Pleidiau'n targedu codau post penodol ar y cyfryngau cymdeithasol

Cyfryngau cymdeithasolFfynhonnell y llun, Getty Images
GanOwain Evans
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur Cymru wedi gwario mwy na dwbl unrhyw blaid arall ar hysbysebion ar Facebook ac Instagram mewn cyfnod o fis cyn etholiad y Senedd, yn ôl data newydd.

Gwariodd y blaid £33,572 ar hysbysebion ar Meta rhwng 20 Mawrth ac 18 Ebrill, ac yn ail o ran gwariant oedd Plaid Cymru gyda £15,360.

Fe wariodd y Ceidwadwyr Cymreig £7,448, Reform UK £3,831, y Democratiaid Rhyddfrydol £959 a'r Blaid Werdd £182 yn ôl data Meta.

Dysgodd y BBC mai'r hysbysebion oedd yn cael eu gweld fwyaf oedd rhai oedd yn targedu trefi ac etholaethau penodol neu hyd yn oed godau post.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Mae Facebook ac Instagram - sy'n cael eu rhedeg gan Meta - yn rhannu digon o wybodaeth i allu gwneud cymariaethau defnyddiol. Mae Google yn cyhoeddi rhywfaint o ddata, dydy X ddim yn rhyddhua dim, a dydy TikTok ddim cyn caniatáu hysbysebion gwleidyddol ar eu platfform.

Edrychodd BBC Cymrun ar faint wariodd pleidiau gwleidyddol ar hysbysebion oedd yn targedu pobl Cymru'n benodol.

Mae'r cyfansymiau'n cynnwys gwariant gan ganghennau lleol ac ymgeiswyr unigol, ond dim ond os ydyn nhw wedi gwario mwy na £100 - mae llawer wedi gwario llai felly mae'r union ffigurau ar gyfer pob plaid yn debygol o fod yn uwch.

Mae'r data hefyd yn cynnwys tudalennau ymgyrchu sy'n cael eu rhedeg gan bleidiau, er enghraifft mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol dudalen o'r enw Stop Reform UK.

Nid yw'r ffigurau'n cynnwys gwariant ar ymgyrchoedd ar draws y Deyrnas Unedig er bod nifer o'r hysbysebion yma yn cael eu gweld gan bleidleiswyr yng Nghymru.

Mae rhai o'r pleidiau llai ac ymgeiswyr annibynnol wedi bod yn gwario arian ar hysbysebion hefyd.

Roedd yr hysbysebion eu hunain yn amrywio o ymosodiadau ar bleidiau a'u harweinwyr i ganolbwyntio ar bolisïau penodol. Roedd llawer o'r hysbysebion gafodd eu gweld fwyaf wedi'u targedu at drefi, etholaethau neu hyd yn oed godau post penodol.

Roedden nhw'n targedu pleidleiswyr yn ôl oedran a rhyw, a byddai ymgeiswyr lleol yn defnyddio hysbysebion i godi proffil gyda dolen i ddeiseb ar bwnc lleol.

Defnyddiodd rhai hysbysebion ddeisebau a dolenni cliciadwy i annog gweithgarwch.

Yn aml roedd pleidiau'n rhedeg sawl fersiwn o'r un hysbyseb ond yn talu iddyn nhw gael eu rhannu â gwahanol demograffeg.

Mae Dr Emma Connolly, o adran gwyddorau gwleidyddol Coleg Prifysgol Llundain, yn arbenigo yn y ffordd y mae naratifau gwleidyddol yn lledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd fod gwariant ar hysbysebu gwleidyddol ar blatfformau yn tyfu ac yn cael ei ddefnyddio i berswadio pleidleiswyr ac i sicrhau eu bod yn pleidleisio.

Ychwanegodd: "Pan fyddwch yn defnyddio hysbysebion taledig, mae gennych fwy o reolaeth dros bwy rydych yn eu targedu o ran daearyddiaeth neu o ran demograffeg, ac ar ba adeg yn ystod yr ymgyrch etholiadol."

Fel rhan o brosiect i fonitro'r hyn mae pleidleiswyr ffug yn ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol, gwelodd tri o chwe phroffil cudd BBC Cymru hysbysebion gan bleidiau gwleidyddol.

Mae proffiliau'r chwe phleidleisiwr cudd yn seiliedig ar ymchwil gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol, dolen allanol, sy'n ceisio deall natur etholwyr Cymru.

Er nad yw'r data'n rhoi darlun cyflawn o'r hyn mae pleidleiswyr go iawn yn ei weld, mae'r proffiliau wedi'u cynllunio i adlewyrchu ystod o gefndiroedd a safbwyntiau.

Bydd BBC Cymru yn parhau i fonitro'r ffrydiau hyn hyd at yr etholiad i weld sut mae'r ymgyrch yn datblygu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ogystal â hysbysebion swyddogol, gwelodd y pleidleiswyr cudd gamwybodaeth gan dudalennau annibynnol.

Beth mae'r pleidiau gwleidyddol yn ei ddweud?

Dywedodd Llafur Cymru na fydden nhw'n gwneud sylw, tra bod llefarydd Plaid Cymru yn dweud bod "cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hanfodol, gost-effeithiol o gysylltu'n uniongyrchol â phleidleiswyr ledled Cymru".

Ychwanegodd y blaid fod "mwy o bobl, yn enwedig cynulleidfaoedd iau, yn defnyddio newyddion ar-lein".

Dywedodd Reform UK Cymru mai dim ond nhw "all atal clymblaid arall rhwng Llafur a Phlaid Cymru a chyflawni newid go iawn i Gymru".

Dywedodd y Blaid Geidwadol eu bod wedi gwario ar daflenni a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at eu bwriad i "gael Cymru'n gweithio eto".

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.