Mab yn 'syfrdan' wedi i lwch ei dad gael ei wasgaru heb ei ganiatâd

David a John BishopFfynhonnell y llun, David Bishop
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl David Bishop, roedd ei dad John yn ddyn hyfryd ac yn "gymeriad lliwgar"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerllion ger Casnewydd yn dweud ei fod yn "syfrdan" ar ôl i lwch ei ddiweddar dad gael ei wasgaru gan amlosgfa heb ei ganiatâd.

Roedd David Bishop, 60, yn bwriadu casglu llwch ei dad, John, o Amlosgfa Gwent a'u cymryd i Sir Nottingham i gael eu claddu wrth ochr ei ddiweddar fam.

Ond pan gysylltodd David â'r amlosgfa ddydd Mercher, bythefnos ar ôl angladd ei dad, cafodd wybod bod ei lwch eisoes wedi cael ei wasgaru.

Yn ôl Co-op Funeralcare, mae eu cofnodion yn dangos bod y cyfarwyddiadau gafodd eu rhoi i'r amlosgfa yn "adlewyrchu dymuniad ein cleient", tra bod Cyngor Dinas Casnewydd, sy'n rheoli'r amlosgfa, yn dweud bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

John BishopFfynhonnell y llun, David Bishop
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw John Bishop yn 89 oed ym mis Ebrill ar ôl cael trawiad ar y galon

Mae David yn dweud ei fod yn teimlo'n "wag a diymadferth".

"Mae'n deimlad mor wag ei fod o, ar ddiwedd ei oes, wedi cael ei drin mor amharchus," meddai.

Yn ôl David roedd ei dad yn ddyn "hyfryd", yn "gymeriad lliwgar", ac yn "uchel ei barch".

Roedd hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar ei yrfa, meddai David, gan ddechrau fel prentis yng Nghwmbrân, cyn dringo drwy'r rhengoedd i ddod yn beiriannydd mwngloddiol, gan weithio ar draws Yr Alban a Lloegr, a gorffen ei yrfa fel pennaeth gwasanaethau peiriannau i British Coal yn Worksop.

Yn dilyn marwolaeth ei wraig June yn 2020, symudodd i gartref gofal yng Nghaerllion ym mis Ionawr i fod yn agosach at David, ei unig blentyn, ac fe ddirywiodd ei iechyd.

Bu farw yn sydyn ddiwedd Ebrill ar ôl cael trawiad ar y galon.

John a June BishopFfynhonnell y llun, David Bishop
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl David Bishop, roedd ei rieni John a June yn gwpl "eithriadol o agos", nes marwolaeth ei fam yn 2020

Dywedodd David fod y teulu wedi trefnu'r angladd drwy Co-op Funeralcare, yn unol â dymuniadau ei dad, gan fod y cwmni hefyd wedi trefnu angladd ei fam yng nghanolbarth Lloegr.

Er bod John eisiau i'r angladd gael ei gynnal yn ne Cymru, roedd wedi gofyn am gael claddu ei lwch ochr yn ochr â'i wraig yn Amlosgfa Babworth.

Cafodd yr angladd ei gynnal ar 26 Mai, ond dywedodd David fod popeth wedi newid pan ebostiodd Amlosgfa Gwent i drefnu i gasglu'r llwch.

Cafodd alwad yn fuan wedyn, yn rhoi gwybod iddo fod y llwch eisoes wedi ei wasgaru yn yr ardd goffa yno "gan ein bod yn credu mai dyna oedd y cyfarwyddyd gan y trefnydd angladdau".

'Dal methu deall y peth'

Dywedodd David ei fod yn "syfrdan", ac iddo adael ei waith yn gynnar.

"Rwy'n dal i fethu deall y peth," meddai.

Dywedodd bod Amlosgfa Gwent yn "ymddiheuro'n fawr" ac wedi dweud bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Fe gyflwynodd gŵyn i Co-op Funeralcare, ac fe gafodd alwad yn ddiweddarach lle dywedodd aelod o staff: "Rydyn ni yma i chi, ond rydym wedi edrych ar bopeth o'n safbwynt ni, ac allwn ni ddim gweld pam bod y cyfarwyddiadau wedi newid".

"Dwi'n dal ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd," meddai David.

"Rwy'n cymryd bod rhywun yn rhywle wedi gwneud camgymeriad, ond does neb wedi cyfaddef hynny eto.

"Maen nhw wedi dweud y bydd yn rhaid i mi aros nes bydd yr ymchwiliad wedi cael ei gwblhau, fydd wythnos nesa; mae'n debyg.

"Rydw i wedi bod yn fwy emosiynol dros y deuddydd diwethaf nag ar unrhyw adeg ers marwolaeth fy nhad, a tydi hynny ddim yn iawn.

"Rydw i wedi fy mrifo, ac alla i ddim gwneud yr hyn dwi angen ei wneud."

Hen lun o John BishopFfynhonnell y llun, David Bishop
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl David Bishop roedd ei yrfa yn bwysig iawn i'w dad, ac roedd wedi dringo drwy'r rhengoedd i ddod yn beiriannydd mwngloddiol

Dywedodd llefarydd ar ran Co-op Funeralcare bod eu cofnodion yn dangos bod y cyfarwyddiadau a gafodd eu rhoi i Amlosgfa Gwent yn "adlewyrchu dymuniadau ein cleient", Mr Bishop, o ran llwch ei ddiweddar dad.

"Rydyn ni wedi ein tristáu o ddeall na chafodd dymuniadau ein cleient eu dilyn, a'r loes y mae hynny yn ddealladwy wedi ei achosi, ac rydyn ni'n parhau i gefnogi Mr Bishop a'i deulu.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd unrhyw ymchwiliad gan Amlosgfa Gwent yn gallu rhoi'r atebion y mae'n ei haeddu."

Dywedodd Cyngor Dinas Casnewydd, sy'n rheoli'r amlosgfa, bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i "ddarganfod sut y gwnaeth hyn ddigwydd, ac i sicrhau na fydd yn digwydd eto yn y dyfodol".

"Rydyn ni wedi siarad gyda Mr Bishop, ac fe hoffen ni ymddiheuro yn gyhoeddus iddo ef a'i deulu am yr hyn sydd yn sefyllfa yr ydyn ni'n cydnabod sydd wedi achosi loes fawr," meddai llefarydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig