ASau'n gwrthod ymgais newydd i sefydlu cyfraith cymorth i farw

ymgyrchwyr y tu allan i'r senedd yn San SteffanFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn y mesur yn amlwg y tu allan i'r Senedd yn San Steffan ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn mesur fyddai'n caniatáu i bobl yng Nghymru a Lloegr sy'n nesáu at ddiwedd eu bywyd i gael cymorth meddygol i farw.

Yn dilyn trafodaeth emosiynol yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Gwener, fe wnaeth 270 o ASau gefnogi'r mesur, a 286 yn pleidleisio yn erbyn.

Byddai'r mesur wedi caniatáu i bobl dros 18 oed yng Nghymru a Lloegr y mae disgwyl iddyn nhw farw o fewn chwe mis wneud cais i gael cymorth meddygol i ddod â'u bywyd i ben.

Cafodd mesur tebyg ei gefnogi gan aelodau yn ystod y tymor seneddol diwethaf, ond cafodd y broses ei oedi yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Mae'r penderfyniad yma ddydd Gwener yn golygu na fydd unrhyw newidiadau i'r gyfraith cymorth i farw yn y dyfodol agos, ond fe fydd hawl gan AS i gyflwyno mesur arall ar y pwnc yn y tymor seneddol nesaf.

Roedd y rheiny o blaid y mesur yn dadlau ei bod yn deg bod pobl yn cael penderfynu eu hunain pryd i ddod â'u bywyd i ben os ydyn nhw'n dioddef.

Ond yn ôl gwrthwynebwyr, roedd y cynlluniau'n "anniogel" ac y byddai'n arwain at roi'r rhai mwyaf bregus o fewn cymdeithas mewn peryg o gael eu dylanwadau.

Sut wnaeth eich Aelod Senedd chi bleidleisio?

YN ERBYN

  • Ann Davies (Plaid Cymru - Caerfyrddin)

  • Stephen Doughty (Llafur - De Caerdydd a Phenarth)

  • Chris Evans (Llafur a Chydweithredol - Caerffili)

  • Nia Griffith (Llafur - Llanelli)

  • Ruth Jones (Llafur - Gogledd Casnewydd ac Islwyn)

  • Kanishka Narayan (Llafur - Bro Morgannwg)

  • Nick Thomas-Symonds (Llafur - Torfaen)

O BLAID

  • Alex Barros-Curtis (Llafur - Gorllewin Caerdydd)

  • Torsten Bell (Llafur - Gorllewin Abertawe)

  • David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol - Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe)

  • Catherine Fookes (Llafur - Sir Fynwy)

  • Gill German (Llafur - Gogledd Clwyd)

  • Becky Gittins (Llafur - Dwyrain Clwyd)

  • Claire Hughes (Llafur - Bangor Aberconwy)

  • Gerald Jones (Llafur - Merthyr Tudful ac Aberdâr)

  • Stephen Kinnock (Llafur - Aberafan Maesteg)

  • Ben Lake (Plaid Cymru - Ceredigion Preseli)

  • Anna McMorrin (Llafur - Gogledd Caerdydd)

  • Llinos Medi (Plaid Cymru - Ynys Môn)

  • Jessica Morden (Llafur - Dwyrain Casnewydd)

  • Andrew Ranger (Llafur - Wrecsam)

  • Liz Saville-Roberts (Plaid Cymru - Dwyfor Meirionnydd)

  • Nick Smith (Llafur - Blaenau Gwent a Rhymni)

  • Jo Stevens (Llafur - Dwyrain Caerdydd)

  • Mark Tami (Llafur - Alun a Glannau Dyfrdwy)

  • Henry Tufnell (Llafur - Canol a De Sir Benfro)

  • Steve Witherden (Llafur - Maldwyn a Glyndŵr)

NI BLEIDLEISIODD

  • Tonia Antoniazzi (Llafur, Gŵyr)

  • Chris Bryant (Llafur, Rhondda ac Ogwr)

  • Alex Davies-Jones (Llafur, Pontypridd)

  • Chris Elmore (Llafur a Chydweithredol - Pen-y-bont ar Ogwr)

  • Carolyn Harris (Llafur - Castell-nedd a Dwyrain Abertawe)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.