Cyhoeddi enillwyr gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

- Cyhoeddwyd
Cafodd gwobrau Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru Wales eu cynnal yn Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn.
Yn ogystal a'r 32 o enwebeion fe ddaeth nifer o westeion arbennig i'r seremoni ac fe gawfwyd perfformiad teimladwy o O Gymru a Bread and Roses gan Mared Williams yn y seremoni.
Yn arwain y dathliadau dwyieithog roedd Caryl Parry Jones a Lucy Owen, a daeth nifer o'r beirniaid adnabyddus i'r llwyfan i gyflwyno'r gwobrau i'r buddugwyr.
Wedi i dros 500 o enwebiadau ddod i law, dyma fel y gwelon nhw hi.
Gwobr Cymydog Arbennig

Cymydog Arbennig, Sally Thomas
Y rhestr fer:
Delwen Williams
Kelly Hayes
Julian Thomas
Sally Thomas
Mae Sally Thomas o Dreharris yn gymydog arbennig oherwydd ei bod hi'n mynd y tu hwnt o ofyn arferol o gymydog. Ar sawl achlysur mae hi wedi helpu cymdogion sydd yn sâl eu wedi'u hanafu i fynd at y doctor, gwneud tasgau bychain yn y cartref, mynd i wneud neges a paratoi prydau bwyd iddynt.
Yn ei chymuned ei hun mae hi'n darparu prydau bwyd i'r henoed ac yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol yn yr eglwys, a hynny o'i phoced ei hun.
Beirniad y wobr hon oedd yr actores Rakie Ayola, sy'n adnabyddus am ei rôl yn Holby City a fel Hermione Granger yn y cynhyrchiad llwyfan o Harry Potter & the Cursed Child.
Gwobr Anifail

Dylan Allman
Y rhestr fer
Woodfield Equine Sanctuary
Gareth Richards
Jane Jones
Dylan Allman
Pan welodd Dylan Allman ddraenogod yn ei ardd yn 13 oed fe benderfynodd ymgyrchu i warchod un o anifeiliad gwyllt mwyaf bregus y DU.
Drwy Hedgehog Aware mae wedi cyrraedd degau o filoedd o bobl ledled Prydain gan rannu gyda nhw ganllawiau ymarferol a chyngor eglur ynglŷn â sut i sicrhau goroesiad y creaduriaid pigog.
Pan oedd o'n 14 fel sefydlodd ymgyrch Be Hedgehog Aware, a gyda hynny fe lwyddodd i argyhoeddi cwmniau gweithgynhyrchu mawr fel Hyundai a STIGA i roi sticeri rhybudd ar offer garddio. Yn sgil hynny mae cannoedd o filoedd o beiriannau nawr â sticer gyda neges am ddiogelwch draenogod arnyn nhw gan leihau'r nifer o anafiadau a marwolaethau draenogod ledled y DU.
Beirniad y wobr hon oedd y cyflwynydd teledu a pherchennog sŵ Anna Ryder Richardson.
Gwobr Actif

Emma Parry
Y rhestr fer:
Emma Parry
Ray Woolley
Ray Barnes
Naz Kahn
Mae Emma yn rhedeg gwasanaeth i rieni a gofalwyr i blant ag ADHD. Sefydlodd Emma y grŵp Calon ADHD Project ar ôl i'w merch ladd ei hun oherwydd ADHD. Emma sy'n magu ei hwyrion ers y drasiedi. Mae gan y plant hynny ADHD hefyd.
Yn y grŵp mae hi'n trefnu gweithgareddau yn yr awyr agored i'r teuluoedd a'r plant. Y bwriad yw sicrhau fod y plant yn gallu cwrdd â phlant eraill tebyg iddyn nhw drwy weithgareddau fel nad ydynt yn teimlo ar eu pen eu hunain.
Mae hefyd yn gyfle i rieni drafod a rhannu problemau a chyngor gyda'i gilydd.
Lauren Price, y bencampwraig bocsio ac enillydd medal aur Olympaidd, oedd beirniad y wobr hon.
Gwobr Gwirfoddolwr

Kaz Jeffries
Y rhestr fer
Chris Rees
Kaz Jeffries
Wyn Thomas
Jack Bridger
Mae Kaz Jeffries yn rhedeg Canolfan y Byddar yn Llanelli. Bob wythnos mae hi'n gwirfoddoli rhwng 20 a 30 awr o'i hamser yno yn dysgu iaith arwyddo, cynnal grwpiau ymwybyddiaeth o fyddardod, yn eirioli dros wasanaethau i'r byddar ac yn codi arian yn rheolaidd gan sicrhau arian i adnewyddu adeilad y ganolfan.
Mae hi'n gwneud hyn er gwaetha'r ffaith bod ganddi hi ei hun Syndrom Ménière's – cyflwr yn y glust sy'n achosi fertigo, tinitws a byddardod. Hyd yn oed wrth ei gwaith, mae hi'n gofalu am eraill fel gofalwr cymunedol llawn amser.
Beirniad y wobr hon oedd y cyflwynydd a'r crëwr cynnwys, Bablu Shikdar.
Gwobr Arwr Ifanc

Noa-Rose Alderman
Y rhestr fer:
Noa-Roes Alderman
Masie Humphreys
Macy Grace Bates
Morgan Mace
Saith mlwydd oed yw Noa-Rose, ac mae hi'n byw gyda effeithiau sydd wedi newid ei bywyd yn sgil cael llid yr ymenydd (meningitis) pan oedd hi'n iau. Yn hytrach na gadael i'r cyflwr ddiffinio'i chymeriad a'i bywyd, fel benderfynodd godi ymwybyddiaeth o lid yr ymenydd.
Ers mis Medi 2024, mae Noa-Rose wedi codi dros £7000 i elusen Meningitis Now gyda'r arian yn mynd tuag at gefnogi teuluoedd mewn argyfwng, ymchwil angenrheidiol ac ymgyrchoedd sy'n codi ymwybyddiaeth a allai achub bywyd.
Mae hi'n llysgennad ymroddgar ac yn gweithio achor yn ochr â seren rygbi Cymru, Nick Tompkins i ledaenu'r neges drwy'r wlad, yn yr ysgol ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Y beirniad ar gyfer y wobr hon oedd y gantores a chyflwynydd radio, Bronwen Lewis.
Gwobr Grŵp Cymunedol (noddir gan Morning Live)

Yan White, rheolwr The Queer Emporium
Y rhestr fer:
meddwl.org
The Queer Emporium
Tir Dewi
Cwtch Baby Bank
Llwyddodd Yan White i drawsnewid ei siop yn y Royal Arcade yn ganolfan gynhwysol i gymuned LHDTC+ Caerdydd yn lle i gael coffi, sgwrs a chymuned y tu hwnt i fyd bariau a chlybiau. Drwy gefnogi artistiaid cwiyr lleol a chynnig croeso cynnes i bawb, mae Yan wedi creu gofod sy'n rhoi ymdeimlad o berthyn ac wedi gwneud Caerdydd yn lle mwy caredig a chynhwysol.
Mae'n cynnal digwyddiadau amrywiol ac wedi dod yn ofod diogel i aelodau bregus y gymuned LHDTC+ gymdeithasu gydag eraill.
Beirniad y wobr hon oedd y cyflwynydd Owain Wyn Evans.
Gwobr Codi Arian

Ray Roberts
Y rhestr fer:
Megan Jones Roberts
Chris Daniel
Ray Roberts
Abdul Seckham
Ers dros 45 mlynedd, mae Ray wedi trefnu pedair noson elusennol bob blwyddyn, gan godi rhwng £1,000 a £2,000 y tro i ystod eang o achosion da, gan gynnwys Felindre, ysbytai lleol, Headway, unedau strôc, Prostate Cymru, grwpiau dementia a nifer o elusennau canser.
Yn 86 oed, mae'n parhau i weithio'n ddiflino, gan drefnu digwyddiadau, gwerthu tocynnau a rafflau er mwyn codi arian i'r rhai sydd fwyaf angen cymorth. Er ei fod ef ei hun yn byw gyda chanser yr ysgyfaint ac wedi derbyn triniaeth yn Felindre, mae'n parhau'n benderfynol o roi yn ôl, gan godi dros £2,000 eto yn ei ddigwyddiad diweddaraf.
Mae ei ymroddiad a'i wasanaeth diflino i'r gymuned wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl. Dros ddegawdau o wirfoddoli a chodi arian, mae Ray wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau di-rif.
Beirniad y wobr hon oedd y comedïwr a chyflwynydd radio, Robin Morgan.
Gwobr Amgylcheddol

Ted Williams
Y rhestr fer:
Ted Williams
Canolfan Amgylchedd Abertawe
Maya Bimson
Grŵp Cymunedol Coetir Llyn Parc Mawr
Trwy greu gardd gymunedol a bywyd gwyllt ym Mharc y Betws a sefydlu grŵp gwirfoddolwyr "Ffrindiau Betws", mae Ted wedi trawsnewid hen gyrtiau tenis a thir a oedd wedi'i esgeuluso yn ofod hardd sy'n cael ei ddefnyddio a'i werthfawrogi bob dydd gan y gymuned.
Mae ei waith wedi gwneud llawer mwy na gwella'r amgylchedd leol. Mae Ted wedi adeiladu ymdeimlad cryf o gymuned, gan gynnwys ysgolion lleol fel Ysgol Betws, Ysgol Dyffryn Aman a Choleg Sir Gâr mewn gweithgareddau garddio sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Mae hefyd wedi gweithio gyda busnesau lleol i hyrwyddo arferion garddio cynaliadwy, gan gryfhau cysylltiadau ar draws y gymuned.
Drwy ei garedigrwydd, ei gyfeillgarwch a'i frwdfrydedd heintus, mae Ted wedi dod dod â phobl o'r un anian ynghyd. Mae ei waith wedi troi blerwch a chwyn yn hafan i fywyd gwyllt ac yn ganolbwynt cymunedol ffyniannus, gan adael etifeddiaeth barhaol i'r ardal a'r bobl sy'n byw ynddi.
Beirniad y wobr hon oedd yr ecolegydd ac ymgyrchydd natur, Joe Wilkins.
Llongyfarchiadau mawr i'r holl enwebeion ac enillwyr. Gallwch ddarllen mwy am y bobl sy'n gwneud gwahaniaeth ar Cymru Fyw a BBC Radio Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi

- Cyhoeddwyd25 Awst
