Bwrdd y Capteiniaid yn 1991.

Ei fab Hywel oedd y capten o 1989 i 1991, ac roedd mab arall, Euryl, hefyd yn gapten. Wyr Glyn Rees, Steffan, yw un o gyd-gapteniaid y clwb heddiw

Gem gyntaf Aberaeron dan y llif-oleuadauFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Gêm gyntaf Aberaeron dan y llif-oleuadau yn 1995

Tim Kevin Phillips XV, 1995.Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Kevin Phillips XV a chwaraewyr Cymru a Chastell-nedd ar gyfer gêm gyntaf yn erbyn Aberaeron dan y llifoleuadau yn 1995

Aberaeron 1995Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Aberaeron yn nhymor 1995-1996

Ieuenctid Aberaeron - Dafydd JonesFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Ieuenctid Aberaeron gyda cyn-chwaraewyr y Scarlets a Chymru, Dafydd Jones, yn y rhes flaen, pumed o'r chwith

Dafydd Jones a Sioned HarriesFfynhonnell y llun, Getty Images/Clwb Rygbi Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dafydd 42 o gapiau dros Gymru rhwng 2002 a 2009.

Un arall o enwogion y clwb yw Sioned Harries, a enillodd 78 o gapiau dros ei gwlad

Aberaeron v Ty CroesFfynhonnell y llun, Rhys Hafod
Disgrifiad o’r llun,

Aberaeron yn chwarae'n erbyn Ty Croes eleni, gyda'r olygfa arbennig dros Fae Ceredigion yn y cefndir

AberaeronFfynhonnell y llun, Rhys Hafod
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm a wnaeth sicrhau'r dyrchafiad eleni, buddugoliaeth yn erbyn Llwchwr o 20-47

Glyndwr Evans gyda'r chwaraewyrFfynhonnell y llun, Rhys Hafod
Disgrifiad o’r llun,

Glyndwr Evans, cyd-sylfaenydd y clwb yn dathlu'r dyrchafiad gyda'r chwaraewyr

Tim ar ddiwedd y tymorFfynhonnell y llun, Rhys Hafod
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm wedi'r fuddugoliaeth a gipiodd y dyrchafiad

Tim dan 16 oed AberaeronFfynhonnell y llun, Rhys Hafod
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dyfodol yn edrych yn addawol gan i'r tîm dan 16 wneud yn dda eleni hefyd, gan gyrraedd rownd derfynol Cwpan Sir Benfro

Aberaeron efo'r cefnogwyrFfynhonnell y llun, Rhys Hafod
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r cefnogwyr yn ymuno â'r dathlu

AberaeronFfynhonnell y llun, Rhys Hafod
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr ail dîm (Y Gwylanod) ennill Cynghrair Llanelli a'r Cylch Tymor 2025-26, a chyrraedd rownd derfynol Cwpan AJT Recycling Llanelli a'r Cylch ar Barc y Scarlets

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: